Fferm Cwm Coryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Saif fferm '''Cwm Coryn''' (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref [[Llanaelhaearn]] a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau[[Moel Penllechog]], [[Gurn Ddu]] a [[Moel Bronmiod]]. Gerllaw iddi mae hen [[Capel Cwm Coryn (MC)|gapel Cwm Coryn]], a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.  
Saif fferm '''Cwm Coryn''' (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref [[Llanaelhaearn]] a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau [[Moel Penllechog]], [[Gurn Ddu]] a [[Moel Bronmiod]]. Gerllaw iddi mae hen [[Capel Cwm Coryn (MC)|gapel Cwm Coryn]], a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.  

Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.<ref>Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, ''The Buildings of Wales: Gwynedd'', (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:17, 29 Mehefin 2023

Saif fferm Cwm Coryn (SH 406 454) yn agos i'r ffordd gul sy'n cysylltu pentref Llanaelhaearn a ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon â nifer o ffermydd sydd ar lethrau Moel Penllechog, Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Gerllaw iddi mae hen gapel Cwm Coryn, a gaeodd fel lle o addoliad oddeutu diwedd y 1980au.

Ar y llethrau hyn gwelir llawer o olion hen ffermydd sy'n mynd yn ôl i'r cyfnod cynhanesyddol diweddar (tua 500 CC) ac y parhawyd i'w defnyddio mewn rhai achosion tan oddeutu canol y mileniwm cyntaf (tua 500 OC). Ar y safleoedd hyn gwelir fel rheol olion tri neu bedwar o adeiladau crwn wedi'u codi o fewn iard a chyda muriau amddiffynnol crymion neu sythion o amgylch yr ierdydd i'w hamddiffyn. Gerllaw'r olion hyn gwelir sawl enghraifft o hen systemau caeau a oedd wedi eu rhannu'n lleiniau gweddol gul. Er bod y ffermydd hyn ar dir gweddol uchel, eto mae ansawdd y pridd yn weddol dda yno, sy'n tystio i'r defnydd a wnaed o'r tir ar hyd y canrifoedd hyd y presennol. Gwelir y parhad hwn mewn amaethu yn neilltuol dda yn fferm Cwm Coryn. Yn y caeau o amgylch y fferm ceir gweddillion cytiau crynion a godwyd mae'n debygol yn y cyfnod cynhanesyddol diweddar/Rhufeinig. Dros y rhain codwyd adeiladau hirsgwar diweddarach yn yr oesoedd canol. Ychydig tu hwnt i iard y fferm ceir adfeilion adeilad amaethyddol carreg, a godwyd ym 1663. Roedd hwn bron yn sicr yn ychwanegiad i neuadd bren o'r oesoedd canol diweddar, a ddisodlwyd gan dŷ carreg ym 1723. Mae'n ymddangos i'r ffermdy ar ochr arall yr iard gael ei adeiladu ddechrau'r 20g.[1]

Cyfeiriadau

  1. Richard Haslam, Julian Orbach and Adam Voelcker, The Buildings of Wales: Gwynedd, (Yale University Press, 2009), tt. 386-7.