Cymdeithas Erlyn Troseddwyr Caernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Cymdeithas Caernarfon ar gyfer Erlyn Troseddwyr''' (neu’r ''Carnarvon Association for the Prosecution of Felons'') cyn 1811 a bu’n weithr...'
 
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 23:59, 14 Tachwedd 2023

Sefydlwyd Cymdeithas Caernarfon ar gyfer Erlyn Troseddwyr (neu’r Carnarvon Association for the Prosecution of Felons) cyn 1811 a bu’n weithredol tan o leiaf 1825.

Cyn i bob sir orfod sefydlu Heddlu Sirol ym 1856, roedd y drefn ar gyfer dal a chosbi troseddwyr yn ddiffygiol, yn gostus, ac yn dibynnu i raddau helaeth ar i’r dioddefwr erlyn y rhai a droseddwyd yn ei erbyn. Byddai rhywun oedd â chwyn yn erbyn troseddwr yn gorfod mynd at ynad heddwch a gwneud datganiad. A bwrw bod hwnnw’n gweld bod y mater yn gofyn am weithredu pellach, byddai’n cyhoeddi gwarant i’r cwnstabliaid lleol arestio’r drwgweithredwr. Swyddogion plwyfol di-dâl oedd y dynion hyn, ac yn aml nid oeddynt ond yn gweithredu’n anfoddog ac yn aneffeithiol. A bwrw eu bod yn gallu dod o hyd i’r troseddwr honedig, y drefn oedd iddynt ei lusgo o flaen yr ynad, a byddai hwnnw naill ai yn ei drosrwymo (neu ei “feindio drosodd”) i gadw’r heddwch tuag at y sawl oedd yn ei gyhuddo neu ei anfon ymlaen i sefyll ei brawd yn y Llys Chwarter, a hynny ar fechnïaeth, oni bai bod y drosedd yn ddifrifol. Mewn achosion difrifol, byddai’r cyhuddedig yn cael ei gadw yn y carchar sirol tan ddyddiad y llys.

Erbyn dechrau’r 19g, bu mwy a mwy o weithwyr diwydiannol yn symud o le i le, a milwyr yn dod adref o ryfeloedd Napoleon hefyd yn rhan o’r gymdeithas lai sefydlog. Lle gynt bu pobl yn gaeth i’w tir, yn awr roedd llawer o bobl yn symud o le i le er mwyn dod o hyd i waith. Mewn cymdeithas o’r fath, roedd troseddu’n tueddu cynyddu, a chyda poblogaeth fwy symudol, anos nag o’r blaen oedd gweithredu’r hen system o erlyn a ddibynnai’n helaeth ar wybodaeth leol am bobl yr ardal. Fel y cynyddai’r broblem o gadw troseddu dan reolaeth, ffurfiwyd cymdeithasau gan ysgwieriaid a masnachwyr i dalu am gyfreithwyr i erlyn drwgweithredwyr, ac i wobrwyo’r rhai oedd yn fodlon tystio yn eu herbyn. Dichon mai canolbwyntio ar droseddau a effeithiai eu haelodau oedd y cymdeithasau hyn, ond roeddent yn bur effeithiol. Cyfrinach y system oedd eu bod yn bur lleol. Dywedir bod hyd at 4000 o’r cymdeithasau hyn wedi eu ffurfio rhwng 1750 a 1850 ar draws Cymru a Lloegr.[1] Yng ngogledd-orllewin Cymru, cafwyd cymdeithasau yn Llŷn ac Eifionydd, Llanrwst, Creuddyn, Bangor a Chaernarfon.[2]

Diben y cymdeithasau oedd annog pobl i roi gwybodaeth a fyddai’n arwain at ddal troseddwyr yn bennaf yn erbyn person neu eiddo’r aelodau eu hunain. Nid oedd felly’n gorff cyhoeddus a ddeuai fudd i bawb trwy eu hamddiffyn pwy bynnag y bônt, er, wrth gwrs, byddai erlyn unrhyw ddrwgweithredwr a’i garcharu’n golygu y byddai un yn llai i boeni pawb. Mewn ffordd felly roedd y cymdeithasau hyn yn fath o gynghrair yswiriant: pawb yn talu tanysgrifiad i greu cronfa i dalu gwobrau i dystion (a thrwy hynny'r gobaith oedd cadw rhai drwg draw yn y lle cyntaf), er i hynny yn ei dro’n tueddu gyrru drwgweithredwyr i weithredu yn erbyn y sawl nad oedd yn aelod o’r gymdeithas.

Sefydlwyd Cymdeithas Caernarfon rywbryd cyn 1811 pan ymddangosodd yr hysbyseb yn y wasg leol. Nid oedd dim byd arbennig yn perthyn i Gymdeithas Caernarfon hyd y gwyddys, ond bu’n ceisio gweithredu yn ôl ystod eang o droseddu, gan annog y cyhoedd i dystio yn erbyn y rhai drwg yn eu mysg. Fel y gwelir o’r toriad papur newydd o’r North Wales Gazette ar y dudalen hon, roedd gwobrau’n hael ac yn amrywio yn ôl difrifoldeb y drosedd.[3]

Yn y flwyddyn 1815, cyhoeddwyd enwau’r aelodau yn y papur. Roedd yr aelodaeth yn cynnwys 28 o ddynion blaenllaw tref Caernarfon, ynghyd â thri o blwyfi Llandwrog a Llanfair Isgaer; dau o blwyfi Clynnog Fawr a Llanrug; ac un o Landdeiniolen. Dau blwyf o’r pump yn Uwchgwyrfai oedd yn cael eu cynrychioli ymysg yr aelodau, ac felly’n cael rhywfaint o fudd o weithgareddau’r gymdeithas. Yr aelodau o blwyf Llandwrog oedd, Thomas Lewis, ysw., John Griffith, ysw., a’r Parch. William Griffith, ficer y plwyf. Y Parch. Hugh Williams, ficer y plwyf, a Hugh Rowlands, ysw. oedd yr aelodau o Glynnog Fawr.[4]

Roedd elfen o gymdeithasu yn perthyn i’r Gymdeithas. Cynhelid cyfarfod blynyddol yn un o westai’r dref bob gwanwyn – fel arfer yng Ngwesty’r Afr – a byddai’r aelodau’n cael cinio cyn mynd ati i ymdrin â busnes y cyfarfod. Os nad oedd aelod yn bresennol, mynnwyd iddo dalu dirwy o 2s.6c.

Nid oes tystiolaeth gadarn o ba mor effeithiol oedd y Gymdeithas, yn arbennig yn ardal wledig Uwchgwyrfai, ond y ffaith ei bod yn parhau am o leiaf 15 mlynedd ar ôl 1810 hyd 1825[5] - hyd y gwyddom ni o’r hysbysebion a ymddangosodd bob blwyddyn yn y papur newydd - yn awgrymu ei bod yn llwyddo i gadw troseddu dan ryw fath o reolaeth.

Cyfeiriadau

  1. Mae hanes cyffredinol y Cymdeithasau ar gyfer Erlyn Troseddwyr i’w gael yn Mark Koyama, Prosecution Associations in Industrial Revolution England: Private Providers of Public Goods? (Journal of Legal Studies, Cyf. 41 (1), Ionawr 2012), tt.95-130
  2. Hysbysebion yn y North Wales Gazette, passim
  3. North Wales Gazette, 7.3.1811, t.3
  4. North Wales Gazette, 26.1.1815, t.3
  5. North Wales Gazette, 24.2.1825, t.2