Ystad Tŷ Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd ‘’’Ystad Tŷ Mawr’’’ neu ‘’’Ystad Cwmgwared’’’ yn un o hen ystadau mân foneddigion Uwchgwyrfai, sef teulu’r Llwydiaid...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd ‘’’Ystad Tŷ Mawr’’’ neu ‘’’Ystad Cwmgwared’’’ yn un o hen ystadau mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]], sef teulu’r Llwydiaid, [[Cwmgwared]]. Daeth yr ystâd i feddiant y Llwydiaid rywbryd tua dechrau’r 16g. pan briododd Dafydd Llwyd o Hafodunos, Llangernyw, Sir Ddinbych, â Lleucu ferch Gruffydd ap Hywel Coetmor, oedd yn berchen ar Gwmgwared.
Roedd ‘’’Ystad Tŷ Mawr’’’ neu ‘’’Ystad Cwmgwared’’’ yn un o hen ystadau mân foneddigion [[Uwchgwyrfai]], sef teulu’r Llwydiaid, [[Cwm Gwared]]. Daeth yr ystâd i feddiant y Llwydiaid rywbryd tua dechrau’r 16g. pan briododd Dafydd Llwyd o Hafodunos, Llangernyw, Sir Ddinbych, â Lleucu ferch Gruffydd ap Hywel Coetmor, oedd yn berchen ar Gwmgwared.

Ar ôl chwe chenhedlaeth oedd, mae’n bur debyg, yn byw naill ai yng [[Cwm Gwared|Nghwmgwared]] neu yn [[Tŷ Mawr|Nhŷ Mawr]], eiddo arall y teulu ym mhlwy [[Clynnog Fawr]] nid nepell o’r môr ger [[Pontlyfni]], symudodd y teulu i Lundain i sefydlu busnes yno. Yr olaf i fyw ar hyd ei oes ar yr ystâd, mae’n debyg, oedd Benjamin Lloyd. Fe’i enwir mewn dogfen ddyddiedig 1686 <ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7710-11</ref>ac mae’n amlwg mai Tŷ Mawr oedd prif gartref y teulu erbyn hynny. Roedd ei fab Edward Lloyd wedi symud i Ardd y Cwfaint (Covent Garden) yn Llundain erbyn hynny, ac wedi priodi â Saesnes, Ann Smith, merch Thomas Smith o Colebrook Park, Swydd Warwig. Hyd y gwyddys, roedd ganddynt fab, Philip a dwy ferch, Ann, a briododd Joseph Wright o Lundain; a Trevor (a fu farw 1723),.<ref> J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.207 yn bennaf, ond hefyd tt.328, 376; roedd Trevor yn enw ar ferch y teulu: Archifdy Caernarfon, XD2/7721</ref>

Beth bynnag am y man ble cafodd o ei fagu, Llundain neu Glynnog, erbyn 1719 mae dogfennau’n nodi ei fod yn byw yn Nhŷ Mawr.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7712</ref> Roedd o’n ddi-briod ym 1719 yn ôl J.E. Griffith, ac ni wyddys a briododd wedyn. Mae’n bosibl fod ei dad wedi marw tua 1719, gan ei fod wedi dechau gwerthu tiroedd yr ystâd yn ystod y flwyddyn honno.

Mae’n amlwg mai ystâd fechan oedd ystâd y Llwydiaid, ac os oedd o am gynnal ei fywyd a’i statws, byddai wedi bod yn amhosibl gwneud hynny ar yr hyn a ddeuai o’r ystâd ac felly fe wnaethai synnwyr i Philip, etifedd Edward, forgeisio ei dir a symud i Lundain, yn ôl pob ymddangosiad wedi i’w dad farw. Erbyn 1728, beth bynnag, mae gweithred yn ei ddisgrifio fel “Phillip Lloyd, gynt o Gwmgwara, ac erbyn hyn o ddinas Westminster, swydd Middlesex, bonheddwr, mab ac etifedd y diweddar Edward Lloyd o blwyf Gardd y Cwfaint, swydd Middlesex, bonheddwr”. Aethpwyd trwy broses gymhleth o forgeisio a thrawsgludo’r eiddo er mwyn sicrhau meddiant na ellid ei ddiddymu i’r prynwr, sef [[Thomas Wynn, Barwnig 1af|Thomas Wynn]] o [[Glynllifon]]. Y pris a  
Mae’n amlwg mai ystâd fechan oedd ystâd y Llwydiaid, ac os oedd o am gynnal ei fywyd a’i statws, byddai wedi bod yn amhosibl gwneud hynny ar yr hyn a ddeuai o’r ystâd ac felly fe wnaethai synnwyr i Philip, etifedd Edward, forgeisio ei dir a symud i Lundain, yn ôl pob ymddangosiad wedi i’w dad farw. Erbyn 1728, beth bynnag, mae gweithred yn ei ddisgrifio fel “Phillip Lloyd, gynt o Gwmgwara, ac erbyn hyn o ddinas Westminster, swydd Middlesex, bonheddwr, mab ac etifedd y diweddar Edward Lloyd o blwyf Gardd y Cwfaint, swydd Middlesex, bonheddwr”. Aethpwyd trwy broses gymhleth o forgeisio a thrawsgludo’r eiddo er mwyn sicrhau meddiant na ellid ei ddiddymu i’r prynwr, sef [[Syr Thomas Wynn, Barwnig 1af|Thomas Wynn]] o [[Glynllifon]]. Y pris a  
daliwyd am yr ystad oedd £1170, ac roedd yn bwrcasiad addas iawn iddo ei wneud, gan fod y tiroedd yn ffinio ar dir [[Ystad Glynllifon]].
daliwyd am yr ystad oedd £1170, ac roedd yn bwrcasiad addas iawn iddo ei wneud, gan fod y tiroedd yn ffinio ar dir [[Ystad Glynllifon]].

