Pwll Cywarch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Am rai canrifoedd, hyd at oddeutu canol y 19g., arferid tyfu cywarch a llin (''hemp'' a ''flax'') mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn bennaf i'w defnyddio ar...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''pwll cywarch''' yn nodwedd a oedd i'w gweld ger rhai ffermydd yn y gorffennol .
Am rai canrifoedd, hyd at oddeutu canol y 19g., arferid tyfu cywarch a llin (''hemp'' a ''flax'') mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn bennaf i'w defnyddio ar gyfer cynhyrchu defnyddiau. Hefyd ceid olew gwerthfawr o'r llin. Mae'r enw "cywarch" i'w gael fel rhan o enwau ffermydd a chaeau mewn sawl ardal yng Nghymru, megis plas Glyn Cywarch ger Harlech, cartref yr Arglwydd Harlech.  

Arferid torri cywarch a llin ddiwedd yr haf a'i osod yn ysgubau bychain. Y croen neu'r llin oedd y rhan o'r ysgubau a oedd yn werthfawr yn fasnachol a rhaid oedd gwahanu'r llin oddi wrth y coesyn. Arferid torri pwll bychan ar lan ffrwd neu ffos a chronni dŵr ynddo. Wedi i'r pwll lenwi, gosodid yr ysgubau ynddo i fwydo nes byddai'r cywarch neu lin yn ymwahanu oddi wrth y coesynnau. Yna cesglid y cywarch neu'r llin yn ofalus a'i sychu. Byddai'r ffeibrau wedyn yn barod i'w nyddu neu eu gwehyddu, naill ai ar droell fach mewn cartrefi neu'n ddiweddarach mewn ffatrioedd bychain. Roedd y defnydd a gynhyrchid yn denau ac ysgafn ac fe'i defnyddid i wneud pethau fel llieiniau a dillad ysgafn ar gyfer yr haf.   

Yn ôl yr hanesydd W. Gilbert Williams roedd pwll cywarch ar dir fferm Wernlas Ddu, ar gyrion Rhostryfan, ac roedd hwnnw'n bodoli o hyd pan oedd Gilbert Williams yn ysgrifennu ei nodiadau arno (sydd mewn teipysgrif heb ddyddiad, ond a luniwyd mae'n debyg oddeutu'r 1920au-1940au)<sup>[1]</sup> Dywed hefyd fod pwll cywarch arall i'w weld islaw i dŷ'r Gaerwen, ond nad oedd hwnnw mor amlwg ag un y Wernlas Ddu. Dywed ymhellach yr arferai pobl a ddioddefai oddi wrth grydcymalau a phoenau yn eu haelodau fynd i geisio dŵr y pwll cywarch oherwydd ei oerni haf a gaeaf. Arferid dal pen-glin anystwyth o dan y dŵr a lifai o'r pwll nes teimlo rhyddhad o'r boen. Mae'n debyg mai oerni'r dŵr oedd yn peri hynny yn hytrach nag unrhyw ragoriaethau meddyginiaethol.  
Yn ôl yr hanesydd [[W. Gilbert Williams]] roedd pwll cywarch ar dir fferm Wernlas Ddu, ar gyrion [[Rhostryfan]], ac roedd hwnnw'n bodoli o hyd pan oedd Gilbert Williams yn ysgrifennu ei nodiadau arno (sydd mewn teipysgrif heb ddyddiad, ond a luniwyd mae'n debyg oddeutu'r 1920au-1940au)<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.84-5</ref> Dywed hefyd fod pwll cywarch arall i'w weld islaw i dŷ'r Gaerwen, ond nad oedd hwnnw mor amlwg ag un y Wernlas Ddu. Dywed ymhellach yr arferai pobl a ddioddefai oddi wrth grydcymalau a phoenau yn eu haelodau fynd i geisio dŵr y pwll cywarch oherwydd ei oerni haf a gaeaf. Arferid dal pen-glin anystwyth o dan y dŵr a lifai o'r pwll nes teimlo rhyddhad o'r boen. Mae'n debyg mai oerni'r dŵr oedd yn peri hynny yn hytrach nag unrhyw ragoriaethau meddyginiaethol.  

