Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


==Hanes cynnar y pentref==
==Hanes cynnar y pentref==
Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]], yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog [[Rhosnenan]] (lle mae ystadau Cae Sarn, Y garreg a'r [[Ysgol Y Groeslon|ysgol]] erbyn heddiw, ac i'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon.
Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel ([[Capel Brynrodyn (MC)]]) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y [[Dolydd]], yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog [[Rhosnenan]] (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r [[Ysgol Y Groeslon|ysgol]] erbyn heddiw, ac i'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon.


==Masnach a busnes==
==Masnach a busnes==

Fersiwn yn ôl 15:15, 3 Ionawr 2018

Pentref sydd wedi cael ei enwi oherwydd ei safle yw Y Groeslon. Fe saif lle mae'r hen lôn fynydd sydd yn rhedeg ar hyd plwyf Llandwrog o'r myndd-dir i lawr at yr iseldir gerllaw'r môr yn croesi'r ffordd fawr, sef yr hen ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Phorthmadog.

Hanes cynnar y pentref

Ychydig o dai oedd yma cyn dyfodiad y rheilffordd, ac felly codwyd capel (Capel Brynrodyn (MC)) hanner ffordd rhwng treflan Y Groeslon, fel yr oedd ar ddechrau'r 19g a threflan y Dolydd, yn ôl hanesydd y Methodistiaid Calfinaidd, William Hobley. I ddechrau, roedd nifer o ffermydd yn y cylch: Y Grugan, Cae Iago,Tyddyn Dafydd, Talar Siencyn a Llwyn Gwalch. Cododd stori werin mai ffermwr cefnog a rannai ei dir ymysg ei feibion oedd yn gyfrifol am nifer o'r enwau hyn - gan iddo adael Cae i Iago, Tyddyn i Dafydd, Talar i Siencyn a Llwyn i'r gwalch (sef y mab ieuengaf)! Yn uwch i fyny'r allt o'r briffordd, datbygodd gasgliad o dyddynod ar rostir corsiog Rhosnenan (lle mae ystadau Cae Sarn, Y Garreg a'r ysgol erbyn heddiw, ac i'r tir i'r Gogledd o'r fan honno i gyfeiriad Brynffynnon.

Masnach a busnes

Pan agorodd Rheilffordd Nantlle arhosfan wrth y groesffordd ym 1856, dechreuodd y pentref modern dyfu oddi amgylch yr orsaf ac i fyny'r allt, a chynyddai'r tyfu wedi i'r rheilffordd fawr ddod gan agor yr orsaf ym 1867. Yn fuan wedyn daeth y Groeslon yn gyrchfan i bobl y plwyf i gyd oedd am ddal tren neu ddanfon neu gasglu nwyddau a gludid ar y lein. Am flynyddoedd hyd at 1905, dynodwyd y Groeslon yn "R.S.O.", sef railway sub office neu fan i ble cyrchid eitemau post gan y rheilffordd yn uniongyrchol heb iddynt gael eu didoli', gyntaf gan y prif swyddfa leol (Caernarfon). Byddai'r is-swyddfa reilffordd leol wedyn eu didoli a'u hanfon allan, a gwelir "Groeslon RSO" yn aml ar hen amlenni a chardiau post.[1]

Tyfodd rôl fasnachol y pentref ymhellach gyda dwy dafarn o bobtu'r lôn a arweiniai dros grosin y rheilffordd, sef Y Grugan Arms (sydd bellach wedi ei dymchwel) a'r Llanfair Arms, a agorwyd ym 1841 ac a enwyd ar ôl tirfeddiannwyr y safle ger y rheilffordd, sef Ystad Llanfair-isgaer, ond sy'n cael ei hadnabod ar dafod lleferydd fel y Pen-nionyn, Dywedir fod Groeslon House wedi bod yn dafarn hefyd ar un adeg.

Roedd yno swyddfa bost a siopau - rhyw 26 ohonynt yn ôl y sôn, gan gynnwys barbwr a dwy fecws. Mor diweddar â'r 1980au, roedd siop ddillad, siop drin gwallt, ail siop nwyddau cyffredinol a siop ffrwythau a llysiau yn dal i fynd. Fe gaeodd swyddfa bost a siop olaf y pentref yn 2014 (er i siop a swyddfa bost newydd agor yn y Dolydd tua'r un pryd).[2]

Cyfeiriadau:

.

  1. http://gbstamp.co.uk/article/gb-railway-sub-offices-and-postmarks-421.html. Cyrchwyd 29.12.2017.
  2. Wenna Williams (gol.) Hanes y Groeslon, tt.63-73.