Bodryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Fferm tua hanner ffordd rhwng Llandwrog a Dinas Dinlle yw '''Bodryn'''. Fodd bynnag, hyd yn gymharol ddiweddar yr ynganiad lleol oedd ''Modryn''....'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4: Llinell 4:


1. Am ymdriniaeth lawn gweler, Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.34-5.
1. Am ymdriniaeth lawn gweler, Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.34-5.
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 22:07, 14 Chwefror 2024

Fferm tua hanner ffordd rhwng Llandwrog a Dinas Dinlle yw Bodryn. Fodd bynnag, hyd yn gymharol ddiweddar yr ynganiad lleol oedd Modryn. Mae Glenda Carr wedi dilyn hynt yr enw yn ôl cyn belled â Chalendr y Rholiau Patent ar gyfer 1549, pryd y cofnodwyd yr enw fel Tythyn Modryn. Modryn a geir hefyd yn asesiad y Dreth Dir drwy'r 1770au ac yng Nghyfrifiad 1851. Rhestra Dr Carr nifer o ddamcaniaethau a gynigiwyd ynghylch ystyr yr enw, ond mae hi o'r farn mai yn y ffurf gynnar o 1549 y datgelir ystyr yr enw. Dilynir yr elfen tyddyn yn aml gan enw personol ac mae'n debygol iawn mai enw personol oedd Modryn hefyd, a bod troi'r M gychwynnol i B yn gymharol ddiweddar wedi cymylu'r ystyr. Modryn oedd y ffurf am ganrifoedd, pwy bynnag oedd y gŵr hwnnw a oedd yn ddeiliad gwreiddiol yr eiddo.1

Cyfeiriadau

1. Am ymdriniaeth lawn gweler, Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.34-5.