Tafarn y Sportsman, Gurn Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai [[Eben Fardd]] ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref  [[Bod Gybi]]), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>
Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai [[Eben Fardd]] ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref  [[Bod Gybi]]), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>


Erbyn Cyfrifiad 1881, Sais o'r enw James Perry, dyn 77 oed yn enedigol o Prescott, Swydd Caerhirfryn oedd y tafarnwr; roedd ei wraig Ann, fodd bynnag, yn hanu o Langristiolus ac yn 25 mlynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt fab, William Perry, 21 oed, a oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn - sy'n tueddu i awgrymu fod y Sportsman yn fusnes weddol lewyrchus!<ref>Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1881</ref>   
Erbyn Cyfrifiad 1871, Sais o'r enw James Perry, dyn 67 oed yn enedigol o Prescott, Swydd Caerhirfryn oedd y tafarnwr; roedd ei wraig Ann, fodd bynnag, yn hanu o Langristiolus ac yn 25 mlynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt fab, William Perry, 11 oed, a oedd, erbyn 1881 (a'r teulu'n dal yn y Sportsman) yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn - sy'n tueddu i awgrymu fod y Sportsman yn fusnes weddol lewyrchus!<ref>Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1881</ref>   


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]

Fersiwn yn ôl 17:31, 17 Hydref 2021

Bu tafarn o'r enw'r Sportsman ym mhentref Gurn Goch am rai blynyddoedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r adeilad yn dal ar ei draed ac wedi ei droi'n dŷ ers blynyddoedd maith. Wrth ei ochr mae rhes o fythynnod a elwir yn Sportsman Row o hyd. Roedd y dafarn fel y gwelir mewn lle hwylus ar ochr y briffordd o Bwllheli i Gaernarfon ac mae'n sicr ei bod yn dibynnu i raddau helaeth ar bobl yn pasio am ei chwsmeriaid, naill ai ar droed, ar gefn ceffylau neu yn y goits fawr, gan ei bod yn anodd credu y gallai lle mor fach â Gurn Goch ei hun gynnal tafarn. Hefyd, wrth gwrs, roedd tafarn fwy a llawer pwysicach ym mhentref Clynnog Fawr gerllaw, sef Y Plas (Gwesty'r Beuno yn ddiweddarach).

Un a fu'n cadw'r Sportsman am rai blynyddoedd ddiwedd y 1850au a dechrau'r 1860au oedd Robert Evans. Roedd yn enedigol o ardal Dwygyfylchi ac ar ôl gadael y Sportsman symudodd i Glanllyn, Llanaelhaearn, gan ffermio y tyddyn yno a phorthmona cryn dipyn. Er iddo weithredu am gyfnod fel tafarnwr roedd yn grefyddwr ac yn Fethodist pybyr hefyd ac roedd yn un o brif ysgogwyr sefydlu Capel Babell (MC), Llanaelhaearn. Bu farw ym 1915 ac roedd yn hen hen daid i awdur hyn o lith.

Er mai i'r Plas yng Nghynnog y cyrchai Eben Fardd ran amlaf am lymaid neu ddau (roedd y fan honno'n llythrennol o fewn taflaid carreg i'w gartref Bod Gybi), eto ceir nifer o gyfeiriadau yn ei ddyddiaduron am ei ymweliadau â'r Sportsman hefyd.[1]

Erbyn Cyfrifiad 1871, Sais o'r enw James Perry, dyn 67 oed yn enedigol o Prescott, Swydd Caerhirfryn oedd y tafarnwr; roedd ei wraig Ann, fodd bynnag, yn hanu o Langristiolus ac yn 25 mlynedd yn iau nag ef. Roedd ganddynt fab, William Perry, 11 oed, a oedd, erbyn 1881 (a'r teulu'n dal yn y Sportsman) yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn - sy'n tueddu i awgrymu fod y Sportsman yn fusnes weddol lewyrchus![2]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol
  2. Cyfrifiad Clynnog Fawr, 1881