Cymdeithas yr Eryron: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cymdeithas o feirdd oedd '''Cymdeithas yr Eryron''' a arferai gwrdd yn [[Tafarn y Bull|nhafarn y Bull]] yn y [[Bontnewydd]] yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd cyfarfodydd y gymdeithas o [[Betws Garmon|Fetws Garmon]] i'r Bontnewydd wrth iddi gael ei hailsefydlu fis Chwefror 1813. Prif amcanion y gymdeithas oedd (a dyfynnu o'r wasg): | Cymdeithas o feirdd oedd '''Cymdeithas yr Eryron''' a arferai gwrdd yn [[Tafarn y Bull|nhafarn y Bull]] yn y [[Bontnewydd]] yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd cyfarfodydd y gymdeithas o [[Betws Garmon|Fetws Garmon]] i'r Bontnewydd wrth iddi gael ei hailsefydlu fis Chwefror 1813. Prif amcanion y gymdeithas oedd (a dyfynnu o'r wasg): | ||
Y prif amcanion ydynt, cynnal a helaethu moddion ac achlysuron o ddiddanwch rhesymol, annog Brawdgarwch a Gwladgarwch cyffredinol. Mae'r gymdeithas yn amcanu cymmeryd dan ei hystyriaeth neilltuol y canghenau canlynol o wybodaeth: sef | Y prif amcanion ydynt, cynnal a helaethu moddion ac achlysuron o ddiddanwch rhesymol, annog Brawdgarwch a Gwladgarwch cyffredinol. Mae'r gymdeithas yn amcanu cymmeryd dan ei hystyriaeth neilltuol y canghenau canlynol o wybodaeth: sef CYMREIGYDDIAETH, BARDDONIAETH, HYNAFIAETH, HANESIAETH ynghyd ag amryw Fân-ganghenau eraill o wybodaeth, y rhai sydd yn dwyn mesur o berthynas naturiol i'r Prif-ganghenau uchod.<ref>''North Wales Gazette'', 18.2.1813, t.4</ref> | ||
[[Dafydd Ddu Eryri]] oedd sylfaenydd ac arweinydd y gymdeithas hon, ac ymysg yr aelodau oedd [[William Williams, Bodaden]], a oedd yn ffarmwr cefnog, ac yn frawd i Evan Williams, tafarnwr y Bull.<ref>W. Gilbert Williams, "William Williams, Bodaden", yn ''Moel Tryfan i'r Traeth'', tt.146-51.</ref> William Williams oedd y Cofiadur, a phenodwyd Evan Williams yn Drysorydd. Ynghyd â'r tri hyn, roedd Hugh Jones ac R. Jones (sef, o bosibl, Richard Jones, Erw Styffylau), yn aelodau o gyngor y gymdeithas.<ref>''North Wales Gazette'', 18.2.1813, t.4</ref> | [[Dafydd Ddu Eryri]] oedd sylfaenydd ac arweinydd y gymdeithas hon, ac ymysg yr aelodau oedd [[William Williams, Bodaden]], a oedd yn ffarmwr cefnog, ac yn frawd i Evan Williams, tafarnwr y Bull.<ref>W. Gilbert Williams, "William Williams, Bodaden", yn ''Moel Tryfan i'r Traeth'', tt.146-51.</ref> William Williams oedd y Cofiadur, a phenodwyd Evan Williams yn Drysorydd. Ynghyd â'r tri hyn, roedd Hugh Jones ac R. Jones (sef, o bosibl, Richard Jones, Erw Styffylau), yn aelodau o gyngor y gymdeithas.<ref>''North Wales Gazette'', 18.2.1813, t.4</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:46, 13 Mawrth 2025
Cymdeithas o feirdd oedd Cymdeithas yr Eryron a arferai gwrdd yn nhafarn y Bull yn y Bontnewydd yn ail ddegawd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Symudodd cyfarfodydd y gymdeithas o Fetws Garmon i'r Bontnewydd wrth iddi gael ei hailsefydlu fis Chwefror 1813. Prif amcanion y gymdeithas oedd (a dyfynnu o'r wasg):
Y prif amcanion ydynt, cynnal a helaethu moddion ac achlysuron o ddiddanwch rhesymol, annog Brawdgarwch a Gwladgarwch cyffredinol. Mae'r gymdeithas yn amcanu cymmeryd dan ei hystyriaeth neilltuol y canghenau canlynol o wybodaeth: sef CYMREIGYDDIAETH, BARDDONIAETH, HYNAFIAETH, HANESIAETH ynghyd ag amryw Fân-ganghenau eraill o wybodaeth, y rhai sydd yn dwyn mesur o berthynas naturiol i'r Prif-ganghenau uchod.[1]
Dafydd Ddu Eryri oedd sylfaenydd ac arweinydd y gymdeithas hon, ac ymysg yr aelodau oedd William Williams, Bodaden, a oedd yn ffarmwr cefnog, ac yn frawd i Evan Williams, tafarnwr y Bull.[2] William Williams oedd y Cofiadur, a phenodwyd Evan Williams yn Drysorydd. Ynghyd â'r tri hyn, roedd Hugh Jones ac R. Jones (sef, o bosibl, Richard Jones, Erw Styffylau), yn aelodau o gyngor y gymdeithas.[3]
Ceir disgrifiad o un o'i chyfarfodydd yn y North Wales Gazette ym 1813,[4] ac ni ellir rhagori ar ddyfynnu o'r papur er mwyn disgrifio'r math o gyfarfod a gaed gan yr aelodau.
