Afon Bach, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ffrwd sy'n llifo ar gyrion [[Trefor]] ac o dan ran o'r pentref bellach yw '''Afon Bach'''. | Ffrwd sy'n llifo ar gyrion [[Trefor]] ac o dan ran o'r pentref bellach yw '''Afon Bach'''. | ||
Mae'n tarddu o dir corsiog ger Tyddyn Coch ac yna'n llifo i gyfeiriad y pentref drwy gaeau | Mae'n tarddu o dir corsiog ger Tyddyn Coch ac yna'n llifo i gyfeiriad y pentref drwy gaeau Capas Lwyd a Thir Du. Mae'n mynd o dan y lôn yng ngwaelod Lôn Newydd ac yna'n ailymddangos mewn ffos ddofn yr ochr arall i'r ffordd gan lifo dan waelod gardd ffermdy Llwynaethnen. Am gannoedd o lathenni wedyn mae wedi ei phibellu o dan Stad Llwynaethnen a chaeau [[Ysgol Trefor]] - bu'n agored yn y caeau hynny tan y 1970au pan ledwyd ffordd Croeshigol. Mae'n parhau o'r golwg o flaen [[Capel Gosen (MC), Trefor|Capel Gosen]] a'r fynedfa i garej bysys [[Clynnog a Threfor]] - dros y ffordd mae Tŷ Glanrafon sy'n tystio i'r cyfnod pan oedd y ffrwd yn agored dros y ffordd ag ef. Ceir lluniau o ddechrau'r 20g sy'n dangos yr Afon Bach yn agored yn y fan hon. Yna, ar ôl mynd dan y lôn drachefn ger yr hen Bin Dŵr mae'r ffrwd yn dod i'r golwg drachefn yng nghefn tai Ffordd yr Eifl. Bu sôn am flynyddoedd am ei phibellu yn y fan hon hefyd ond mae'n dal yn agored ac, ymhen ychydig o lathenni, wrth dŷ Llwyn Onn, mae'n gorffen ei thaith pan mae'n ymuno ag [[Afon Tâl]].<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Afonydd]] | [[Categori:Afonydd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:49, 4 Ebrill 2022
Ffrwd sy'n llifo ar gyrion Trefor ac o dan ran o'r pentref bellach yw Afon Bach.
Mae'n tarddu o dir corsiog ger Tyddyn Coch ac yna'n llifo i gyfeiriad y pentref drwy gaeau Capas Lwyd a Thir Du. Mae'n mynd o dan y lôn yng ngwaelod Lôn Newydd ac yna'n ailymddangos mewn ffos ddofn yr ochr arall i'r ffordd gan lifo dan waelod gardd ffermdy Llwynaethnen. Am gannoedd o lathenni wedyn mae wedi ei phibellu o dan Stad Llwynaethnen a chaeau Ysgol Trefor - bu'n agored yn y caeau hynny tan y 1970au pan ledwyd ffordd Croeshigol. Mae'n parhau o'r golwg o flaen Capel Gosen a'r fynedfa i garej bysys Clynnog a Threfor - dros y ffordd mae Tŷ Glanrafon sy'n tystio i'r cyfnod pan oedd y ffrwd yn agored dros y ffordd ag ef. Ceir lluniau o ddechrau'r 20g sy'n dangos yr Afon Bach yn agored yn y fan hon. Yna, ar ôl mynd dan y lôn drachefn ger yr hen Bin Dŵr mae'r ffrwd yn dod i'r golwg drachefn yng nghefn tai Ffordd yr Eifl. Bu sôn am flynyddoedd am ei phibellu yn y fan hon hefyd ond mae'n dal yn agored ac, ymhen ychydig o lathenni, wrth dŷ Llwyn Onn, mae'n gorffen ei thaith pan mae'n ymuno ag Afon Tâl.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol