Yr Orsaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Bwytai]] | [[Categori:Bwytai]] | ||
[[Categori:Adeiladau]] | [[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] | ||
[[Categori:Cymdeithas]] | [[Categori:Cymdeithas]] | ||
[[Categori:Diwydiant a Masnach]] | [[Categori:Diwydiant a Masnach]] |
Fersiwn yn ôl 15:34, 3 Gorffennaf 2023
Mae adeilad Yr Orsaf wedi'i leoli yng nghanol pentref Pen-y-groes, yn yr hen Siop Griffiths. Yn wreiddiol, Tafarn y Stag oedd yr adeilad, a dywedir mai yn y dafarn y gellid prynu tocynnau i deithio ar drenau Rheilffordd Nantlle a diswyl i'r trên gyrraedd, a hynny sy'n esbonio'r enw a fabwysiadwyd gan y perchnogion newydd.
Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor gyda'r enw Siop Griffiths Cyf. Eu nod oedd sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
Erbyn hyn mae'r Orsaf yn llawer mwy nag adeilad. Mae'n hwb cymunedol pwysig yn y Dyffryn sy'n cynnig cyfleoedd gwerthfawr i blant, pobl ifanc ac oedolion ac yn cynnig swyddi i drigolion yr ardal. Mae'n gartref i gaffi, llety 3 ystafell, ystafell aml-bwrpas, canolfan digidol a swyddfeydd i'r staff. Yn ogystal â hyn, mae amryw o brosiectau ar y gweill- o'r Pantri Cymunedol i'r Gweithdy Cerddoriaeth, er mwyn darparu rhywbeth at ddant bawb.[1]