Melin Glan-yr-afon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
Safai '''Melin Glan-yr-afon''' ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf [[Llanllyfni]], gyferbyn â [[Lleuar Fawr]]. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.<ref>Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [https://www.youtube.com/watch?v=IFAF8KhTEJY], cyrchwyd 02.08.2018</ref> Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.<ref>''Hen Luniau Dyffryn Nantlle'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.</ref>

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu ablancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]].<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), tt.243-4.</ref>
Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid erbyn hynny yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu ablancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]].<ref>J. Geraint Jenkins, ''The Welsh Woollen Industry'' (Caerdydd, 1969), tt.243-4.</ref>

Mae rhestr o beiriannau'r felin cyn iddi gau ar gael ac wedi ei hargraffu yn llyfr J. Geraint Jenkins.<ref>''op. cit.'', t.244</ref> Ymysg yr offer yr oedd dwy injan gardio, un ohonynt yn cynhyrchu deugain edafyn ar y tro; peiriant nyddu gyda 220 o werthydau;melin ystofi; peiriant torri; dau wŷdd wedi'u pweru 120 modfedd o hyd ar gyfer gwneud blancedi; a chyfarpar lliwio. Yr oedd cyffion pandy yno hefyd i bannu'r defnyddiau a gynhyrchid ac y mae hyn yn esbonio efallai pam fod pandai'r ardal wedi diflannu'n gynt na'r melinau - aeth yr holl broses dan yr un to.  

Fersiwn yn ôl 13:43, 25 Mai 2021

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfni - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr. Yr enw lleol ar y felin oedd "Injan Doctor". Dywedir iddi gael ei chodi tua 1774.[1] Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', a phrif waith y felin oedd cynhyrchu llechi ysgrifennu, a ddefnyddid yn gyffredinol mewn ysgolion ar draws Prydain yn lle llyfrau ysgrifennu papur.[2]

Erbyn 1899, fodd bynnag, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Fe'i gelwid erbyn hynny yn "Melin Llyfnwy". Caewyd y felin ym 1950. Dair blynedd ynghynt, ym 1947, roedd 6 o bobl yn cael eu cyflogi yno, a'r cynnyrch oedd edafedd ar gyfer gweu ablancedi, a gwerthid yr holl gynnyrch ar stondin ac mewn siop ym Mhen-y-groes.[3]

Mae rhestr o beiriannau'r felin cyn iddi gau ar gael ac wedi ei hargraffu yn llyfr J. Geraint Jenkins.[4] Ymysg yr offer yr oedd dwy injan gardio, un ohonynt yn cynhyrchu deugain edafyn ar y tro; peiriant nyddu gyda 220 o werthydau;melin ystofi; peiriant torri; dau wŷdd wedi'u pweru 120 modfedd o hyd ar gyfer gwneud blancedi; a chyfarpar lliwio. Yr oedd cyffion pandy yno hefyd i bannu'r defnyddiau a gynhyrchid ac y mae hyn yn esbonio efallai pam fod pandai'r ardal wedi diflannu'n gynt na'r melinau - aeth yr holl broses dan yr un to.

Gweitha'r modd, mae'r perchnogion presennol wedi dewis ail enwi'r felin fel The Woollen Mill, Clynnog Road.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  2. Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985), llun 43.
  3. J. Geraint Jenkins, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), tt.243-4.
  4. op. cit., t.244