Cymdeithas Hanes Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 3: Llinell 3:
Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gafwyd yn [[Eisteddfod Trefor]] a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill 1985, sef 50 o gwestiynau i oedolion a 50 o gwestiynau i blant yn ymwneud â hanes pentref [[Trefor]] a'r ardal. Fe'u paratowyd gan [[Geraint Jones]], a oedd yn brifathro [[Ysgol Trefor]] bryd hynny. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn y Ganolfan i fynd dros yr atebion a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor, a hynny ar Galan Mai 1985. Etholwyd Geraint Jones yn Gadeirydd/Tiwtor, Dafydd O. Roberts yn Drysorydd a Dawi Griffiths yn Ysgrifennydd.

Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y Ganolfan, ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y Band (hen gapel Bethlehem). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, [[Guto Roberts]], R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac [[Arfon]].  
Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y [[Canolfan Trefor|Ganolfan]], ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y [[Seindorf Arian Trefor|Band]] (hen [[Capel Bethlehem (A), Trefor|gapel Bethlehem]]). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, [[Guto Roberts]], R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac [[Arfon]].  

Wrth i ddegawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain fynd rhagddo gwelwyd y gymdeithas yn edwino'n raddol fel llawer cymdeithas debyg iddi. Roedd yr aelodau at ei gilydd yn heneiddio a phrinhau a'r gynulleidfa'n teneuo. Felly, ddiwedd 2011, wedi 26 mlynedd o weithredu, penderfynwyd dirwyn y gymdeithas i ben. Bu'n gyfrwng i addysgu, diwyllio a difyrru ac mae colled yn sicr ar ei hôl.<ref> Gwybodaeth bersonol wedi'i seilio ar gofnodion cynnar Cymdeithas Hanes Trefor a'i rhaglenni blynyddol.</ref>

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:19, 9 Tachwedd 2021

Sefydlwyd Cymdeithas Hanes Trefor ym 1985 a daeth i ben yn 2011.

Yr ysgogiad i sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor oedd cystadleuaeth newydd sbon a gafwyd yn Eisteddfod Trefor a gynhaliwyd ddiwedd Ebrill 1985, sef 50 o gwestiynau i oedolion a 50 o gwestiynau i blant yn ymwneud â hanes pentref Trefor a'r ardal. Fe'u paratowyd gan Geraint Jones, a oedd yn brifathro Ysgol Trefor bryd hynny. Cynhaliwyd dau gyfarfod yn y Ganolfan i fynd dros yr atebion a chymaint oedd y brwdfrydedd fel y penderfynwyd sefydlu Cymdeithas Hanes Trefor, a hynny ar Galan Mai 1985. Etholwyd Geraint Jones yn Gadeirydd/Tiwtor, Dafydd O. Roberts yn Drysorydd a Dawi Griffiths yn Ysgrifennydd.

Cafwyd cefnogaeth eithriadol gref i'r gymdeithas yn y blynyddoedd cynnar, gyda thua 60 yn bresennol yn gyson yn y cyfarfodydd a bron i 80 wedi ymaelodi yn yr ail dymor. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf rhoddwyd sylw penodol i agweddau ar hanes Trefor a'r gymdogaeth gyda Geraint Jones yn rhoi'r mwyafrif o'r cyflwyniadau. Yna taflwyd y rhwyd yn ehangach fel petae gan roi sylw i feysydd yn ymwneud â hanes yr ardaloedd cyfagos a rhai pynciau o ddiddordeb cenedlaethol. Cynhaliwyd y cyfarfodydd i ddechrau yn y Ganolfan, ac yn ddiweddarach yn neuadd yr ysgol ac yna yn Ystafell y Band (hen gapel Bethlehem). Dros y blynyddoedd bu nifer dda yn darlithio yn y Gymdeithas, rhai ohonynt, gwaetha'r modd, wedi ein gadael erbyn hyn, megis Ioan Mai Evans, John Roberts Williams, Guto Roberts, R. Tudur Jones a Gwyn Thomas. Recordiwyd y darlithoedd gan grynhoi'n archif sylweddol. Ar ddiwedd pob tymor cafwyd tripiau difyr i fannau o ddiddordeb hanesyddol, yn bennaf yn Llŷn, Eifionydd ac Arfon.

Wrth i ddegawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain fynd rhagddo gwelwyd y gymdeithas yn edwino'n raddol fel llawer cymdeithas debyg iddi. Roedd yr aelodau at ei gilydd yn heneiddio a phrinhau a'r gynulleidfa'n teneuo. Felly, ddiwedd 2011, wedi 26 mlynedd o weithredu, penderfynwyd dirwyn y gymdeithas i ben. Bu'n gyfrwng i addysgu, diwyllio a difyrru ac mae colled yn sicr ar ei hôl.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol wedi'i seilio ar gofnodion cynnar Cymdeithas Hanes Trefor a'i rhaglenni blynyddol.