Fersiwn yn ôl 14:02, 4 Ebrill 2022

Roedd ‘’’Ystad Tŷ Mawr’’’ neu ‘’’Ystad Cwmgwared’’’ yn un o hen ystadau mân foneddigion Uwchgwyrfai, sef teulu’r Llwydiaid, Cwm Gwared. Daeth yr ystâd i feddiant y Llwydiaid rywbryd tua dechrau’r 16g. pan briododd Dafydd Llwyd o Hafodunos, Llangernyw, Sir Ddinbych, â Lleucu ferch Gruffydd ap Hywel Coetmor, oedd yn berchen ar Gwmgwared.

Ar ôl chwe chenhedlaeth oedd, mae’n bur debyg, yn byw naill ai yng Nghwmgwared neu yn Nhŷ Mawr, eiddo arall y teulu ym mhlwy Clynnog Fawr nid nepell o’r môr ger Pontlyfni, symudodd y teulu i Lundain i sefydlu busnes yno. Yr olaf i fyw ar hyd ei oes ar yr ystâd, mae’n debyg, oedd Benjamin Lloyd. Fe’i enwir mewn dogfen ddyddiedig 1686 [1]ac mae’n amlwg mai Tŷ Mawr oedd prif gartref y teulu erbyn hynny. Roedd ei fab Edward Lloyd wedi symud i Ardd y Cwfaint (Covent Garden) yn Llundain erbyn hynny, ac wedi priodi â Saesnes, Ann Smith, merch Thomas Smith o Colebrook Park, Swydd Warwig. Hyd y gwyddys, roedd ganddynt fab, Philip a dwy ferch, Ann, a briododd Joseph Wright o Lundain; a Trevor (a fu farw 1723),.[2]

Beth bynnag am y man ble cafodd o ei fagu, Llundain neu Glynnog, erbyn 1719 mae dogfennau’n nodi ei fod yn byw yn Nhŷ Mawr.[3] Roedd o’n ddi-briod ym 1719 yn ôl J.E. Griffith, ac ni wyddys a briododd wedyn. Mae’n bosibl fod ei dad wedi marw tua 1719, gan ei fod wedi dechau gwerthu tiroedd yr ystâd yn ystod y flwyddyn honno. Mae’n amlwg mai ystâd fechan oedd ystâd y Llwydiaid, ac os oedd o am gynnal ei fywyd a’i statws, byddai wedi bod yn amhosibl gwneud hynny ar yr hyn a ddeuai o’r ystâd ac felly fe wnaethai synnwyr i Philip, etifedd Edward, forgeisio ei dir a symud i Lundain, yn ôl pob ymddangosiad wedi i’w dad farw. Erbyn 1728, beth bynnag, mae gweithred yn ei ddisgrifio fel “Phillip Lloyd, gynt o Gwmgwara, ac erbyn hyn o ddinas Westminster, swydd Middlesex, bonheddwr, mab ac etifedd y diweddar Edward Lloyd o blwyf Gardd y Cwfaint, swydd Middlesex, bonheddwr”. Aethpwyd trwy broses gymhleth o forgeisio a thrawsgludo’r eiddo er mwyn sicrhau meddiant na ellid ei ddiddymu i’r prynwr, sef Thomas Wynn o Glynllifon. Y pris a daliwyd am yr ystad oedd £1170, ac roedd yn bwrcasiad addas iawn iddo ei wneud, gan fod y tiroedd yn ffinio ar dir Ystad Glynllifon.

Mae’r gwahanol weithredodd sydd yn cofnodi gwerthiant y tiroedd yn manylu ar yr eiddo, sef Cwmgwared, Maesmawr, Tŷ Mawr a Choed Hywel :

  • Cwm Gwared, plwyf Clynnog Fawr.
  • Maesmawr, plwyf Clynnog Fawr.
  • Y Tŷ Mawr, Coed Hywel, Cae islaw’r ffordd, Cae bol-y-berth, Cae'r Tŷ Newidd, Rhos Corwen, Y Weirglodd bach, Y Ddôl Fawr, Y ddôl bach, a pharseli o dir yng Ngweirglodd Llifon, sef y parcell mawr, parcell Einis, parcell-dan-yr-ardd, parcell y Feiston, parcell y gors, parcell y Brenin, i gyd yn nhrefgorddau Bryncynan a Dinlle. Dichon yr oedd y tiroedd hyn oll ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llandwrog. Diddorol yw sylwi ar y ffaith fod y parseli mewn gweirglodd a rannwyd ymysg nifer o dirfeddianwyr, trefn a hanai’n ôl i’w statws fel tir caeth yn ystod y Canol Oesoedd.[4]

Gorffennodd y broses o drawsgludo’r tir ym 1729; roedd Philip Lloyd erbyn hynny wedi ymsefydlu yn Westminster a phresenoldeb Llwydiaid Cwm Gwared yng Nghlynnog wedi dod i ben.

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7710-11
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.207 yn bennaf, ond hefyd tt.328, 376; roedd Trevor yn enw ar ferch y teulu: Archifdy Caernarfon, XD2/7721
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/7712
  4. Archifdy Caernarfon, XD2/7716-27