Cefn Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cefn Emrys''' yn fferm o faint sylweddol ym mhlwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]]. Saif y ffermdy i’r gorllewin o’r ffordd sydd yn arwain o Landwrog i bentref [[Saron]], tua hanner milltir i’r gogledd o Landwrog ei hun.
Mae '''Cefn Emrys''' yn fferm o faint sylweddol ym mhlwyfi [[Llandwrog]] a [[Llanwnda]]. Saif y ffermdy i’r gorllewin o’r ffordd sydd yn arwain o Landwrog i bentref [[Saron]], tua hanner milltir i’r gogledd o Landwrog ei hun.


Clywir y sôn cyntaf am Thomas Williams, Cefn Emrys, mewn gweithred pan werthodd o dir yn Niwbwrch, Sir Fôn. <ref>LlGC, Papurau Arthur Ifor Pryce 755</ref> Roedd ei wraig Alice yn ferch i William Roberts, Pen y Wrach, plwyf Llanbeblig.<ref>Archifdy Caernarfon, XD1/834</ref>  Mae’n bosibl yr oedd wedi symud i Gefn Emrys o blwyf Ceidio ym Mhen Llŷn, gan fod ei ail fab wedi ei eni yno tua 1773.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1851</ref> “Gŵr bonheddig” (''gentleman'') oedd y disgrifiad ohono yn y weithred honno; bu farw ym 1799 heb ewyllys, wrth i’w fab Thomas dderbyn llythyrau gweinyddu ei stad fis Ionawr 1800. Fe’i disgrifir yn y ddogfen honno fel “iwmon” (sef ffermwr o sylwedd).<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1800/76</ref> Dichon fod gan Thomas y mab ddau frawd, Henry Williams, iwmon arall, a aeth ymlaen wedyn i ymsefydlu fel bragwr yng Nghaernarfon, lle’r oedd o’n dal wrth ei alwedigaeth mor ddiweddar â 1836<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/17218, 18313</ref>; a Robert Williams, iwmon a ffermiai yn Eithinog, plwyf [[Llanllyfni]].
Clywir y sôn cyntaf am Thomas Williams, Cefn Emrys, mewn gweithred pan werthodd dir yn Niwbwrch, Sir Fôn. <ref>LlGC, Papurau Arthur Ifor Pryce 755</ref> Roedd ei wraig Alice yn ferch i William Roberts, Pen y Wrach, plwyf Llanbeblig.<ref>Archifdy Caernarfon, XD1/834</ref>  Mae’n bosibl ei fod wedi symud i Gefn Emrys o blwyf Ceidio yn Llŷn, gan fod ei ail fab wedi ei eni yno tua 1773.<ref>Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1851</ref> “Gŵr bonheddig” (''gentleman'') oedd y disgrifiad ohono yn y weithred honno; bu farw ym 1799 heb ewyllys, wrth i’w fab Thomas dderbyn llythyrau gweinyddu ei stad fis Ionawr 1800. Fe’i disgrifir yn y ddogfen honno fel “iwmon” (sef ffermwr o sylwedd).<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1800/76</ref> Dichon fod gan Thomas y mab ddau frawd, Henry Williams, iwmon arall, a aeth ymlaen wedyn i ymsefydlu fel bragwr yng Nghaernarfon, lle’r oedd yn dal wrth ei alwedigaeth mor ddiweddar â 1836<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/17218, 18313</ref>; a Robert Williams, iwmon a ffermiai yn Eithinog, plwyf [[Llanllyfni]].


Diddorol yw sylwi ar honiad mewn llythyr dyddiedig 1832<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/17218 </ref> fod teulu Cefn Emrys wastad yn cefnogi teulu Glynllifon mewn etholiadau ac ati.
Diddorol yw sylwi ar honiad mewn llythyr dyddiedig 1832<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/17218 </ref> fod teulu Cefn Emrys wastad yn cefnogi teulu Glynllifon mewn etholiadau ac ati.
Mae Map a Rhestr Bennu Degwm y plwyf (1840-3) yn dangos fod y fferm yn ymestyn (y pryd hynny) o ochr [[Morfa Dinlle]] hyd at y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Dôl Meredydd]] a Bwlan. Henry Williams oedd yn berchen ar y fferm a hwnnw hefyd oedd yn ei ffermio. Roedd y fferm yn cynnwys tua 84 o erwau'r adeg honno.<ref>Map Degwm plwyf Llandwrog, 1849</ref> Dichon mai brawd yr ail Thomas oedd yr Henry hwn, sef y  bragwr gynt, ac roedd yn awyddus i ymestyn y tir yr oedd yn ei ffermio trwy rentu darn o Forfa Dinlle oedd wedi ei amgáu erbyn hynny. Ysgrifennodd at [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]] yn gofyn am gael rhenti Parc Mawr ar y morfa. Nid oedd Newborough am renti’r Parc Mawr, ond roedd yn ddigon parod i rentu darnau eraill o’r morfa i Henry Williams.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/18313</ref>
Mae Map a Rhestr Bennu Degwm y plwyf (1840-3) yn dangos fod y fferm yn ymestyn (y pryd hynny) o ochr [[Morfa Dinlle]] hyd at y [[Lôn Ganol]] rhwng [[Dôl Meredydd]] a Bwlan. Henry Williams oedd yn berchen ar y fferm ac ef hefyd oedd yn ei ffermio. Roedd y fferm yn cynnwys tua 84 o erwau'r adeg honno.<ref>Map Degwm plwyf Llandwrog, 1849</ref> Dichon mai brawd yr ail Thomas oedd yr Henry hwn, sef y  bragwr gynt, ac roedd yn awyddus i ymestyn y tir yr oedd yn ei ffermio trwy rentu darn o Forfa Dinlle a oedd wedi ei amgáu erbyn hynny. Ysgrifennodd at [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]] yn gofyn am gael rhentu Parc Mawr ar y morfa. Nid oedd Newborough am rentu’r Parc Mawr, ond roedd yn ddigon parod i rentu darnau eraill o’r morfa i Henry Williams.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/18313</ref>


Mae Cyfrifiad 1851 yn cadarnhau maint y fferm ac yn nodi fod Henry Williams yn dal i ffermio yno, er ei fod yn 78 oed. Roedd ei wraig Jane, a hanai o blwyf  Llandwrog, yn 20 mlynedd yn iau nag ef, ac roedd ganddo tri mab, Thomas, Henry a Robert (er nad oedd Henry, mae’n ymddangos, yn byw yng nghartref y teulu adeg y Cyfrifiad). Yn ogystal â’r rhai hyn, roedd Henry’n cyflogi pedwar o weision fferm. Ym 1861, roedd Henry’n dal yn fyw gyda’i wraig, yntau’n 87 ar ddiwrnod y Cyfrifiad, a’i wraig Jane yn 69. Roedd y meibion Thomas a Robert wedi gadael y cartref, Robert i ffermio mewn man arall. Roedd y mab arall, Henry, hen lanc tua 36 oed wedi symud yn ôl i’r cartref ac yn ffermio gyda’i dad. Roedd angen tri gwas arnynt i helpu gyda gwaith y fferm.
Mae Cyfrifiad 1851 yn cadarnhau maint y fferm ac yn nodi fod Henry Williams yn dal i ffermio yno, er ei fod yn 78 oed. Roedd ei wraig Jane, a hanai o blwyf  Llandwrog, 20 mlynedd yn iau nag ef, ac roedd ganddo dri mab, Thomas, Henry a Robert (er nad oedd Henry, mae’n ymddangos, yn byw yng nghartref y teulu adeg y Cyfrifiad). Yn ogystal â’r rhai hyn, roedd Henry’n cyflogi pedwar o weision fferm. Ym 1861, roedd Henry’n dal yn fyw gyda’i wraig, yntau’n 87 ar ddiwrnod y Cyfrifiad, a’i wraig Jane yn 69. Roedd y meibion Thomas a Robert wedi gadael y cartref, Robert i ffermio mewn man arall. Roedd y mab arall, Henry, hen lanc tua 36 oed, wedi symud yn ôl i’r cartref ac yn ffermio gyda’i dad. Roedd angen tri gwas arnynt i helpu gyda gwaith y fferm.


[[Delwedd:Adroddiad CDH.png|bawd|400px|de]]
[[Delwedd:Adroddiad CDH.png|bawd|400px|de]]


