Mwynglawdd Clogwyn y Morfa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd cloddio am haearnfaen yn digwydd ar dir Fferm Y Morfa, Trefor am hanner can mlynedd a mwy. Roedd diddordeb yng nghyfoeth mwynau’r ardal a ddae...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd cloddio am haearnfaen yn digwydd ar dir [[Fferm Y Morfa, Trefor]] am hanner can mlynedd a mwy. Roedd diddordeb yng nghyfoeth mwynau’r ardal a ddaeth yn gyfarwydd fel ardal [[Trefor]] wedi codi o leiaf mor gynnar ag 1823 pan gafodd dyn lleol, Robert Humphreys, [[Tan-y-graig]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] ganiatâd gan berchennog y Morfa, sef [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]] i gloddio gwythïen o fwyn copr am bythefnos y flwyddyn honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12916</ref>
Bu cloddio am haearnfaen ar dir [[Fferm Y Morfa, Trefor]] am hanner can mlynedd a mwy. Dechreuodd diddordeb yng nghyfoeth mwynau’r ardal, a ddaeth yn gyfarwydd fel ardal [[Trefor]], mor gynnar ag 1823 o leiaf pan gafodd dyn lleol, Robert Humphreys, [[Tan-y-graig]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] ganiatâd gan berchennog y Morfa, sef [[Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough]] i gloddio gwythïen o fwyn copr am bythefnos y flwyddyn honno.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12916</ref>


Ymhen wyth mlynedd, gwnaethpwyd cais arall, y tro hwn gan ddyn profiadol yn y maes, sef Richard Owen, mwynwr o Amlwch. Cafodd o drwydded mwyngloddio (sef “take note” yn Saesneg) gan Arglwydd Newborough i chwilio am fwynau o unrhyw fath ar Glogwyn y Morfa. Y cytundeb oedd y byddai fo’n rhoi degfed ran o unrhyw fwynau a gafwyd i’r tirfeddiannwr, gan dalu holl gostau’r gwaith o’i boced ei hun. .<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12921</ref>
Ymhen wyth mlynedd, gwnaethpwyd cais arall, y tro hwn gan ddyn profiadol yn y maes, sef Richard Owen, mwynwr o Amlwch. Cafodd ef drwydded fwyngloddio (sef “take note” yn Saesneg) gan Arglwydd Newborough i chwilio am fwynau o unrhyw fath ar Glogwyn y Morfa. Y cytundeb oedd y byddai'n rhoi'r ddegfed ran o unrhyw fwynau a gafwyd i’r tirfeddiannwr, gan dalu holl gostau’r gwaith o’i boced ei hun.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12921</ref>


Gwnaed cytundeb cyffelyb gyda dau fonheddwr o Gaernarfon, Joseph Jones a Jonathan Jones, ym 1840, a hynny am gyfnod o 21 mlynedd. Hyd yma, nid oedd unrhyw sôn am y mwyn a fyddai’n dod yn brif gynnyrch y Morfa, sef haearnfaen.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12926</ref> Methiant oedd ymdrechion y ddau Jones, mae’n debyg; er bod eu cytundeb am 21 o flynyddoedd, mae llythyr ymysg papurau Glynllifon ar gael sydd yn dangos bod un [[John Heyden]], a elwid yn lleol yn “Sais Mawr”, am gael trwydded ym 1846 i agor mwynfa gerllaw ei chwarel ithfaen yn [[Y Gorllwyn]]. Gwrthodwyd ei gais gan Arglwydd Newborough, ar y sail nad oedd o am osod hawliau mwyngloddio yno nes i’r sefyllfa ddod yn glir ynglŷn â’r rheilffordd arfaethedig y bwriadwyd iddi redeg ar draws tir y Morfa i gyfeiriad Portinlläen - rheilffordd nas adeiladwyd yn y pendraw. <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/21584; Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor (Clynnog Fawr, 2006), tt.9-11</ref>
Gwnaed cytundeb cyffelyb gyda dau fonheddwr o Gaernarfon, Joseph Jones a Jonathan Jones, ym 1840, a hynny am gyfnod o 21 mlynedd. Hyd yma, nid oedd unrhyw sôn am y mwyn a fyddai’n dod yn brif gynnyrch y Morfa, sef haearnfaen.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12926</ref> Methiant oedd ymdrechion y ddau Jones, mae’n debyg; er bod eu cytundeb am 21 o flynyddoedd, mae llythyr ar gael ymysg papurau Glynllifon sydd yn dangos bod un [[John Heyden]], a elwid yn lleol yn “Sais Mawr”, yn gwneud cais i gael trwydded ym 1846 i agor mwynfa gerllaw ei chwarel ithfaen yn [[Y Gorllwyn]]. Gwrthodwyd ei gais gan Arglwydd Newborough, ar y sail nad oedd am osod hawliau mwyngloddio yno nes i’r sefyllfa ddod yn glir ynglŷn â’r rheilffordd arfaethedig y bwriedid iddi redeg ar draws tir y Morfa i gyfeiriad Portinlläen - rheilffordd nas adeiladwyd yn y pen draw. <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/21584; Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor (Clynnog Fawr, 2006), tt.9-11</ref>


