Henry Williams, apothecari o Glynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 20: Llinell 20:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Meddygaeth]]
[[Categori:Meddygaeth]]
[[Castegori:Apothecariaid]]
[[Categori:Apothecariaid]]
[[Categori:Meddygon]]
[[Categori:Meddygon]]

Fersiwn yn ôl 12:07, 2 Mawrth 2023

Apothecari oedd Henry Williams (bu farw ym 1691). Roedd yn ymarfer yr alwedigaeth o apothecari yng Nghlynnog mor gynnar â Chwefror 1677, gan fod ewyllys Abraham Williams, y porthmon o Lyn-y-gele, yn nodi fod ar "Henry Williams, Apothecary" y swm o £2 iddo.[1]

Yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".[2] Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng Nghlynnog yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690[3] a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw [4]. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:

  Thomas Willis, The London Practice of Physick ...
  A Discourse of the French Pox
  Peter Lowe, A discourse of the whole art of Chyrurgerie (London, 1612)
  An olde book to all young practitioners of chirurgery
  John French, The Art of Distillation (1653)
  Thomas Walkington, The Optick Glasse of Humours ...Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; rhaid i dagiau 'ref' heb enw iddynt gynnwys testun
  A Booke of Strange Apparitions

Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd The Optick Glasse of Humours ... sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn Uwchgwyrfai wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.

Bu i'w wraig, Ellin Williams, ei oroesi. Gwelir ei llofnod ar amodrwymiad (neu "admon") yn gysylltiedig â marwolaeth ei gŵr.[5]


Cyfeiriadau

  1. Prif Gofrestr Profiant, Cofrestrau Llys Braint Caergaint, Reeve 80
  2. "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", T.G. Davies, yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.
  3. Dan yr hen system o ddyddio, lle dechreuai rhif y flwyddyn ar 25 Mawrth ac nid ar 1 Ionawr, mae dyddiad 23 Mawrth 1690 sydd ar y rhestr eiddo, ond mewn gwirionedd 1691 yw'r flwyddyn yn ôl dull cyfrif heddiw.
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 I.
  5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/49 B.