Erbyn 1871, roedd Henry’r tad a Jane wedi marw, a Henry (a aned tua 1824) oedd y mab oedd wedi cymryd drosodd. Fe’i disgrifir yn y Cyfrifiad fel “amaethwr bonheddig” neu ''gentleman farmer''. Roedd o wedi priodi Elizabeth rywbryd ar ôl 1861, ond aeth pethau’n flêr rhyngddynt erbyn 1868. Ddiwedd Awst 1868, cyhoeddodd Henry Williams rybudd yn y papur lleol i ddweud na fyddai’n gyfrifol bellach am unrhyw wariant a wnaed gan ei wraig Elizabeth. Roedd ei frawd iau Robert wedi symud yn ôl i fyw yng Nghefn Emrys ar ôl ymddeol o’i fferm gyfagos, Bodryn, ac yntau ond yn 45 oed. Tybed aeth pethau’n flêr oherwydd ei bresenoldeb o yn y cartref, gan i Elizabeth, yn yr un papur, gyhoeddi nodyn o hunan-gyfiawnhad (a gynhyrchir yma yn y Saesneg gwreiddiol).<ref>''Carnarvon and Denbigh Herald'', 29.8.1868, t.1</ref> Mae hi’n nodi mai Bodryn oedd cartref Robert, a bod Robert wedi perswadio ei frawd Henry i wrthod cyfrifoldeb am ei dyledion hi. Honnai ymhellach yr oedd hi wedi talu llawer o ddyledion y teulu wrth symud i Gefn Emrys, ond er hynny yr oedd wedi dioddef creulondeb a chamdriniaeth yn ei chartref - triniaeth a symbylwyd, meddai, gan ei brawd-yng-nghyfraith, Robert. Mae awgrym pellach fod Henry wedi ei gau i mewn ym Modryn a hithau heb gael mynd ato. Roedd hi’n amau mai’r bwriad oedd ei pherswadio hi i symud allan o Gefn Emrys. Serch hyn oll, mae’n ymddangos bod merch, Jane Anne, wedi ei geni iddynt ym 1868-9. Aeth honno ymlaen i briodi Thomas Hughes o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] rywbryd ar ôl 1891, pan oedd Thomas yn dal i fyw gartref ym Maes Mawr; roedd y cwpl wedi priodi ac yn byw yn nhŷ fferm [[Bachwen]] erbyn 1901, ac yn dal yno ym 1921.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1921.</ref> Sonnir yn archifau Bachwen bod Thomas Hughes yn fab-yng-nghyfraith i Henry Williams. Mae’r archif pwysig hwnnw’n cynnwys dyddiaduron ffermio Cefn Emrys, 1883-1903.<ref>Archifdy Caernarfon, XD66/''passim''</ref>
Erbyn 1871, roedd Henry’r tad a Jane wedi marw, a Henry (a aned tua 1824) oedd y mab a oedd wedi cymryd drosodd. Fe’i disgrifir yn y Cyfrifiad fel “amaethwr bonheddig” neu ''gentleman farmer''. Roedd wedi priodi ag Elizabeth rywbryd ar ôl 1861, ond aeth pethau’n flêr rhyngddynt erbyn 1868. Ddiwedd Awst 1868, cyhoeddodd Henry Williams rybudd yn y papur lleol i ddweud na fyddai’n gyfrifol bellach am unrhyw wariant a wnaed gan ei wraig Elizabeth. Roedd ei frawd iau, Robert, wedi symud yn ôl i fyw yng Nghefn Emrys ar ôl ymddeol o’i fferm gyfagos, Bodryn, ac yntau ond yn 45 oed. Tybed aeth pethau’n flêr oherwydd ei bresenoldeb o yn y cartref, gan i Elizabeth, yn yr un papur, gyhoeddi nodyn o hunan-gyfiawnhad (a gynhyrchir yma yn y Saesneg gwreiddiol).<ref>''Carnarvon and Denbigh Herald'', 29.8.1868, t.1</ref> Mae hi’n nodi mai Bodryn oedd cartref Robert, a bod Robert wedi perswadio ei frawd Henry i wrthod cyfrifoldeb am ei dyledion hi. Honnai ymhellach ei bod hi wedi talu llawer o ddyledion y teulu wrth iddi symud i Gefn Emrys, ond er hynny yr oedd wedi dioddef creulondeb a chamdriniaeth yn ei chartref - triniaeth a symbylwyd, meddai, gan ei brawd-yng-nghyfraith, Robert. Mae awgrym pellach fod Henry wedi ei gau i mewn ym Modryn a hithau heb gael mynd ato. Roedd hi’n amau mai’r bwriad oedd ei pherswadio hi i symud allan o Gefn Emrys. Serch hyn oll, mae’n ymddangos bod merch, Jane Anne, wedi ei geni iddynt ym 1868-9. Aeth honno ymlaen i briodi Thomas Hughes o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] rywbryd ar ôl 1891, pan oedd Thomas yn dal i fyw gartref ym Maes Mawr; roedd y cwpl wedi priodi ac yn byw yn nhŷ fferm [[Bachwen]] erbyn 1901, ac yn dal yno ym 1921.<ref>Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1921.</ref> Sonnir yn archifau Bachwen bod Thomas Hughes yn fab-yng-nghyfraith i Henry Williams. Mae’r archif bwysig honno'n cynnwys dyddiaduron yn ymdrin â ffermio Cefn Emrys, 1883-1903.<ref>Archifdy Caernarfon, XD66/''passim''</ref>