Ym 1853, rhoddwyd cytundeb i [[John Hutton]] a [[William Caldwell Roscoe]], y ddau o’r Hendre - sef hen enw ar ardal Trefor – a’r ddau eisoes wrthi efo chwarel ithfaen yno. Y tro hwn, nodwyd mai haearnfaen oedd y mwyn a gloddid, a’r rhent am yr hawl i’w chloddio oedd 3c y dunnell. .<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12933</ref> Ymhen ychydig dros flwyddyn, cafwyd gan y ddau hawl i adeiladu rheilffordd ar draws tir y Morfa ar gyfer cludo ithfaen a haearnfaen at y porthladd newydd, sef [[Harbwr Trefor]]. Am yr hawl i wneud hynny, rhaid oedd iddynt dalu £11 y flwyddyn o rent i’r ffarmwr, Hugh Jones, a oedd yn gynyddol weld ei dir yn cael ei effeithio gan y chwarel a’r mwynfeydd. .<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12933</ref>
Ym 1853, rhoddwyd cytundeb i [[John Hutton]] a [[William Caldwell Roscoe]], a oedd eisoes yn berchnogion chwarel ithfaen [[Craig y Farchas]] yn Y Gorllwyn yn dilyn ymadawiad John Heyden. Y tro hwn, nodwyd mai haearnfaen oedd y mwyn a gloddid, a’r rhent am yr hawl i’w gloddio oedd 3c y dunnell. <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12933</ref> Ymhen ychydig dros flwyddyn, cafodd y ddau hawl i adeiladu rheilffordd ar draws tir y Morfa ar gyfer cludo ithfaen a haearnfaen i'r porthladd newydd, sef [[Harbwr Trefor]]. Am yr hawl i wneud hynny, rhaid oedd iddynt dalu £11 y flwyddyn o rent i’r ffarmwr, Hugh Jones, a oedd yn gweld y chwarel ithfaen a’r mwynfeydd yn effeithio'n gynyddol ar ei dir.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12933</ref>


Yn y dogfennau nesaf o ran amser, daw’n hollol glir mai Clogwyn y Morfa oedd y darn o’r fferm a ddefnyddid ar gyfer cloddio. Erbyn 1856, roedd Hutton a Roscoe wedi troi eu cefnau ar haearnfaen, a rhoddwyd trwydded newydd i gloddio i ddyn o’r enw Charles Keys, masnachwr o Lerpwl. Arhosodd y rhent yn 3c y dunnell. .<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12937</ref> Byr fu ymwneud Keys â’r lle, fodd bynnag, ac ym 1860, cafodd John Brewer a George Leadham Fuller, y ddau o Gaernarfon y drwydded. Y rhent y tro hyn oedd 3c y dunnell neu £5 y flwyddyn – sydd yn awgrymu nad oedd rhent fesul tunnell wedi cynhyrchu llawer o incwm i deulu Newborough. .<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12939</ref>
Yn y dogfennau nesaf o ran amser, daw’n hollol glir mai Clogwyn y Morfa oedd y darn o’r fferm a ddefnyddid ar gyfer cloddio. Erbyn 1856, roedd Hutton a Roscoe wedi troi eu cefnau ar haearnfaen, a rhoddwyd trwydded newydd i gloddio i ddyn o’r enw Charles Keys, masnachwr o Lerpwl. Arhosodd y rhent yn 3c y dunnell. <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12937</ref> Byr fu ymwneud Keys â’r lle, fodd bynnag, ac ym 1860, cafodd John Brewer a George Leadham Fuller, y ddau o Gaernarfon y drwydded. Y rhent y tro hyn oedd 3c y dunnell neu £5 y flwyddyn – sydd yn awgrymu nad oedd rhent fesul tunnell wedi cynhyrchu llawer o incwm i deulu Newborough. <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/12939</ref>


