John Hughes (Alaw Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''John Hughes (Alaw Llyfnwy)''' (1841-?1905) yn un o'r cerddwyr mwyaf Dyffryn Nantlle yn ail hanner y 19g. Chwarelwr oedd o wrth ei waith, ond...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''John Hughes (Alaw Llyfnwy)''' (1841-?1905) yn un o'r cerddwyr mwyaf [[Dyffryn Nantlle]] yn ail hanner y 19g. Chwarelwr oedd o wrth ei waith, ond fe'i dewisiwyd yn oruchwyliwr [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1886 i olynu John Roberts.<ref>''Y Drych'', 12.8.1886, t.8 </ref>, er iddo gael ei ddisgrifio fel "chwarelwr" hyd yn oed wedi hynny yn y Cyfrifiad, ac, ym 1891, yn cadw morwyn i helpu yn y tŷ. Roedd ganddo fo a'i wraig Catherine (1841-1899)<ref>''Y Werin'', 22.7.1899, t.3</ref> o leiaf saith o blant. Cartref y teulu oedd Brynffynnon, tŷ sylweddol ger Coedmadog ym mhentref [[Tal-y-sarn]].<ref>Cyfrifiadau plewyf Llanllyfni, 1881-91</ref>
Roedd '''John Hughes (Alaw Llyfnwy)''' (1841-?1905) yn un o'r cerddwyr mwyaf [[Dyffryn Nantlle]] yn ail hanner y 19g. Chwarelwr oedd o wrth ei waith, ond fe'i dewisiwyd yn oruchwyliwr [[Chwarel Pen-y-bryn]] ym 1886 i olynu John Roberts.<ref>''Y Drych'', 12.8.1886, t.8 </ref>, er iddo gael ei ddisgrifio fel "chwarelwr" hyd yn oed wedi hynny yn y Cyfrifiad, ac, ym 1891, yn cadw morwyn i helpu yn y tŷ. Roedd ganddo fo a'i wraig Catherine (1841-1899)<ref>''Y Werin'', 22.7.1899, t.3</ref> o leiaf saith o blant. Cartref y teulu oedd Brynffynnon, tŷ sylweddol ger Coedmadog ym mhentref [[Tal-y-sarn]].<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1881-91</ref>

Ysgrifennodd draethawd sylweddol ar chwareli Dyffryn Nantlle ac yn y 1870au ac 1880au roedd o'n ohebydd lled gyson yn ysgrifennu at sawl papur newydd. Roedd ganddo'r ddawn a'r safon yn y gymdeithas chwarelyddol i fod yn gadeirydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn arbennig yn ei gapel, [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]]<ref>''Y Genedl Gymreig'', 11.1.1899, t.7</ref>. Ei brif faes o ragoriaeth, fodd bynnag, oedd cerddoriaeth. Bu'n cystadlu'n ddyn ifanc, ond yn nes ymlaen aeth yn boblogaidd yn lleol fel beirniad mewn eisteddfodau. Fe'i hadwaenid trwy Gymru gyfan fel cyfansoddwr nifer o ddarnau poblogaidd ar gyfer corau ac unawdwyr, megis ''Corn y Glyn'' ac ''Adgofion Dedwydd'' a ddefnyddwyd yn aml fel darnau prawf mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Fersiwn yn ôl 12:53, 11 Tachwedd 2022

Roedd John Hughes (Alaw Llyfnwy) (1841-?1905) yn un o'r cerddwyr mwyaf Dyffryn Nantlle yn ail hanner y 19g. Chwarelwr oedd o wrth ei waith, ond fe'i dewisiwyd yn oruchwyliwr Chwarel Pen-y-bryn ym 1886 i olynu John Roberts.[1], er iddo gael ei ddisgrifio fel "chwarelwr" hyd yn oed wedi hynny yn y Cyfrifiad, ac, ym 1891, yn cadw morwyn i helpu yn y tŷ. Roedd ganddo fo a'i wraig Catherine (1841-1899)[2] o leiaf saith o blant. Cartref y teulu oedd Brynffynnon, tŷ sylweddol ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn.[3]

Ysgrifennodd draethawd sylweddol ar chwareli Dyffryn Nantlle ac yn y 1870au ac 1880au roedd o'n ohebydd lled gyson yn ysgrifennu at sawl papur newydd. Roedd ganddo'r ddawn a'r safon yn y gymdeithas chwarelyddol i fod yn gadeirydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn arbennig yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn[4]. Ei brif faes o ragoriaeth, fodd bynnag, oedd cerddoriaeth. Bu'n cystadlu'n ddyn ifanc, ond yn nes ymlaen aeth yn boblogaidd yn lleol fel beirniad mewn eisteddfodau. Fe'i hadwaenid trwy Gymru gyfan fel cyfansoddwr nifer o ddarnau poblogaidd ar gyfer corau ac unawdwyr, megis Corn y Glyn ac Adgofion Dedwydd a ddefnyddwyd yn aml fel darnau prawf mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Drych, 12.8.1886, t.8
  2. Y Werin, 22.7.1899, t.3
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1881-91
  4. Y Genedl Gymreig, 11.1.1899, t.7