Erbyn 1881, roedd Robert wedi symud (neu efallai ei fod oddi cartref), a dim ond dau was a Henry oedd yn bresennol yn y tŷ fferm. Nid oedd sôn am Elizabeth y wraig ychwaith. Ym 1891, nid oedd neb yn byw yn y tŷ (neu efallai nad oedd neb gartref ar noson y Cyfrifiad).<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901</ref> Dichon fod Henry wedi marw tua 1901 pan oedd Robert, a oedd yn dal yn hen lanc, wedi dychwelyd i’r fferm ac yn ffermio yno, yntau erbyn hynny’n 73 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901</ref>
Erbyn 1881, roedd Robert wedi symud (neu efallai ei fod oddi cartref), a dim ond dau was a Henry oedd yn bresennol yn y tŷ fferm. Nid oedd sôn am Elizabeth y wraig ychwaith. Ym 1891, nid oedd neb yn byw yn y tŷ (neu efallai nad oedd neb gartref ar noson y Cyfrifiad).<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901</ref> Dichon fod Henry wedi marw tua 1901 pan oedd Robert, a oedd yn dal yn hen lanc, wedi dychwelyd i’r fferm ac yn ffermio yno, yntau erbyn hynny’n 73 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:55, 18 Hydref 2023

Mae Cefn Emrys yn fferm o faint sylweddol ym mhlwyfi Llandwrog a Llanwnda. Saif y ffermdy i’r gorllewin o’r ffordd sydd yn arwain o Landwrog i bentref Saron, tua hanner milltir i’r gogledd o Landwrog ei hun.

Clywir y sôn cyntaf am Thomas Williams, Cefn Emrys, mewn gweithred pan werthodd dir yn Niwbwrch, Sir Fôn. [1] Roedd ei wraig Alice yn ferch i William Roberts, Pen y Wrach, plwyf Llanbeblig.[2] Mae’n bosibl ei fod wedi symud i Gefn Emrys o blwyf Ceidio yn Llŷn, gan fod ei ail fab wedi ei eni yno tua 1773.[3] “Gŵr bonheddig” (gentleman) oedd y disgrifiad ohono yn y weithred honno; bu farw ym 1799 heb ewyllys, wrth i’w fab Thomas dderbyn llythyrau gweinyddu ei stad fis Ionawr 1800. Fe’i disgrifir yn y ddogfen honno fel “iwmon” (sef ffermwr o sylwedd).[4] Dichon fod gan Thomas y mab ddau frawd, Henry Williams, iwmon arall, a aeth ymlaen wedyn i ymsefydlu fel bragwr yng Nghaernarfon, lle’r oedd yn dal wrth ei alwedigaeth mor ddiweddar â 1836[5]; a Robert Williams, iwmon a ffermiai yn Eithinog, plwyf Llanllyfni.

Diddorol yw sylwi ar honiad mewn llythyr dyddiedig 1832[6] fod teulu Cefn Emrys wastad yn cefnogi teulu Glynllifon mewn etholiadau ac ati. Mae Map a Rhestr Bennu Degwm y plwyf (1840-3) yn dangos fod y fferm yn ymestyn (y pryd hynny) o ochr Morfa Dinlle hyd at y Lôn Ganol rhwng Dôl Meredydd a Bwlan. Henry Williams oedd yn berchen ar y fferm ac ef hefyd oedd yn ei ffermio. Roedd y fferm yn cynnwys tua 84 o erwau'r adeg honno.[7] Dichon mai brawd yr ail Thomas oedd yr Henry hwn, sef y bragwr gynt, ac roedd yn awyddus i ymestyn y tir yr oedd yn ei ffermio trwy rentu darn o Forfa Dinlle a oedd wedi ei amgáu erbyn hynny. Ysgrifennodd at Arglwydd Newborough yn gofyn am gael rhentu Parc Mawr ar y morfa. Nid oedd Newborough am rentu’r Parc Mawr, ond roedd yn ddigon parod i rentu darnau eraill o’r morfa i Henry Williams.[8]