ERYRON. Cyfarfod yr Eryron a gynnaliwyd yn y Bont Newydd, ar ddydd Llun y Pasc, 1813. Agorwyd y cyfarfod ynghylch dau o'r gloch brydnhawn. Dychwelodd y Beirdd adref ynghylch machlud haul. Y cyfarfod uchod a gynhaliwyd yn y modd mwyaf dymunol, o ran rheol a gweddusder: undeb a brawdgarwch oeddynt yn ymddangos yn dra eglur yn y Gymdeithas. Yn y cyfarfod uchod, dadganwyd pedair o Awdlau ar y testyn gosodedig sef: ystyriaethau ar yr honniadau pabaidd: Enwau'r Beirdd a ganasant ar y testyn ynghyd a rhifedi'r llinellau yu eu candadau, sydd fel y canlyn: 1. Richard Jones, Erw Ystyffylau, Llanwnda, yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 185 o linellau. 2. Richard Hughes, Ty yn y lon, Fodadan, Llanwnda; Awdl, yn cynnwys 164 o linellau. 3. William Edward, Waun fawr, yn agos i Gaernarfon; Awdl, yn cynnwys 141 o linellau. 4. Owen Williams, Waun fawr; Awdl, yn cynnwys 127 o liuellau. Yn gymmaint nad caniadau ar destyn o ymryson ydyw'r caniadau a grybwyllwyd uchod, ac nad oedd ychwaith un gwobr wedi ei addaw i'r Goreufardd; ni thybiwyd yn angenrheidiol rhoddi barn neillduol arnynt. Dymunol i'r Beirdd ieuaingc gael amser o Brofiad. Dymunol hefyd ydyw gochelyd pob achlysir o eiddigedd a rhagfarn, yr hyn bethau sydd yn fynych yn oeri gwresawgrwydd Brawdgarwch, ac yn torri rhwymyn cymdeithas. Er hyn oll, nid ydyw'r Gymdeithas yn amcanu gadael i'r caniadau ddiangc yn ddiystyr; Mae'n deilwng i haeddiant gael ei deilyngdod. Ar olwg gyffredinol mae'n ymddangos fod y caniadau crybwylledig yn cynnwys amryw darawiadau gorchestol. Ond nid yw yn beth arferol yng nghymdeithas yr Eryron, rhoddi barn ar un gwaith newydd, nes iddo gael ei ystyried yn fanylaidd a phwyllog, mewn dau neu dri o Gyfarfodydd. - Cynghorir y Beirdd, unwaith ychwaneg, i ochel gorfeithder yn eu caniadau nesaf, ar y testyn gosodedig, erbyn yr unfed ar ddeg o Awst nesaf: Cofier mai'r testyn ydyw Dychweliad yr Iddewon.
Richard Jones, Yr Erw (neu Erw Ystyffylau) enillodd yr ornest am awdl ar Ddychweliad yr Iddewon, a chyhoeddwyd ei waith yn y wasg[5]. Mae'n amlwg o'r uchod bod y Gymdeithas yn cyfarfod yn chwarterol, a bod y cyfarfod a'r gyfeillach yn parhau am ddwy neu dair awr. Boed hynny fel y bo, mae'n ymddangos mai byrhoedlog oedd oes y gymdeithas yn y Bontnewydd, ac ni cheir adroddiadau yn y wasg ar ôl Medi 1813.