Yn anffodus, nid oes cofnodion am drwyddedau mwyngloddio ymysg papurau Glynllifon ar ôl 1860, ond ni phallodd diddordeb yn y safle’n llwyr. Yn y man, efallai oddeutu 1870, clywir sôn am waith mwyngloddio am haearnfaen dan y môr yn Nhrefor gan y llawfeddyg a’r dyfeisydd [[J. Collis Browne]], a oedd wedi dechrau buddsoddi mewn gweithiau mwyn tua Llanelwy. Ysywaeth, prin yw’r cyfeiriadau at y gwaith hwnnw ychwaith. <ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271</ref>   
Yn anffodus, nid oes cofnodion am drwyddedau mwyngloddio ymysg papurau Glynllifon ar ôl 1860, ond ni phallodd diddordeb yn y safle’n llwyr. Yn y man, efallai oddeutu 1870, clywir sôn am waith mwyngloddio am haearnfaen dan y môr yn Nhrefor gan y llawfeddyg a’r dyfeisydd [[J. Collis Browne]], a oedd wedi dechrau buddsoddi mewn gweithiau mwyn tua Llanelwy. Ysywaeth, prin yw’r cyfeiriadau at y gwaith hwnnw hefyd. <ref> J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271</ref>   


Ond, chwarter canrif yn ddiweddarach, oddeutu troad y ganrif, sefydlwyd menter i gloddio am haearn a manganîs ar [[Trwyn-y-tâl|Drwyn y Tâl]]. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd galw mawr am fwyn haearn, gyda'r cynnydd yn y galw am haearn a dur yn y diwydiant adeiladu, rheilffyrdd a llongau. Fodd bynnag, ni pharhaodd y fenter ond am ychydig flynyddoedd gan nad oedd y mwyn o safon ddigon da.
Ond, chwarter canrif yn ddiweddarach, oddeutu troad y ganrif, sefydlwyd menter i gloddio am haearn a manganîs ar [[Trwyn-y-tâl|Drwyn y Tâl]]. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd galw mawr am fwyn haearn, gyda'r cynnydd yn y galw am haearn a dur yn y diwydiant adeiladu, rheilffyrdd a llongau. Fodd bynnag, ni pharhaodd y fenter ond am ychydig flynyddoedd gan nad oedd y mwyn o safon ddigon da.

Fersiwn yn ôl 16:01, 11 Mawrth 2024

Bu cloddio am haearnfaen ar dir Fferm Y Morfa, Trefor am hanner can mlynedd a mwy. Dechreuodd diddordeb yng nghyfoeth mwynau’r ardal, a ddaeth yn gyfarwydd fel ardal Trefor, mor gynnar ag 1823 o leiaf pan gafodd dyn lleol, Robert Humphreys, Tan-y-graig ym mhlwyf Llanaelhaearn ganiatâd gan berchennog y Morfa, sef Thomas John Wynn, 2il Arglwydd Newborough i gloddio gwythïen o fwyn copr am bythefnos y flwyddyn honno.[1]

Ymhen wyth mlynedd, gwnaethpwyd cais arall, y tro hwn gan ddyn profiadol yn y maes, sef Richard Owen, mwynwr o Amlwch. Cafodd ef drwydded fwyngloddio (sef “take note” yn Saesneg) gan Arglwydd Newborough i chwilio am fwynau o unrhyw fath ar Glogwyn y Morfa. Y cytundeb oedd y byddai'n rhoi'r ddegfed ran o unrhyw fwynau a gafwyd i’r tirfeddiannwr, gan dalu holl gostau’r gwaith o’i boced ei hun.[2]

