Austin Hopkinson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sais oedd Austin Hopkinson (1869-1962), aelod seneddol Mossley ym Manceinion am flynyddoedd lawer, ond roedd ganddo ail gartref yn Uwchgwyrfai, se...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Diwydianwyr]] | [[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]] | ||
[[Categori:Gwleidyddion]] | [[Categori:Gwleidyddion]] |
Fersiwn yn ôl 12:11, 16 Rhagfyr 2022
Sais oedd Austin Hopkinson (1869-1962), aelod seneddol Mossley ym Manceinion am flynyddoedd lawer, ond roedd ganddo ail gartref yn Uwchgwyrfai, sef Bron Dirion, Pontlyfni. Roedd o'n ddiwydiannwr a arbenigai mewn offer ar gyfer y diwydiannau mwyngloddio. Roedd Hopkinson yn aelod seneddol Annibynnol bron yn ddi-fwlch o 1918 hyd 1945. Roedd yn aros yn annibynnol, fel arfer, o unrhyw chwip plaid, er iddo dueddu ffafrio pleidiau a symudiadau blaengar a gwrth-Dorïaidd. Ei brif ffrind gwleidyddol oedd Stanley Baldwin, er ei fod wedi bod yn gyfeillgar efo David Lloyd George cyn 1922. Bu'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn ystod y ddau ryfel byd, a hynny o'i wirfodd, ac roedd ganddo farn gref am gamgymeriadau milwrol.[1].
Yn sgil argyfwng diweithdra yn Nyffryn Nantlle, ac ymdrechion Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle a ffurfiwyd ym 1956, sicrhawyd grant er mwyn codi ffatri ar gyfer Cwmni Austin Hopkinson Mhen-y-groes, i ymestyn gwaith gan y cwmni oedd eisoes yn mynd rhagddo gerllaw. Dichon mai oherwydd cysylltiad personol Hopkinson â'r ardal y dewisiwyd y cwmni y lleoliad hwn yn y lle cyntaf. Cafodd y ffatri ei chwblhau ym 1958.[2] Dyma'r ffatri a ddaeth yn Ffatri Pikrose ym 1970.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Erthygl Wikipedia am Austin Hopkinson [1], cyrchwyd 16.12.2022. Mae hanes llawn gyrfa wleidyddol Hopkinson yn yr erthygl honno.
- ↑ Gwyn Edwards, Mudiad y Di-waith Dyffryn Nantlle, 1956-1960, Llafur, Cyf.5, 1, t.30
- ↑ Delyth Morris, Economic Development in Gwynedd, 1870-2001, (2005), [2], cyrchwyd 14.7.2019