Thomas Lloyd Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Trydydd fab [[John Jones, Tal-y-sarn]] oedd '''Thomas Lloyd Jones''' (1838-1888). Am flynyddoedd roedd yn brif asiant [[Chwarel Dorothea]], lle magodd enw iddo fo ei hun fel pennaeth teg ar y gweithlu, a fo a ddewiswyd fel llywydd cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Chwareuodd ran amlwg ym mywyd yr ardal: bu'n aelod o Fwrdd Ysgol [[Pen-y-groes]], Bwrdd Gwarcheidwad Tlodion Caernarfon, ymddiriedolwr Cymdeithas Adeiladu Tal-y-sarn<ref>Archifdy Caernarfon, XM8298/29</ref>, ac yn ddiacon gyda'r Methodistiaid. Am gyfnod bu'n arolygwr gyda'r Awdurdod Iechydol Gwledig lleol. Roedd yn weithgar iawn gyda'r Blaid Ryddfrydol ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau'r mudiad dirwest. Cafodd ei anrhydeddu gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol (FRGS). Roedd yn deithiwr brwd ac yn ddarlithydd poblogaidd trwy Gymru gyfan, yn sôn am ei daith i Balesteina.
Trydydd mab [[John Jones, Tal-y-sarn]] oedd '''Thomas Lloyd Jones''' (1838-1888). Am flynyddoedd roedd yn brif asiant [[Chwarel Dorothea]], lle magodd enw iddo'i hun fel pennaeth teg ar y gweithlu, ac ef a ddewiswyd yn llywydd cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd yr ardal: bu'n aelod o Fwrdd Ysgol [[Pen-y-groes]], Bwrdd Gwarcheidwaid Tlodion Caernarfon, ymddiriedolwr Cymdeithas Adeiladu Tal-y-sarn<ref>Archifdy Caernarfon, XM8298/29</ref>, ac roedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Am gyfnod bu'n arolygwr gyda'r Awdurdod Iechydol Gwledig lleol. Roedd yn weithgar iawn gyda'r Blaid Ryddfrydol ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau'r mudiad dirwest. Cafodd ei anrhydeddu gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol (FRGS). Roedd yn deithiwr brwd ac yn ddarlithydd poblogaidd trwy Gymru gyfan, yn sôn am ei daith i Balesteina.


Ac yntau'n dal yn ddyn ifanc, cododd dŷ, Bryn Llywelyn, nid nepell o gartref a busnes ei rieni yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Ymhen ychydig flynyddoedd, daeth y tŷ'n [[Gwesty'r Nantlle Vale|Westy'r Nantlle Vale]]. Bu'n byw wedyn mewn tŷ arall yn y pentref, Brynafon.
Ac yntau'n dal yn ddyn ifanc, cododd dŷ, Bryn Llywelyn, nid nepell o gartref a busnes ei rieni yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Ymhen ychydig flynyddoedd, daeth y tŷ'n [[Gwesty'r Nantlle Vale|Westy'r Nantlle Vale]]. Bu'n byw wedyn mewn tŷ arall yn y pentref, Brynafon.


Bu farw 29 Rhagfyr 1888, gan adael un ferch a phedwar mab. Fe'i claddwyd yng nghist gladdu ei rieni ym mynwent [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] y dydd Iau canlynol, gydag oddeutu 2000 yn bresennol<ref>Daeth y rhan fwyaf o ffeithiau'r erthygl hon o'r ''Carnarvon & Denbigh Herald'', 4.1.1889, t.5</ref>. Roedd y gladdedigaeth yn cael ei gweinyddu dan delerau'r Ddeddf Gladdu newydd a roddwyd hawl i weinidogion anghydffurfiol gladdu pobl mewn mynwentydd eglwysig heb i'r ficer ganiatáu hynny.
Bu farw 29 Rhagfyr 1888, gan adael un ferch a phedwar mab. Fe'i claddwyd yng nghist gladdu ei rieni ym mynwent [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]] y dydd Iau canlynol, gydag oddeutu 2000 yn bresennol<ref>Daeth y rhan fwyaf o ffeithiau'r erthygl hon o'r ''Carnarvon & Denbigh Herald'', 4.1.1889, t.5</ref>. Gweinyddwyd y gladdedigaeth dan delerau'r Ddeddf Gladdu newydd a roddai hawl i weinidogion anghydffurfiol gladdu pobl mewn mynwentydd eglwysig heb i'r ficer ganiatáu hynny.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:16, 7 Ionawr 2022

Trydydd mab John Jones, Tal-y-sarn oedd Thomas Lloyd Jones (1838-1888). Am flynyddoedd roedd yn brif asiant Chwarel Dorothea, lle magodd enw iddo'i hun fel pennaeth teg ar y gweithlu, ac ef a ddewiswyd yn llywydd cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd yr ardal: bu'n aelod o Fwrdd Ysgol Pen-y-groes, Bwrdd Gwarcheidwaid Tlodion Caernarfon, ymddiriedolwr Cymdeithas Adeiladu Tal-y-sarn[1], ac roedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Am gyfnod bu'n arolygwr gyda'r Awdurdod Iechydol Gwledig lleol. Roedd yn weithgar iawn gyda'r Blaid Ryddfrydol ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau'r mudiad dirwest. Cafodd ei anrhydeddu gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol (FRGS). Roedd yn deithiwr brwd ac yn ddarlithydd poblogaidd trwy Gymru gyfan, yn sôn am ei daith i Balesteina.

Ac yntau'n dal yn ddyn ifanc, cododd dŷ, Bryn Llywelyn, nid nepell o gartref a busnes ei rieni yn Nhal-y-sarn. Ymhen ychydig flynyddoedd, daeth y tŷ'n Westy'r Nantlle Vale. Bu'n byw wedyn mewn tŷ arall yn y pentref, Brynafon.

Bu farw 29 Rhagfyr 1888, gan adael un ferch a phedwar mab. Fe'i claddwyd yng nghist gladdu ei rieni ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni y dydd Iau canlynol, gydag oddeutu 2000 yn bresennol[2]. Gweinyddwyd y gladdedigaeth dan delerau'r Ddeddf Gladdu newydd a roddai hawl i weinidogion anghydffurfiol gladdu pobl mewn mynwentydd eglwysig heb i'r ficer ganiatáu hynny.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XM8298/29
  2. Daeth y rhan fwyaf o ffeithiau'r erthygl hon o'r Carnarvon & Denbigh Herald, 4.1.1889, t.5