Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 25: Llinell 25:
*[[Richard Williams (Croesfryn)]]  
*[[Richard Williams (Croesfryn)]]  
*[[Henry Hughes (Gwelltyn)]]  
*[[Henry Hughes (Gwelltyn)]]  
*Ioan ap Ioan: Mae'n bur amheus ai John  Williams (Ioan ap Ioan) (1800-1871) sydd yma. Gŵr o Lanrwst oedd hwnnw a wasanaethodd fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y de ar hyd ei oes. Yr oedd Ioan ap Ioan arall, a drigai yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy yn y 1880au ac wedyn, ac yn Wesle selog - ond nid oes unrhyw gofnod ohono'n byw yn Nyffryn Nantlle. Hyd yn hyn,  ni fu modd canfod unrhyw fanylion am fardd o'r enw hwn yn y dyffryn.
*[[Ioan ap Ioan]]. Mae'n bur amheus ai John  Williams (Ioan ap Ioan) (1800-1871) sydd yma. Gŵr o Lanrwst oedd hwnnw a wasanaethodd fel gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn y de ar hyd ei oes. Yr oedd Ioan ap Ioan arall, a drigai yn y Ro-wen, Dyffryn Conwy yn y 1880au ac wedyn, ac yn Wesle selog - ond nid oes unrhyw gofnod ohono'n byw yn Nyffryn Nantlle. Hyd yn hyn,  ni fu modd canfod unrhyw fanylion am fardd o'r enw hwn yn y dyffryn.
*[[Owen Morris (Owain Meurig)]] neu Owen Meirig yn ôl y rhestr a ddangosir yma.
*[[Owen Morris (Owain Meurig)]] neu Owen Meirig yn ôl y rhestr a ddangosir yma.
*[[John Jones (Ioan Eifion)]]  
*[[John Jones (Ioan Eifion)]]  

Fersiwn yn ôl 19:14, 5 Tachwedd 2022

Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’.[1] Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”, nid oedd hynny'n dasg hawdd. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o brif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle a oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.

Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn dechrau:

TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE
SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.

Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffennodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:

Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.

Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.

Llythyr y Pwyswr

Gellid tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - wedi esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, ni fu unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf. Dichon felly fod y gwerthusiad yn weddol agos i'w le. Cadarnhad o'r rhagdybiaeth hon yw'r ffaith fod pedwar o'r chwech cyntaf ar y rhestr wedi hawlio erthyglau ymysg y 1450 o erthyglau cyntaf yng Nghof y Cwmwd. Fodd bynnag, hyd yma ni chafodd unrhyw un yr ysbrydoliaeth (na'r wybodaeth) i lunio erthyglau i'r Cof ar y deuddeg bardd isaf ar y rhestr - rhywbeth a fydd, gobeithio, yn cael sylw wedi hyn!

Rhaid amau hefyd mai dim ond beirdd Dyffryn Nantlle a oedd yn byw ym 1888 sydd yma. Ni ddylid anghofio am feirdd cynharach o sylwedd, megis David Jones (Dewi Arfon) ac Ebeneser Thomas (Eben Fardd); nac ychwaith y blodeuo rhyfeddol a welwyd yn nhraddodiad barddonol y dyffryn gyda gwaith rhai fel Robert Williams Parry, T. H. Parry-Williams, Mathonwy Hughes, Gwilym R. Jones ac yn y blaen.

Cyfeiriadau

  1. op.cit., t.7
  2. Y Bywgraffiadur (Llundain, 1953), t.480. Nid oedd yn anghyffredin i ganfod dau fardd a rannai'r un ffugenw os nad oedd y naill na'r llall yn adnabyddus y tu allan i'w ardal eu hunain.