Henry Williams, apothecari o Glynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw tua 1690).  
Apothecari oedd '''Henry Williams''' (bu farw tua 1690).  


Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>"Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", T.G. Davies, yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at '''Henry Williams''', a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690 a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/491</ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:
Yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".<ref>"Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", T.G. Davies, yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.</ref> Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog]] yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690 a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw <ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/491</ref>. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:


   Thomas Willis, ''The London Practice of Physick ...''
   Thomas Willis, ''The London Practice of Physick ...''

Fersiwn yn ôl 09:46, 2 Hydref 2021

Apothecari oedd Henry Williams (bu farw tua 1690).

Yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, ceir erthygl gan T.G. Davies, Caerdydd, ar "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon".[1] Yn yr erthygl honno mae'r awdur yn cyfeirio at Henry Williams, a oedd yn gweithredu fel apothecari yng Nghlynnog yn ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg. Yn yr erthygl eglura'r awdur mai'r llawfeddygon a'r apothecariaid oedd meddygon teulu'r oes honno i bob pwrpas. Am flynyddoedd maith yr un oedd yr apothecariaid a siopwyr groser mewn gwirionedd, ond ymwahanodd yr apothecariaid oddi wrth y groseriaid ym 1617 gan ffurfio Cymdeithas yr Apothecariaid. Yn wreiddiol, paratoi cyffuriau i'w gwerthu i drin clefydau oedd eu gwaith, ond yn raddol dechreuodd rhai ohonynt drin cleifion yn ogystal er nad oeddent wedi cael unrhyw hyfforddiant priodol i wneud hynny. Un yn dilyn yr oruchwyliaeth yma oedd Henry Williams ac wrth ymchwilio ar gyfer ei ysgrif daeth T.G. Davies ar draws ei ewyllys ymysg y casgliad enfawr o ewyllysiau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol. Y dyddiad arni oedd 1690 a gadawodd yr apothecari'r swm o £62 9s 10c, sy'n cyfateb yn fras i tua £10,000 heddiw [2]. Ond yn ogystal â'r arian, gadawodd gasgliad pwysig o lyfrau meddygol ar ei ôl a arweiniodd T.G. Davies i gredu ei fod yn cynnig gwasanaeth meddygol cynhwysfawr a'i bod yn amheus a fyddai gan unrhyw feddyg Cymreig o'r cyfnod well casgliad o lyfrau meddygol nag ef. Ymysg y rhain roedd:

  Thomas Willis, The London Practice of Physick ...
  A Discourse of the French Pox
  Peter Lowe, A discourse of the whole art of Chyrurgerie (London, 1612)
  An olde book to all young practitioners of chirurgery
  John French, The Art of Distillation (1653)
  Thomas Walkington, The Optick Glasse of Humours ...
  A Booke of Strange Apparitions

Yn y llyfrau hyn ceir ymdriniaeth drylwyr â rhai o brif faterion meddygol yr oes gan rai o arbenigwyr amlycaf y cyfnod. Dywed T.G. Davies mai'r llyfr mwyaf annisgwyl yn eu plith oedd The Optick Glasse of Humours ... sy'n trafod rhai agweddau ar natur personoliaeth dyn. Sut tybed y llwyddodd Henry Williams i gael gafael ar y fath gasgliad yn Uwchgwyrfai wledig yr ail ganrif ar bymtheg a thybed i ble'r aeth y llyfrau wedyn. Tybed a oes rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd yn gwybod mwy am yr apothecari cynnar hwn o Glynnog neu am rai tebyg iddo a oedd yn gweithredu fel meddygon cefn gwlad yn y cwmwd bryd hynny neu'n ddiweddarach.


Cyfeiriadau

  1. "Y Berthynas Rhwng Meddygaeth a Chyfraith Gwlad: Rhai Enghreifftiau o Sir Gaernarfon", T.G. Davies, yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyfrol 77, 2016-2017, tt.21-39.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cofnodion Profiant B1690/491