John Griffith Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''John Griffith Owen''' (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Owen Griffith Owen (Alafon), a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer.  
Roedd '''John Griffith Owen''' (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog [[Owen Griffith Owen (Alafon)]], a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer.  


Treuliodd ei blentyndod yn Mhant Glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa Griffith Lewis, Pen-y-groes, ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r ''Genedl'' yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny:   
Treuliodd ei blentyndod ym [[Pant-glas|Mhant Glas]], lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa [[Griffith Lewis]], [[Pen-y-groes]], ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r ''Genedl'' yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny:   
    
    
   Ha! wele deil barabl dyn, - i'w ollwng
   Ha! wele deil barabl dyn, - i'w ollwng
Llinell 16: Llinell 16:
         Un ga wlad i'w arddel;
         Un ga wlad i'w arddel;
     Trwy hwn, er mewn tir anwel,
     Trwy hwn, er mewn tir anwel,
     Sai' ei ddawn i'r oes a ddêl.<sup>[1]</sup>  
     Sai' ei ddawn i'r oes a ddêl.<ref>Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), tt.26-8.</ref>




== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Cybi, ''Beirdd Gwerin Eifionydd'', (Pwllheli, 1914), tt.26-8.
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Argraffwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:37, 5 Tachwedd 2022

Roedd John Griffith Owen (1858-1885) yn frawd iau i'r bardd a'r gweinidog Owen Griffith Owen (Alafon), a chynhyrchodd yntau beth barddoniaeth yn ystod ei oes fer.

Treuliodd ei blentyndod ym Mhant Glas, lle roedd ei dad yn cadw tafarn. Prin oedd yr addysg gynnar ffurfiol a gafodd, ond dichon i'w frawd hŷn fod yn gryn ddylanwad arno. Cafodd swydd yn llanc ifanc fel prentis argraffydd yn swyddfa Griffith Lewis, Pen-y-groes, ac oddi yno aeth i weithio i swyddfa'r Genedl yng Nghaernarfon fel argraffydd a darllenydd proflenni. Dywedir ei fod yn weithiwr cyflym a chywir ac yn uchel ei barch ymysg ei gydweithwyr. Fodd bynnag, torrodd ei iechyd yn ifanc a bu farw yng nghartref ei frawd, Alafon, fel y dywedodd hwnnw mewn llythyr at Cybi: "Bu farw, wedi bod yn distaw ddihoeni dan fy nghronglwyd am bedwar mis, yn 27ain oed." Prin oedd ei gynnyrch barddonol, ond diogelwyd peth ohono mewn llawysgrifen gan ei frawd, a anfonodd enghreifftiau ohono at Cybi. Dyma dri englyn o'i eiddo i "Y Phonograph" (math cynnar o gramoffon), a oedd yn ddyfais bur newydd a chwyldroadol bryd hynny:

 Ha! wele deil barabl dyn, - i'w ollwng
      Allan bod sill wedyn;
   Ei foddus waith rhyfedd sy'n
   Rhoi syndod, ddrysa undyn. 
 Dynweryd dôn neu eiriau, - yn fanwl
      Anfona'r un nodau;
    A seinia glir lais yn glau
    O'i lonydd ddirgel enau.
 O dan gamp, fe geidw'n gêl - enwog lais,
       Un ga wlad i'w arddel;
   Trwy hwn, er mewn tir anwel,
   Sai' ei ddawn i'r oes a ddêl.[1]


Cyfeiriadau

  1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.26-8.