Tafarn y Cwari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tafarn olaf pentref Llanllyfni oedd y '''Quarryman's Arms''' neu'r "Cwari" fel y'i gelwid yn lleol. Yn wir, hyd at rywbryd yn ystod yr 1870au enw swyd...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Y Cwari, Llanllyfni.jpg|bawd|300px|de|Y Cwari wedi iddi gau. Llun:Jaggery, Comin Creu]]
Tafarn olaf pentref [[Llanllyfni]] oedd y '''Quarryman's Arms''' neu'r "Cwari" fel y'i gelwid yn lleol. Yn wir, hyd at rywbryd yn ystod yr 1870au enw swyddogol y dafarn oedd “Quarry Arms”. Safai bron gyferbyn â'r [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|eglwys]] ar waelod yr allt sy'n codi trwy'r pentref. Yr oedd yn agored erbyn 1841, er mae’n debyg fod ei hanes yn mynd yn ôl cryn dipyn cyn hynny. Y pryd hynny, yr oedd yn un o dair tafarn y pentref: y lleill oedd  [[Tafarn y King's Head]] a [[Thafarn y Ffort|Tafarn y Ffort]].  

Fersiwn yn ôl 14:14, 14 Chwefror 2022

Y Cwari wedi iddi gau. Llun:Jaggery, Comin Creu

Tafarn olaf pentref Llanllyfni oedd y Quarryman's Arms neu'r "Cwari" fel y'i gelwid yn lleol. Yn wir, hyd at rywbryd yn ystod yr 1870au enw swyddogol y dafarn oedd “Quarry Arms”. Safai bron gyferbyn â'r eglwys ar waelod yr allt sy'n codi trwy'r pentref. Yr oedd yn agored erbyn 1841, er mae’n debyg fod ei hanes yn mynd yn ôl cryn dipyn cyn hynny. Y pryd hynny, yr oedd yn un o dair tafarn y pentref: y lleill oedd Tafarn y King's Head a Tafarn y Ffort.

Ym 1841, y dafarnwraig oedd Laura (neu Lowri) Griffith, hen weddw 75 oed; a deng myned yn ddiweddarach hi oedd yn rhedeg y dafarn o hyd - roedd gwerthu cwrw yn un o’r ffyrdd traddodiadol y gallai gweddwon tlawd gadw dau ben llinyn ynghyd. Bu farw, fodd bynnag, ddiwedd mis Mehefin 1851.[1]Thomas Owen oedd y tafarnwr erbyn 1861 - yntau yn hen pan gydiodd yn y gwaith gan ei fod yn 77 oed ym 1861. Erbyn 1871, roedd Owen Roberts, 41 oed, yn cadw’r dafarn, ond ei brif waith oedd gwaith fel chwarelwr, sydd yn awgrymu nad oedd y dafarn yn dod ag elw mawr i’r sawl a’i cadwai. Roedd yn dal yno ym 1881, yn dal i weithio yn y chwarel; tybed ai oherwydd hynny roedd enw’r dafarn wedi newid i “Quarryman’s Arms”. Robert Roberts, ei fab, oedd cadw’r dafarn - yntau hefyd yn chwarelwr. Roedd o yno ym 1901 a 1911 hefyd ond erbyn troad y ganrif roedd wedi gadael y chwarel, gan werthu glo yn ogystal â chadw’r dafarn.[2]

Fe'i hanfarwolwyd yng nghân Bryn Fôn o'r un enw â'r dafarn, a gyfansoddwyd ym 1992. Ond ar ôl iddi gau yn 2012, dirywiodd yr adeilad fel nad oedd dewis ond ei chwalu yn 2017.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Claddedigaethau Plwyf Llanllyfni
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1841-1911
  3. ’’Daily Post’’, 19.10.2017