Robert ap Meredydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Robert ap Meredydd''' (?-c.1509) yn fab i Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ac fel hwnnw, etifeddodd [[Glynllifon]]. Dichon iddo fod yn gefnogwr brwd yr awdurdodau Seisnig, gan iddo briodi ddwywaith, a'r ddau dro â merched o deuluoedd Seisnig a oedd wedi ymsefydlu yng Ngogledd Cymru ac yn aelodau o'r dosbarth newydd nad oedd ymlyniad at hanes a thraddodiadau yr hen Gymry o bwys, gan fod cyfleoedd am gyfoeth a masnachu'n dod trwy ochri gyda'r meistri Seisnig. Y wraig gyntaf oedd Elin, merch William Bwcle neu Bulkeley o Fiwmares; a'r ail oedd Jane, merch John Puleston "Hen"  o Gaernarfon.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig'', (Llundain, 1953), t.262</ref> Dylid nodi fodd bynnag nad oedd hyn yn golygu nad oedd y Gymraeg yn iaith bob dydd y teulu a'r plas, ond yr oedd eu gogwydd gwleidyddol yn wahanol i lawer i hynny o eiddo eu cyd-ysweiniaid.

Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn bobl o bwys: [[Morus Glynn]], archddiacon Meirionnydd;  [[William Glynn, archddiacon|William Glynn]], archddiacon Môn; ac [[Edward Lloyd]] (m.1540), a etifeddodd Glynllifon, gan fod ei frawd hŷn yn offeiriad. Mab arall oedd [[Richard Glynn]], a ddaeth yn berchennog [[Plas Newydd]], [[Llandwrog]].
Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn bobl o bwys: [[Morus Glynn]], archddiacon Meirionnydd;  [[William Glynn, archddiacon|William Glynn]], archddiacon Môn; ac [[Edward Lloyd]] (m.1540), a etifeddodd Glynllifon, gan fod ei frodyr hŷn yn offeiriaid. Mab arall oedd [[Richard Glynn]], a ddaeth yn berchennog [[Plas Newydd]], [[Llandwrog]].

{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 16:04, 9 Gorffennaf 2021

Roedd Robert ap Meredydd (?-c.1509) yn fab i Meredydd ap Hwlcyn Llwyd, ac fel hwnnw, etifeddodd Glynllifon. Dichon iddo fod yn gefnogwr brwd yr awdurdodau Seisnig, gan iddo briodi ddwywaith, a'r ddau dro â merched o deuluoedd Seisnig a oedd wedi ymsefydlu yng Ngogledd Cymru ac yn aelodau o'r dosbarth newydd nad oedd ymlyniad at hanes a thraddodiadau yr hen Gymry o bwys, gan fod cyfleoedd am gyfoeth a masnachu'n dod trwy ochri gyda'r meistri Seisnig. Y wraig gyntaf oedd Elin, merch William Bwcle neu Bulkeley o Fiwmares; a'r ail oedd Jane, merch John Puleston "Hen" o Gaernarfon.[1] Dylid nodi fodd bynnag nad oedd hyn yn golygu nad oedd y Gymraeg yn iaith bob dydd y teulu a'r plas, ond yr oedd eu gogwydd gwleidyddol yn wahanol i lawer i hynny o eiddo eu cyd-ysweiniaid.

Cafodd Robert ac Elin chwe mab a phedair merch, a nifer ohonynt yn bobl o bwys: Morus Glynn, archddiacon Meirionnydd; William Glynn, archddiacon Môn; ac Edward Lloyd (m.1540), a etifeddodd Glynllifon, gan fod ei frodyr hŷn yn offeiriaid. Mab arall oedd Richard Glynn, a ddaeth yn berchennog Plas Newydd, Llandwrog.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.262