Eisteddfod Pen-y-groes 1871: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Irion y dudalen Eisteddfod Penygroes 1871 i Eisteddfod Pen-y-groes 1871 heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:16, 27 Ionawr 2025

Cynhaliwyd Eisteddfod ynm Mhenygroes fis Ebrill 1871 ar raddfa lawer mwy na'r eisteddfodau arferol a gynhelid mewn capeli. Roedd pafilwin canfas wedi ei godi gyda lle i ryw 4000 o bobl. Denwyd cynulleidfaoedd mawrion trwy'r dydd,. a gorfennwyd trwy gynnal cyngerdd gyda'r nos. Bu nifer o gystadleuwyr pur amlwg yn cael eu henwi yn yr adroddiadau. Llwyddwyd i sicrhau bod yna lywyddion ac arweinwyr safonol iawn hefyd. Dichon na ellid gwneud yn well na dyfynnu'r adroddiad am yr eisteddfod nodedig hon, sef adroddiad a ymddangosodd yn Y Goleuad[1]:

  1. YGoleuad, 15.4.1871, t.9