Cae Buckley / Cae Ellen Bulkeley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae'r annedd a elwir bellach yn '''Cae Buckley''' rhwng Saron a phentref Llandwrog, er ei fod ym mhlwyf Llanwnda. Enw gwreiddiol y lle oedd ''...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'r annedd a elwir bellach yn '''Cae Buckley''' rhwng [[Saron]] a phentref [[Llandwrog]], er ei fod ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Enw gwreiddiol y lle oedd ''Cae Ellen Bulkeley''. Hanai'r Ellen hon o deulu uchelwrol Bulkeley Biwmares a chanol y 15g daeth yn wraig gyntaf i Robert ap Maredudd o [[Glynllifon]]. Bu farw'n ifanc a chanodd un o feirdd amlycaf y cyfnod, Tudur Aled, farwnad i'w choffáu, lle cyfeiria at: 'Dwyn seren dinas araul / Duwmares, hud am wres haul'. Cofnodwyd yr enw mewn sawl ffordd mewn gwahanol ddogfennau dros y blynyddoedd, gyda'r amrywiadau rhyfeddaf i'w cael yn asesiadau'r Dreth Dir, er enghraifft ''Cae Ellin Puckly'' ym 1773 a ''gay Elin bwgla'' ym 1779. Ar fap Ordnans 1838 y ffurf ''Cae Helen Bwcla'' a geir, gyda'r cyfenw ''Bulkeley'' yn cael ei Gymreigio gyda'r terfyniad ''-ey'' yn troi'n ''-a''. ''Cae-Elen-Bulkeley'' a geir ar fap Ordnans 1919 ond rywbryd ar ôl hynny fe'i cwtogwyd i ''Cae Buckley'' gan golli'r cyfeiriad hanesyddol pwysig at y wraig hon.<sup>1</sup>
Mae'r annedd a elwir bellach yn '''Cae Buckley''' rhwng [[Saron]] a phentref [[Llandwrog]], er ei fod ym mhlwyf [[Llanwnda]]. Enw gwreiddiol y lle oedd ''Cae Ellen Bulkeley''. Hanai'r Ellen hon o deulu uchelwrol Bulkeley Biwmares a chanol y 15g daeth yn wraig gyntaf i [[Robert ap Maredudd]] o [[Glynllifon]]. Bu farw'n ifanc a chanodd un o feirdd amlycaf y cyfnod, Tudur Aled, farwnad i'w choffáu, lle cyfeiria at: 'Dwyn seren dinas araul / Duwmares, hud am wres haul'. Cofnodwyd yr enw mewn sawl ffordd mewn gwahanol ddogfennau dros y blynyddoedd, gyda'r amrywiadau rhyfeddaf i'w cael yn asesiadau'r Dreth Dir, er enghraifft ''Cae Ellin Puckly'' ym 1773 a ''gay Elin bwgla'' ym 1779. Ar fap Ordnans 1838 y ffurf ''Cae Helen Bwcla'' a geir, gyda'r cyfenw ''Bulkeley'' yn cael ei Gymreigio gyda'r terfyniad ''-ey'' yn troi'n ''-a''. ''Cae-Elen-Bulkeley'' a geir ar fap Ordnans 1919 ond rywbryd ar ôl hynny fe'i cwtogwyd i ''Cae Buckley'' gan golli'r cyfeiriad hanesyddol pwysig at y wraig hon.<sup>1</sup>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.62-3.
1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.62-3
 
[[Categori:Enwau lleoedd]].

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:24, 20 Chwefror 2024

Mae'r annedd a elwir bellach yn Cae Buckley rhwng Saron a phentref Llandwrog, er ei fod ym mhlwyf Llanwnda. Enw gwreiddiol y lle oedd Cae Ellen Bulkeley. Hanai'r Ellen hon o deulu uchelwrol Bulkeley Biwmares a chanol y 15g daeth yn wraig gyntaf i Robert ap Maredudd o Glynllifon. Bu farw'n ifanc a chanodd un o feirdd amlycaf y cyfnod, Tudur Aled, farwnad i'w choffáu, lle cyfeiria at: 'Dwyn seren dinas araul / Duwmares, hud am wres haul'. Cofnodwyd yr enw mewn sawl ffordd mewn gwahanol ddogfennau dros y blynyddoedd, gyda'r amrywiadau rhyfeddaf i'w cael yn asesiadau'r Dreth Dir, er enghraifft Cae Ellin Puckly ym 1773 a gay Elin bwgla ym 1779. Ar fap Ordnans 1838 y ffurf Cae Helen Bwcla a geir, gyda'r cyfenw Bulkeley yn cael ei Gymreigio gyda'r terfyniad -ey yn troi'n -a. Cae-Elen-Bulkeley a geir ar fap Ordnans 1919 ond rywbryd ar ôl hynny fe'i cwtogwyd i Cae Buckley gan golli'r cyfeiriad hanesyddol pwysig at y wraig hon.1

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.62-3.