Mae Cyfrifiad 1851 yn cadarnhau maint y fferm ac yn nodi fod Henry Williams yn dal i ffermio yno, er ei fod yn 78 oed. Roedd ei wraig Jane, a hanai o blwyf Llandwrog, 20 mlynedd yn iau nag ef, ac roedd ganddo dri mab, Thomas, Henry a Robert (er nad oedd Henry, mae’n ymddangos, yn byw yng nghartref y teulu adeg y Cyfrifiad). Yn ogystal â’r rhai hyn, roedd Henry’n cyflogi pedwar o weision fferm. Ym 1861, roedd Henry’n dal yn fyw gyda’i wraig, yntau’n 87 ar ddiwrnod y Cyfrifiad, a’i wraig Jane yn 69. Roedd y meibion Thomas a Robert wedi gadael y cartref, Robert i ffermio mewn man arall. Roedd y mab arall, Henry, hen lanc tua 36 oed, wedi symud yn ôl i’r cartref ac yn ffermio gyda’i dad. Roedd angen tri gwas arnynt i helpu gyda gwaith y fferm.

Erbyn 1871, roedd Henry’r tad a Jane wedi marw, a Henry (a aned tua 1824) oedd y mab a oedd wedi cymryd drosodd. Fe’i disgrifir yn y Cyfrifiad fel “amaethwr bonheddig” neu gentleman farmer. Roedd wedi priodi ag Elizabeth rywbryd ar ôl 1861, ond aeth pethau’n flêr rhyngddynt erbyn 1868. Ddiwedd Awst 1868, cyhoeddodd Henry Williams rybudd yn y papur lleol i ddweud na fyddai’n gyfrifol bellach am unrhyw wariant a wnaed gan ei wraig Elizabeth. Roedd ei frawd iau, Robert, wedi symud yn ôl i fyw yng Nghefn Emrys ar ôl ymddeol o’i fferm gyfagos, Bodryn, ac yntau ond yn 45 oed. Tybed aeth pethau’n flêr oherwydd ei bresenoldeb o yn y cartref, gan i Elizabeth, yn yr un papur, gyhoeddi nodyn o hunan-gyfiawnhad (a gynhyrchir yma yn y Saesneg gwreiddiol).[9] Mae hi’n nodi mai Bodryn oedd cartref Robert, a bod Robert wedi perswadio ei frawd Henry i wrthod cyfrifoldeb am ei dyledion hi. Honnai ymhellach ei bod hi wedi talu llawer o ddyledion y teulu wrth iddi symud i Gefn Emrys, ond er hynny yr oedd wedi dioddef creulondeb a chamdriniaeth yn ei chartref - triniaeth a symbylwyd, meddai, gan ei brawd-yng-nghyfraith, Robert. Mae awgrym pellach fod Henry wedi ei gau i mewn ym Modryn a hithau heb gael mynd ato. Roedd hi’n amau mai’r bwriad oedd ei pherswadio hi i symud allan o Gefn Emrys. Serch hyn oll, mae’n ymddangos bod merch, Jane Anne, wedi ei geni iddynt ym 1868-9. Aeth honno ymlaen i briodi Thomas Hughes o Glynnog rywbryd ar ôl 1891, pan oedd Thomas yn dal i fyw gartref ym Maes Mawr; roedd y cwpl wedi priodi ac yn byw yn nhŷ fferm Bachwen erbyn 1901, ac yn dal yno ym 1921.[10] Sonnir yn archifau Bachwen bod Thomas Hughes yn fab-yng-nghyfraith i Henry Williams. Mae’r archif bwysig honno'n cynnwys dyddiaduron yn ymdrin â ffermio Cefn Emrys, 1883-1903.[11]

Erbyn 1881, roedd Robert wedi symud (neu efallai ei fod oddi cartref), a dim ond dau was a Henry oedd yn bresennol yn y tŷ fferm. Nid oedd sôn am Elizabeth y wraig ychwaith. Ym 1891, nid oedd neb yn byw yn y tŷ (neu efallai nad oedd neb gartref ar noson y Cyfrifiad).[12] Dichon fod Henry wedi marw tua 1901 pan oedd Robert, a oedd yn dal yn hen lanc, wedi dychwelyd i’r fferm ac yn ffermio yno, yntau erbyn hynny’n 73 oed.[13]

Cyfeiriadau

  1. LlGC, Papurau Arthur Ifor Pryce 755
  2. Archifdy Caernarfon, XD1/834
  3. Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1851
  4. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B/1800/76
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/17218, 18313
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/17218
  7. Map Degwm plwyf Llandwrog, 1849
  8. Archifdy Caernarfon, XD2/18313
  9. Carnarvon and Denbigh Herald, 29.8.1868, t.1
  10. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1891-1921.
  11. Archifdy Caernarfon, XD66/passim
  12. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901
  13. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1851-1901