Augustus Henry Wheeler: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''Augustus Henry Wheeler''' (1876-1915) yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog yn y Post Brenhinol, <ref>Cyfrifiad 1881, Lewisham</ref>. Ym 1901, ar farwolaeth George Farren, penodwyd Wheeler yn rheolwr ar Chwarel yr Eifl i'r [[Cwmni Ithfaen Cymreig]]. Yr un adeg, daeth ei frawd iau, Archibald, hefyd i Drefor, fel is-reolwr. Adwaenid Augustus Wheeler fel "Whilar Mawr" a'i frawd fel "Whilar Bach" ymysg y gweithwyr. Roedd y ddau ohonynt yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr oherwydd eu hagwedd ormesol a thrahaus. Yn ystod eu teyrnasiad yn Nhrefor dirywiodd y sefyllfa'n enbyd yn y gwaith gyda dirwasgiad mawr yn y fasnach ithfaen. Ymfudodd llawer o chwarelwyr a'u teuluoedd i weithio mewn chwareli ithfaen yn nhalaith Wisconsin yn America ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif a'r diwedd fu i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr, er y cafwyd adfywiad yn y fasnach a'r gwaith ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. | Ganed '''Augustus Henry Wheeler''' (1876-1915) yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog yn y Post Brenhinol, <ref>Cyfrifiad 1881, Lewisham</ref>. Ym 1901, ar farwolaeth George Farren, penodwyd Wheeler yn rheolwr ar Chwarel yr Eifl i'r [[Cwmni Ithfaen Cymreig]]. Yr un adeg, daeth ei frawd iau, Archibald, hefyd i Drefor, fel is-reolwr. Adwaenid Augustus Wheeler fel "Whilar Mawr" a'i frawd fel "Whilar Bach" ymysg y gweithwyr. Roedd y ddau ohonynt yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr oherwydd eu hagwedd ormesol a thrahaus. Yn ystod eu teyrnasiad yn Nhrefor dirywiodd y sefyllfa'n enbyd yn y gwaith gyda dirwasgiad mawr yn y fasnach ithfaen. Ymfudodd llawer o chwarelwyr a'u teuluoedd i weithio mewn chwareli ithfaen yn nhalaith Wisconsin yn America ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif a'r diwedd fu i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr, er y cafwyd adfywiad yn y fasnach a'r gwaith ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. | ||
Ymgartrefodd Augustus Wheeler ym [[Mhlas yr Eifl]], [[Trefor]], a oedd y dŷ newydd sbon ar y pryd, a daeth ei frawd i fyw i'r Tŵr (neu'r Towers fel y gelwid y lle gan gwmni'r gwaith). Cyn hynny, a chyn ei fod yn 25 oed, bu Wheeler yn rheolwr chwarel ithfaen de Lank<ref>Gwefan Lewisham War Memorials, [http://lewishamwarmemorials.wikidot.com/person:wheeler-augustus-henry], cyrchwyd 19.3.2020</ref> yn St Breward, Cernyw.<ref>Cyfrifiad 1901, St Breward</ref> | Ymgartrefodd Augustus Wheeler ym [[Plas yr Eifl|Mhlas yr Eifl]], [[Trefor]], a oedd y dŷ newydd sbon ar y pryd, a daeth ei frawd i fyw i'r Tŵr (neu'r Towers fel y gelwid y lle gan gwmni'r gwaith). Cyn hynny, a chyn ei fod yn 25 oed, bu Wheeler yn rheolwr chwarel ithfaen de Lank<ref>Gwefan Lewisham War Memorials, [http://lewishamwarmemorials.wikidot.com/person:wheeler-augustus-henry], cyrchwyd 19.3.2020</ref> yn St Breward, Cernyw.<ref>Cyfrifiad 1901, St Breward</ref> | ||
Yn ogystal â'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, [[Cwmni Moduron Caernarfon]], a redai fysiau rhwng Caernarfon a [[Dinas Dinlle]] a Chaernarfon a [[Llanaelhaearn]]. | Yn ogystal â'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, [[Cwmni Moduron Caernarfon]], a redai fysiau rhwng Caernarfon a [[Dinas Dinlle]] a Chaernarfon a [[Llanaelhaearn]]. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:43, 9 Mehefin 2022
Ganed Augustus Henry Wheeler (1876-1915) yn Forest Hill, Llundain yn fab i swyddog yn y Post Brenhinol, [1]. Ym 1901, ar farwolaeth George Farren, penodwyd Wheeler yn rheolwr ar Chwarel yr Eifl i'r Cwmni Ithfaen Cymreig. Yr un adeg, daeth ei frawd iau, Archibald, hefyd i Drefor, fel is-reolwr. Adwaenid Augustus Wheeler fel "Whilar Mawr" a'i frawd fel "Whilar Bach" ymysg y gweithwyr. Roedd y ddau ohonynt yn dra amhoblogaidd ymysg y gweithwyr oherwydd eu hagwedd ormesol a thrahaus. Yn ystod eu teyrnasiad yn Nhrefor dirywiodd y sefyllfa'n enbyd yn y gwaith gyda dirwasgiad mawr yn y fasnach ithfaen. Ymfudodd llawer o chwarelwyr a'u teuluoedd i weithio mewn chwareli ithfaen yn nhalaith Wisconsin yn America ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif a'r diwedd fu i'r Cwmni Ithfaen Cymreig fynd yn fethdalwr, er y cafwyd adfywiad yn y fasnach a'r gwaith ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ymgartrefodd Augustus Wheeler ym Mhlas yr Eifl, Trefor, a oedd y dŷ newydd sbon ar y pryd, a daeth ei frawd i fyw i'r Tŵr (neu'r Towers fel y gelwid y lle gan gwmni'r gwaith). Cyn hynny, a chyn ei fod yn 25 oed, bu Wheeler yn rheolwr chwarel ithfaen de Lank[2] yn St Breward, Cernyw.[3]
Yn ogystal â'i waith proffesiynol, fe chwaraeodd ran amlwg ym mywyd y sir, gan gynrychioli Trefor ar y Cyngor Sir ymysg pethau eraill. Ym 1909, gyda phartner, (John Hughes, Brynarlais), cychwynnodd gwmni bysiau, Cwmni Moduron Caernarfon, a redai fysiau rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a Chaernarfon a Llanaelhaearn.
Daeth Wheeler yn uwchgapten yng 6ed gatrawd y Ffiwsilwyr Cymreig, ac felly aeth i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan arwain catrawd o chwarelwyr Cymreig. Fe'i lladdwyd 12 Awst 1915 yn y Dardanelles yn ystod ymgyrch waedlyd ac ofer Gallipoli. Bu stori ar led yn Nhrefor mai milwr o'r pentref a'i saethodd ynghanol poethder yr ymladd, gymaint oedd atgasedd y dynion tuag ato. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth i brofi hynny'r naill ffordd na'r llall. Gadawodd wraig, Adela Maud, (Liddell gynt), merch i argraffydd o Fodmin, Cernyw, a phedwar o blant.[4]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma