Camdda'r Bwth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ffermdy ar gyrion Clynnog Fawr yw '''Camdda'r Bwth''', neu '''Camfa'r Bwth'''. Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechra...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ffermdy ar gyrion Clynnog Fawr yw '''Camdda'r Bwth''', neu '''Camfa'r Bwth'''. | Ffermdy ar gyrion [[Clynnog Fawr]] yw '''Camdda'r Bwth''', neu '''Camfa'r Bwth'''. | ||
Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad Gurn Goch. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol. | Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad [[Gurn Goch]]. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros [[Bae Caernarfon|Fae Caernarfon]] ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol. | ||
Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro Ifor Williams, a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Un arall a fu'n lletya yng Nghamdda'r Bwth oedd yr heddychwr a'r newyddiadurwr Percy Ogwen Jones, tad y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a Geraint Percy Jones. | Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog]], a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai|Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai]], yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro [[Syr Ifor Williams|Ifor Williams]], a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Un arall a fu'n lletya yng Nghamdda'r Bwth oedd yr heddychwr a'r newyddiadurwr Percy Ogwen Jones, tad y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a Geraint Percy Jones. | ||
Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan Wil Parsal yn ''Yr Herald Cymraeg''. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr Herald ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu: | Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan [[Wil Parsal]] yn ''Yr Herald Cymraeg''. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr ''Herald'' ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu: | ||
A'm gwared! Wel, sôn am alanst, | A'm gwared! Wel, sôn am alanst, | ||
Llinell 20: | Llinell 20: | ||
'Roedd yma sefyllfa bur dlws; | 'Roedd yma sefyllfa bur dlws; | ||
Rwy'n deall mai hefo fforc dostio | Rwy'n deall mai hefo fforc dostio | ||
Y gyrrodd hi'r mw-mw drwy'r drws.< | Y gyrrodd hi'r mw-mw drwy'r drws.<ref>''Parsal Wil. Cerddi Wil Parsal'', (Caernarfon, Gwasg yr Herald, 1972), t.142</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Ffermydd]] |
Fersiwn yn ôl 09:32, 28 Rhagfyr 2021
Ffermdy ar gyrion Clynnog Fawr yw Camdda'r Bwth, neu Camfa'r Bwth.
Mae'r ffermdy, a adeiladwyd mae'n debyg yn y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn sefyll ar lethr i'r gorllewin o bentref Clynnog ac yng nghysgod y gefnen uchel sy'n ymestyn o Glynnog i gyfeiriad Gurn Goch. Mae golygfeydd ysblennydd oddi yno dros Fae Caernarfon ac Ynys Môn. Ychydig o dir sy'n perthyn i'r fferm bellach, ond ar un adeg roedd yn dyddyn sylweddol.
Am nifer o flynyddoedd bu amryw o fyfyrwyr Ysgol Ragbaratoawl Clynnog, a gynhelid yn yr Ysgoldy, sydd bellach yn gartref i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn lletya yng Nghamdda'r Bwth. Daeth un ohonynt yn un o ysgolheigion amlycaf Cymru yn hanner cyntaf yr 20g, sef Yr Athro Ifor Williams, a wnaeth waith arloesol yn dehongli'r farddoniaeth Gymraeg gynharaf a thestunau rhyddiaith yr Oesoedd Canol. Un arall a fu'n lletya yng Nghamdda'r Bwth oedd yr heddychwr a'r newyddiadurwr Percy Ogwen Jones, tad y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a Geraint Percy Jones.
Oddeutu 1970 cafodd Camdda'r Bwth beth anfarwoldeb yn un o gerddi troeon trwstan Wil Parsal yn Yr Herald Cymraeg. Bryd hynny Ifan Pritchard y gof a'i wraig, Laura, oedd yn byw yno ac un diwrnod, tra oedd y ddau'n cael cyntun bach ar ôl cinio, gwelodd un o'r gwartheg fod drws y cefn yn agored a daeth i mewn i'r gegin ac achosi tipyn go lew o lanast! Daeth y stori i glyw Wil Parsal a'r wythnos ganlynol yn yr Herald ymddangosodd y gân ddoniol "Mw-tel Camdda'r Bwth" (arferai Ifan a Laura Pritchard gadw ymwelwyr gwely a brecwast bryd hynny). Dyma dri phennill i flasu:
A'm gwared! Wel, sôn am alanst, 'Roedd llyn mawr o ddŵr ar y llawr, Ei chynffon oedd yn y "sink unit", A'i thrwyn mewn tun bisged go fawr.
Waeth heb na manylu dim rhagor, A gorau po leiaf i'w ddweud; Mae gennych chi syniad fel finnau Am lanast all mw-mw ei wneud.
Difrifol i'r eitha, ddarllenwyr; 'Roedd yma sefyllfa bur dlws; Rwy'n deall mai hefo fforc dostio Y gyrrodd hi'r mw-mw drwy'r drws.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Parsal Wil. Cerddi Wil Parsal, (Caernarfon, Gwasg yr Herald, 1972), t.142