R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn arholiadau i bencerddi, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> | Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn arholiadau i bencerddi, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.<ref>''Yr Herald Cymraeg'', 28.7.1908, t.5</ref> | ||
Priododd â'r gantores Moelwyn Jones ar ddechrau 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5</ref> | Priododd â'r gantores Moelwyn Jones, a hanai o Ffestiniog, ar ddechrau 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 9.1.1918, t.5; ''Y Darian'', 6.12.1917, t.8</ref> | ||
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd: | Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd: |
Fersiwn yn ôl 10:09, 3 Mawrth 2025
Cerddor o Garmel oedd R. Hughes Jones, a adweinid fel Pencerdd Llifon. Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn byw yn Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar destun "Ieuan Gwyllt".[1]
Fe'i derbyniwyd i'r Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn arholiadau i bencerddi, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[2]
Priododd â'r gantores Moelwyn Jones, a hanai o Ffestiniog, ar ddechrau 1918.[3]
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:
- PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr Dy lawsygrif, gyfaill llon, Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, Yn creu hiraeth dan fy mron 'Rwyt am ddyfod eto i ganu Y Nadolig, medda ti, Na, hen ffrindiau, y mae amser Wedi newid gyda ni.
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r Cor yn canu fel un llu, Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", A "Gwnaed concwest ar Galfaria," "Ffarwel iti, Gymru fad," Nes y byddai creigiau Cilgwyn Yn adseinio mewn mwynhad.
Canu'r nos, a chanu'r bore, Fuom gynt yng Nghymru wen, Ac fe genir eto yno Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen Er i dywyll amgylchiadau Yrru'r plant i estron dir, Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, Ganddynt wneir am amser hir.
Ond gobeithiwn y daw dyddiau Difyr eto, megis cynt; Pan y gwelir meibion Gwalia Wedi dychwel ar eu hynt; Ac y ffu'r cymylau duon 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, Pan y clywir cân a moliant Eto'n nghymoedd Cymru Wen.
- RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[4]