Cwm Ceiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Fersiwn yn ôl 09:26, 12 Mehefin 2023

Mae Cwm Ceiliog (Cwm Cilio ar fapiau a dogfennau swyddogol) yn gwm bach ym mhlwyf Llanaelhaearn sy'n rhedeg o ardal Clipiau rhwng ochr ddeheuol Moel Bronmiod ac ochr orllewinol mynydd Pen-y-gaer. Mae'r nant ar waelod y cwm yn un o flaen-nentydd Afon Erch. Mae fferm ar waelod Cwm Ceiliog yn rhannu'r enw. Fodd bynnag, er mai Cwm Ceiliog a ddefnyddir ar lafar yn yr ardal, Cwm Cilio yw'r enw a ddefnyddir ar fapiau'r Arolwg Ordnans ac ar ddogfennau swyddogol. Nid oes eglurhad pendant ynghylch ystyr yr enw - oherwydd ei safle anghysbell ar gyrion plwyf Llanaelhaearn, efallai mai lle i 'gilio' neu ymneilltuo iddo yw'r ystyr. Ar y llaw arall, efallai mai "Cwm Ceiliog" oedd yr enw gwreiddiol wedi'r cyfan. Ar dir y fferm ceir cronfa ddŵr sylweddol sy'n parhau i gael ei defnyddio i ddarparu dŵr i Bwllheli - er mai o lyn Cwm Ystradllyn y daw'r prif gyflenwad ers blynyddoedd bellach.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau