John Jones, Rhiwfallen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd gwlad ac athro oedd '''John Jones, Rhiwfallen''' (fl.1870-1790). Mae’n debyg nad oedd o’n frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o [[Ffrwd Ysgyfarnog]] lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.
Bardd gwlad ac athro oedd '''John Jones, Rhiwfallen''' (fl.1870'''??'''-1790). Mae’n debyg nad oedd yn frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o [[Ffrwd Ysgyfarnog]], lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen y magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.


Mae [[W. Gilbert Williams]], ei gofiannydd, yn  amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Mae Dewi Jones yn tueddu meddwl mai o ardal Henllan yn Sir Ddinbych y symudodd Joihn Jones i Arfon. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, mi briododd Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf ym 1773. Mae ei ymddygiad gwyllt ifanc gael ei adlewyrchu yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol, bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.
Mae [[W. Gilbert Williams]], ei gofiannydd, yn  amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Mae Dewi Jones yn tueddu i feddwl mai o ardal Henllan yn Sir Ddinbych y symudodd John Jones i Arfon. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, priododd ag Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf, ym 1773. Adlewyrchir ei ymddygiad gwyllt yn ddyn ifanc yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.


Erbyn 1780 roedd o a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]], a nodir fod John yn athro ysgol.
Erbyn 1780 roedd ef a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog]], a nodir fod John yn athro ysgol.
Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.
Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.


Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol. Erbyn 1787, roedd dyn o'r Carno o'r enw [[David Wilson]] yr athro ysgol yn y Ffrwd, ac arhosodd yno tan 1789.<ref>Gweler yr erthygl am [[David Wilson]] yn y Cof am fanylion pellach.</ref> Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno - er tybed a oedd o wedi rhoi heibio bod yn athro erbyn hynny, neu efallai'n cynnal ysgol mewn man arall. yn yr ardal.
Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol. Erbyn 1787, roedd dyn o Garno o'r enw [[David Wilson]] yn athro ysgol yn y Ffrwd, ac arhosodd yno tan 1789.<ref>Gweler yr erthygl am [[David Wilson]] yn y Cof am fanylion pellach.</ref> Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno - er tybed a oedd o wedi rhoi'r gorau i fod yn athro erbyn hynny, neu efallai'n cynnal ysgol mewn man arall yn yr ardal.


Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:
Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:
Llinell 22: Llinell 22:
Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn ''Cymru'' Mawrth 1905.<ref>W. Gilbert Williams, “John Jones”,''Cymru'', Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1359511/188#?xywh=135%2C1239%2C1858%2C1192 ]</ref>
Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn ''Cymru'' Mawrth 1905.<ref>W. Gilbert Williams, “John Jones”,''Cymru'', Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1359511/188#?xywh=135%2C1239%2C1858%2C1192 ]</ref>


Ceir mwy o ddyfyniadau a thriniaeth fer ond campus o'i waith gan [[Dewi Jones]], sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i ganu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen...  yn destlus tu hwnt."<ref>Dewi Jones, ''Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon'' (Llanrwst, 1998), tt. 53-9</ref>
Ceir mwy o ddyfyniadau ac ymdriniaeth fer, ond campus, o'i waith gan [[Dewi Jones]], sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i'w canu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen...  yn destlus tu hwnt."<ref>Dewi Jones, ''Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon'' (Llanrwst, 1998), tt. 53-9</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:20, 25 Mawrth 2024

Bardd gwlad ac athro oedd John Jones, Rhiwfallen (fl.1870??-1790). Mae’n debyg nad oedd yn frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o Ffrwd Ysgyfarnog, lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen y magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.

Mae W. Gilbert Williams, ei gofiannydd, yn amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Mae Dewi Jones yn tueddu i feddwl mai o ardal Henllan yn Sir Ddinbych y symudodd John Jones i Arfon. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, priododd ag Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf, ym 1773. Adlewyrchir ei ymddygiad gwyllt yn ddyn ifanc yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.

Erbyn 1780 roedd ef a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog, a nodir fod John yn athro ysgol. Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.

Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol. Erbyn 1787, roedd dyn o Garno o'r enw David Wilson yn athro ysgol yn y Ffrwd, ac arhosodd yno tan 1789.[1] Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno - er tybed a oedd o wedi rhoi'r gorau i fod yn athro erbyn hynny, neu efallai'n cynnal ysgol mewn man arall yn yr ardal.

Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:

Cadw dy dafod rhag siarad fo gormod,
A dilyn gydwybod heb drallod na drwg;
A  gochel di gellwer ag afieth fo ofer,
Gwag bleser, fe’i gweler drwy gilwg.
Cofia dy ddiwedd, ymro i fyw’n santedd,
Ymâd â’th lygredd sydd ffiedd a ffôl;
Os pechod galyni, cosb drom a ddaw iti,
Ti weli na ddengi’n ddiangol.

Fel y mae ei gofiannydd yn nodi, mae tafodiaith John Jones yn dangos nad dyn o Arfon ydoedd yn wreiddiol.[2] Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn Cymru Mawrth 1905.[3]

Ceir mwy o ddyfyniadau ac ymdriniaeth fer, ond campus, o'i waith gan Dewi Jones, sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i'w canu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen... yn destlus tu hwnt."[4]

Cyfeiriadau

  1. Gweler yr erthygl am David Wilson yn y Cof am fanylion pellach.
  2. W. Gilbert Williams. “John Jones”, Y Llenor, Cyf. 17 (!938), tt.106-11
  3. W. Gilbert Williams, “John Jones”,Cymru, Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [1]
  4. Dewi Jones, Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon (Llanrwst, 1998), tt. 53-9