Pandy Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Pandy Hen''' yn sefyll ar lan ogleddol [[Afon Crychddwr]] yn ardal [[Nebo]]. Fe'i henwir mewn ewyllys Henry ap Richard o Ddolau Ifan, [[Llanllyfni]], fel rhan o'i eiddo. Yn yr un ewyllys sonnir am bandy arall, sef (mae'n bur debyg) [[Pandy (Llanllyfni)]].<ref>LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1682/52</ref>
Mae '''Pandy Hen''' yn sefyll ar lan ogleddol [[Afon Crychddwr]] yn ardal [[Nebo]]. Fe'i henwir mewn ewyllys Henry ap Richard o Ddolau Ifan, [[Llanllyfni]], fel rhan o'i eiddo ym 1682. Yn yr un ewyllys sonnir am bandy arall, sef (mae'n bur debyg) [[Pandy (Llanllyfni)]].<ref>LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1682/52</ref>

Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888, ac nid yw'n cael ei restru yng nghyfrifiad 1841. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf [[Llanllyfni]]. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:13, 17 Ionawr 2023

Mae Pandy Hen yn sefyll ar lan ogleddol Afon Crychddwr yn ardal Nebo. Fe'i henwir mewn ewyllys Henry ap Richard o Ddolau Ifan, Llanllyfni, fel rhan o'i eiddo ym 1682. Yn yr un ewyllys sonnir am bandy arall, sef (mae'n bur debyg) Pandy (Llanllyfni).[1]

Bellach, mae'n enw ar dŷ ond mae'r enw'n tystio i fodolaeth gwaith pannu brethyn yno yn y gorffennol - er bod y gwaith wedi cau, mae'n debyg, cyn i arolwg cyntaf manwl yr Arolwg Ordnans yn yr ardal gymryd lle, a hynny tua 1888, ac nid yw'n cael ei restru yng nghyfrifiad 1841. Safai nid nepell o Frithdir Isaf a Llwydcoed Fawr ym mhlwyf Llanllyfni. Roedd pandai'n fath arbennig o felin a ddefnyddid i orffen defnyddiau gwlân wedi iddynt gael eu nyddu. Mae map Ordnans 1888 yn dangos olion ffrwd felin ger y pandy hwn.

Ychydig i'r gogledd, yn cael ei droi gan Afon y Felin yr oedd pandy arall a oedd yn gweithio erbyn 1841.[2] Tuedda hyn i olygu mai olynydd i Bandy Hen ydoedd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

{{cyfeiriadau]]

  1. LlGC, Dogfennau Profiannaeth Bangor, B1682/52
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1841