Gwnaed cytundeb cyffelyb gyda dau fonheddwr o Gaernarfon, Joseph Jones a Jonathan Jones, ym 1840, a hynny am gyfnod o 21 mlynedd. Hyd yma, nid oedd unrhyw sôn am y mwyn a fyddai’n dod yn brif gynnyrch y Morfa, sef haearnfaen.[3] Methiant oedd ymdrechion y ddau Jones, mae’n debyg; er bod eu cytundeb am 21 o flynyddoedd, mae llythyr ar gael ymysg papurau Glynllifon sydd yn dangos bod un John Heyden, a elwid yn lleol yn “Sais Mawr”, yn gwneud cais i gael trwydded ym 1846 i agor mwynfa gerllaw ei chwarel ithfaen yn Y Gorllwyn. Gwrthodwyd ei gais gan Arglwydd Newborough, ar y sail nad oedd am osod hawliau mwyngloddio yno nes i’r sefyllfa ddod yn glir ynglŷn â’r rheilffordd arfaethedig y bwriedid iddi redeg ar draws tir y Morfa i gyfeiriad Portinlläen - rheilffordd nas adeiladwyd yn y pen draw. [4]

Ym 1853, rhoddwyd cytundeb i John Hutton a William Caldwell Roscoe, a oedd eisoes yn berchnogion chwarel ithfaen Craig y Farchas yn Y Gorllwyn yn dilyn ymadawiad John Heyden. Y tro hwn, nodwyd mai haearnfaen oedd y mwyn a gloddid, a’r rhent am yr hawl i’w gloddio oedd 3c y dunnell. [5] Ymhen ychydig dros flwyddyn, cafodd y ddau hawl i adeiladu rheilffordd ar draws tir y Morfa ar gyfer cludo ithfaen a haearnfaen i'r porthladd newydd, sef Harbwr Trefor. Am yr hawl i wneud hynny, rhaid oedd iddynt dalu £11 y flwyddyn o rent i’r ffarmwr, Hugh Jones, a oedd yn gweld y chwarel ithfaen a’r mwynfeydd yn effeithio'n gynyddol ar ei dir.[6]

Yn y dogfennau nesaf o ran amser, daw’n hollol glir mai Clogwyn y Morfa oedd y darn o’r fferm a ddefnyddid ar gyfer cloddio. Erbyn 1856, roedd Hutton a Roscoe wedi troi eu cefnau ar haearnfaen, a rhoddwyd trwydded newydd i gloddio i ddyn o’r enw Charles Keys, masnachwr o Lerpwl. Arhosodd y rhent yn 3c y dunnell. [7] Byr fu ymwneud Keys â’r lle, fodd bynnag, ac ym 1860, cafodd John Brewer a George Leadham Fuller, y ddau o Gaernarfon y drwydded. Y rhent y tro hyn oedd 3c y dunnell neu £5 y flwyddyn – sydd yn awgrymu nad oedd rhent fesul tunnell wedi cynhyrchu llawer o incwm i deulu Newborough. [8]

Yn anffodus, nid oes cofnodion am drwyddedau mwyngloddio ymysg papurau Glynllifon ar ôl 1860, ond ni phallodd diddordeb yn y safle’n llwyr. Yn y man, efallai oddeutu 1870, clywir sôn am waith mwyngloddio am haearnfaen dan y môr yn Nhrefor gan y llawfeddyg a’r dyfeisydd J. Collis Browne, a oedd wedi dechrau buddsoddi mewn gweithiau mwyn tua Llanelwy. Ysywaeth, prin yw’r cyfeiriadau at y gwaith hwnnw hefyd. [9]

Ond, chwarter canrif yn ddiweddarach, oddeutu troad y ganrif, sefydlwyd menter i gloddio am haearn a manganîs ar Drwyn y Tâl. Roedd hwn yn gyfnod pan oedd galw mawr am fwyn haearn, gyda'r cynnydd yn y galw am haearn a dur yn y diwydiant adeiladu, rheilffyrdd a llongau. Fodd bynnag, ni pharhaodd y fenter ond am ychydig flynyddoedd gan nad oedd y mwyn o safon ddigon da.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/12916
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/12921
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/12926
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/21584; Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor (Clynnog Fawr, 2006), tt.9-11
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/12933
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/12933
  7. Archifdy Caernarfon, XD2/12937
  8. Archifdy Caernarfon, XD2/12939
  9. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), t.271