Richard Samuel Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Richard Samuel Hughes''' (1888-1952) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn athro'n ddiweddarach. Fe'i ganed 18 Mehefin 1888 yn Nhany...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Richard Samuel Hughes''' (1888-1952) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn athro'n ddiweddarach.
Roedd '''Richard Samuel Hughes''' (1888-1952) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn athro'n ddiweddarach.


Fe'i ganed 18 Mehefin 1888 yn Nhanycelyn, Rhostryfan yn fab i Samuel a Mary Hughes. Wedi addysg gynnar yn ysgol y pentref bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn masnachdy cyn mynd i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog gyda'i fryd ar fynd yn weinidog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd yn y celfyddydau, ac yna graddiodd mewn Diwinyddiaeth o'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Bu'n weinidog yn Porth, Y Rhondda; yn Y Ffôr, Llŷn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Ym 1930 fe'i penodwyd yn athro i Goleg Clwyd, Y Rhyl (sef y coleg a ffurfiwyd pan symudodd Ysgol Clynnog yno), dan y Parch. R. Dewi Williams (prifathro olaf Ysgol Clynnog). Olynodd Dewi Williams fel prifathro Coleg Clwyd, gan wasanaethu yn y swydd honno am 13 mlynedd. Roedd yn bregethwr grymus a chyflawnodd gryn swm o waith ym maes beirniadaeth ysgrythurol a phynciau diwinyddol. Cyhoeddwyd gwerslyfr o'i eiddo ar Efengyl Mathew ym 1937.<sup>[1]</sup>
Fe'i ganed 18 Mehefin 1888 yn Nhanycelyn, [[Rhostryfan]] yn fab i Samuel a Mary Hughes. Wedi addysg gynnar yn ysgol y pentref bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn masnachdy cyn mynd i [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]] gyda'i fryd ar fynd yn weinidog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd yn y celfyddydau, ac yna graddiodd mewn Diwinyddiaeth o'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Bu'n weinidog yn Porth, Y Rhondda; yn Y Ffôr, Llŷn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Ym 1930 fe'i penodwyd yn athro i Goleg Clwyd, Y Rhyl (sef y coleg a ffurfiwyd pan symudodd Ysgol Clynnog yno), dan y Parch. [[R. Dewi Williams]] (prifathro olaf Ysgol Clynnog). Olynodd Dewi Williams fel prifathro Coleg Clwyd, gan wasanaethu yn y swydd honno am 13 mlynedd. Roedd yn bregethwr grymus a chyflawnodd gryn swm o waith ym maes beirniadaeth ysgrythurol a phynciau diwinyddol. Cyhoeddwyd gwerslyfr o'i eiddo ar Efengyl Mathew ym 1937.<ref>Seiliwyd ar erthygl ar Richard Samuel Hughes yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970'', (Llundain 1997), t.79
</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Seiliwyd ar erthygl ar Richard Samuel Hughes yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970'', (Llundain 1997), t.79
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Darlithwyr]]

Fersiwn yn ôl 18:38, 4 Ionawr 2023

Roedd Richard Samuel Hughes (1888-1952) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn athro'n ddiweddarach.

Fe'i ganed 18 Mehefin 1888 yn Nhanycelyn, Rhostryfan yn fab i Samuel a Mary Hughes. Wedi addysg gynnar yn ysgol y pentref bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn masnachdy cyn mynd i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog gyda'i fryd ar fynd yn weinidog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd yn y celfyddydau, ac yna graddiodd mewn Diwinyddiaeth o'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Bu'n weinidog yn Porth, Y Rhondda; yn Y Ffôr, Llŷn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Ym 1930 fe'i penodwyd yn athro i Goleg Clwyd, Y Rhyl (sef y coleg a ffurfiwyd pan symudodd Ysgol Clynnog yno), dan y Parch. R. Dewi Williams (prifathro olaf Ysgol Clynnog). Olynodd Dewi Williams fel prifathro Coleg Clwyd, gan wasanaethu yn y swydd honno am 13 mlynedd. Roedd yn bregethwr grymus a chyflawnodd gryn swm o waith ym maes beirniadaeth ysgrythurol a phynciau diwinyddol. Cyhoeddwyd gwerslyfr o'i eiddo ar Efengyl Mathew ym 1937.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd ar erthygl ar Richard Samuel Hughes yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain 1997), t.79