Dafydd Elis-Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Hebog (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Heulfryn y dudalen Dafydd Elis Thomas i Dafydd Elis-Thomas |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:59, 15 Gorffennaf 2021
Bu'r Dr. Dafydd Elis-Thomas (Barwn Elis-Thomas o Nant Conwy) (g.1946) yn aelod Senedd Cymru dros ran ddeheuol Uwchgwyrfai, sef plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn rhwng 2007 a 2021. Safodd yn enw Plaid Cymru ym mhob etholiad yn ystod ei yrfa wleidyddol - fel Aelod Senedd San Steffan o 1974 hyd 1992 dros etholaeth Meirionnydd (wedyn Meirionnydd Nant Conwy) ac o 1999 ymlaen fel aelod o Gynulliad Cymru dros yr un etholaeth ac wedyn etholaeth newydd Dwyfor-Meirionnydd. Mae'n aelod o Dŷ'r Arglwyddi, ar ôl derbyn teitl "Barwn" ym 1993.
Yn fuan wedi etholiad 2016 fe gyhoeddodd na allai wasanaethu fel aelod o Blaid Cymru gan nad oedd y Blaid yn awyddus i gydweithredu gyda Llywodraeth Lafur y Senedd, ond fe barhaodd i eistedd fel Annibynnwr yn y Senedd, penderfyniad a berodd ddicter a siom ymysg llawer o'i gefnogwyr. Ymddiswyddodd o Blaid Cymru, a chyn bo hir fe'i dyrchafwyd yn ddirprwy weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ar ôl dwys ystyriaeth, meddid, fe benderfynodd na fyddai'n amddiffyn ei sedd yn etholiad 2021, ac etholwyd ymgeisydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor yn ei le.
Beth bynnag ei gyfraniad ehangach i fywyd cyhoeddus a gwleidyddol Cymru, teg yw dweud mai ymylol oedd effaith cynrychiolaeth Dafydd Elis-Thomas ar Uwchgwyrfai a hynny, mae'n debyg, yn anorfod ag ystyried maint ei etholaeth.
Bu'n weithgar ym mywyd cyhoeddus Cymru mewn sawl ffordd - yn eu mysg Llywydd cyntaf y Cynulliad, cadeirydd Bwrdd yr Iaith a Llywydd Prifysgol Bangor. Gan nad yw'r pethau hyn yn ganolog i hanes Uwchgwyrfai, cyfeirir y rhai sydd â diddordeb i dudalennau Wicipedia.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma