William Bifan, y Gadlys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Irion y dudalen William Bifan y Gadlys i William Bifan, y Gadlys heb adael dolen ailgyfeirio |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, [[Llanwnda]] yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’). | Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, [[Llanwnda]] yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’). | ||
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan [[Dafydd Ddu Eryri]] ym [[Betws Garmon|Metws Garmon]] er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".<ref>''Y Bywgraffaiadur Cymreig'' (Llundain, 1953), t.883</ref> | |||
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "''Yn wyneb, yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono''". | Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm [[Bodaden]], Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd [[W. Gilbert Williams]] amdano, "''Yn wyneb, yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono''". | ||
Llinell 7: | Llinell 9: | ||
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdan ei fraw, | Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdan ei fraw, | ||
''William Bifan Druan'' | |||
''Sydd wedi colli’i facsan | |||
''Sydd wedi colli’i facsan | ''Yn chwilio amdano ers mwy nag awr | ||
''Yn nhalwrn mawr Bodadan. | |||
''Yn chwilio amdano ers mwy nag awr | |||
''Yn nhalwrn mawr Bodadan. | |||
Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o ''talwrn'' a ''parlwr'' ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn. | Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o ''talwrn'' a ''parlwr'' ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn. | ||
Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn, | Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn, | ||
''Mae llawer math o erfyn'' | |||
''I’w gael ar Werglodd Gudyn'' | |||
''I’w gael ar Werglodd Gudyn'' | ''Ond torrir heddyw, gwneir yn wir'' | ||
''Prydau ar dir Caerodyn. | |||
''Ond torrir heddyw, gwneir yn wir'' | |||
'' | Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau [[Uwchgwyrfai]] ers talwm.<ref>W. Gilbert 'Williams, ''Hen Gymeriadau Llanwnda'', ''Cymru'' 1902 (Cyf. 23).</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]] | [[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Beirdd]] | |||
[[Categori:Pobl]] |
Fersiwn yn ôl 08:38, 13 Mehefin 2024
Hen gymeriad o gyffiniau Llanwnda oedd William Bifan y Gadlys.
Ganwyd yn Ffermdy Gadlys, Llanwnda yn 1730. Bedyddiwyd yn William Evans, ac yn ôl y traddodiad Cymraeg y pryd hynny, fe ddilynodd y ffasiwn batronymig o ddefnyddio Bifan fel ail enw (William ab Ifan, wedi ei grynhoi i ‘Bifan’).
Roedd yn un o'r beirdd a alwyd ynghyd ar ddiwedd gaeaf 1783-4 gan Dafydd Ddu Eryri ym Metws Garmon er mwyn cychwyn cyfarfod beirdd Arfon lle byddai Dafydd Ddu'n dysgu rheolau barddoniaeth i'w "cywion".[1]
Roedd ganddo gysylltiad teuluaidd â fferm Bodaden, Llanwnda. Mae’n nodedig am fod wedi canu cerddi am yr ardal y magwyd ynddi, a dilyn y hen ffordd o ganu am annedd-dai a hen gymeriadau ei fro. Dywedodd W. Gilbert Williams amdano, "Yn wyneb, yr ychydig o’i brydyddiaeth sydd yn wybyddus i ni, rhigymwr pert, goganydd medrus a thuchanwr cyrhaeddgar fyddai’r disgrifiad cywiraf ohono".
Dywedir iddo fod yn caru merch a oedd ym Modaden, ac iddo fod wedi sleifio yno rhyw noson – ac er mwyn peidio â gwlychu ei sgidiau yn y gwlith, tynodd hwy i ffwrdd a chafodd ei ddal gan ddyn y tŷ yn droednoeth. Canodd y bennill isod amdan ei fraw,
William Bifan Druan Sydd wedi colli’i facsan Yn chwilio amdano ers mwy nag awr Yn nhalwrn mawr Bodadan.
Mae ambell i amheuaeth ynglŷn â’r defnydd o talwrn a parlwr ar adegau, ac ni wyddys neb yn sicr os mai ym mharlwr y tŷ y collodd ei sgidiau yntau yn y talwrn.
Roedd yn canu cerddi am ffermdai yr ardal hefyd. Canodd yr isod am fferm Caerodyn,
Mae llawer math o erfyn I’w gael ar Werglodd Gudyn Ond torrir heddyw, gwneir yn wir Prydau ar dir Caerodyn.
Diolch i hen gymeriadau fel William Bifan, cawn ddarnau bychan o hanes y gwerin yng nghymunedau Uwchgwyrfai ers talwm.[2]