Diddorol nodi y sefydlwyd project rai blynyddoedd yn ôl gan Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Bangor i annog rhai ffermwyr i ailddechrau tyfu cywarch a llin gyda'r bwriad o'i gynhyrchu ar raddfa weddol fawr. Cymerodd nifer o ffermydd ran yn y cynllun, gan gynnwys rhai yn Uwchgwyrfai, ond nid yw'n ymddangos iddo fod yn llwyddiant eithriadol, er i rai ffermydd barhau i gynhyrchu'r cnwd am rai blynyddoedd.  
Diddorol nodi y sefydlwyd project rai blynyddoedd yn ôl gan Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Bangor i annog rhai ffermwyr i ailddechrau tyfu cywarch a llin gyda'r bwriad o'i gynhyrchu ar raddfa weddol fawr. Cymerodd nifer o ffermydd ran yn y cynllun, gan gynnwys rhai yn [[Uwchgwyrfai]], ond nid yw'n ymddangos iddo fod yn llwyddiant eithriadol, er i rai ffermydd barhau i gynhyrchu'r cnwd am rai blynyddoedd.  

== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

1. W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.84-5.
[[Categori:Amaethyddiaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:12, 22 Tachwedd 2022

Roedd pwll cywarch yn nodwedd a oedd i'w gweld ger rhai ffermydd yn y gorffennol .

Am rai canrifoedd, hyd at oddeutu canol y 19g., arferid tyfu cywarch a llin (hemp a flax) mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn bennaf i'w defnyddio ar gyfer cynhyrchu defnyddiau. Hefyd ceid olew gwerthfawr o'r llin. Mae'r enw "cywarch" i'w gael fel rhan o enwau ffermydd a chaeau mewn sawl ardal yng Nghymru, megis plas Glyn Cywarch ger Harlech, cartref yr Arglwydd Harlech.

Arferid torri cywarch a llin ddiwedd yr haf a'i osod yn ysgubau bychain. Y croen neu'r llin oedd y rhan o'r ysgubau a oedd yn werthfawr yn fasnachol a rhaid oedd gwahanu'r llin oddi wrth y coesyn. Arferid torri pwll bychan ar lan ffrwd neu ffos a chronni dŵr ynddo. Wedi i'r pwll lenwi, gosodid yr ysgubau ynddo i fwydo nes byddai'r cywarch neu lin yn ymwahanu oddi wrth y coesynnau. Yna cesglid y cywarch neu'r llin yn ofalus a'i sychu. Byddai'r ffeibrau wedyn yn barod i'w nyddu neu eu gwehyddu, naill ai ar droell fach mewn cartrefi neu'n ddiweddarach mewn ffatrioedd bychain. Roedd y defnydd a gynhyrchid yn denau ac ysgafn ac fe'i defnyddid i wneud pethau fel llieiniau a dillad ysgafn ar gyfer yr haf.

Yn ôl yr hanesydd W. Gilbert Williams roedd pwll cywarch ar dir fferm Wernlas Ddu, ar gyrion Rhostryfan, ac roedd hwnnw'n bodoli o hyd pan oedd Gilbert Williams yn ysgrifennu ei nodiadau arno (sydd mewn teipysgrif heb ddyddiad, ond a luniwyd mae'n debyg oddeutu'r 1920au-1940au)[1] Dywed hefyd fod pwll cywarch arall i'w weld islaw i dŷ'r Gaerwen, ond nad oedd hwnnw mor amlwg ag un y Wernlas Ddu. Dywed ymhellach yr arferai pobl a ddioddefai oddi wrth grydcymalau a phoenau yn eu haelodau fynd i geisio dŵr y pwll cywarch oherwydd ei oerni haf a gaeaf. Arferid dal pen-glin anystwyth o dan y dŵr a lifai o'r pwll nes teimlo rhyddhad o'r boen. Mae'n debyg mai oerni'r dŵr oedd yn peri hynny yn hytrach nag unrhyw ragoriaethau meddyginiaethol.

Diddorol nodi y sefydlwyd project rai blynyddoedd yn ôl gan Adran Amaethyddiaeth Prifysgol Bangor i annog rhai ffermwyr i ailddechrau tyfu cywarch a llin gyda'r bwriad o'i gynhyrchu ar raddfa weddol fawr. Cymerodd nifer o ffermydd ran yn y cynllun, gan gynnwys rhai yn Uwchgwyrfai, ond nid yw'n ymddangos iddo fod yn llwyddiant eithriadol, er i rai ffermydd barhau i gynhyrchu'r cnwd am rai blynyddoedd.

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Cyhoeddiadau Mei, 1983), tt.84-5