R. Silyn Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 26: Llinell 26:
==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r ''Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru''.
O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r ''Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru''.
--Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


{{DEFAULTSORT:Roberts, R. Silyn}}
{{DEFAULTSORT:Roberts, R. Silyn}}

Fersiwn yn ôl 11:48, 7 Ebrill 2021

Pregethwr Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd Robert Silyn Roberts (1871-1930).

Ganwyd ym Mrynllidiart, ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd Cwm Silyn. Wrth droed Pen Cymffyrch y mae pentref Tan'rallt.

Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, o Niwbwrch, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Ganed iddi hi ddau blentyn, sef Silyn ac Ellen (Nel), mam Mathonwy Hughes, bardd y Gadair Genedlaethol 1956. Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.” Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.[1]

Gadawodd yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i Ysgol Clynnog yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o Dal-y-sarn, a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.

Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r enw Robert Roberts. Graddiodd yn 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. yn 1901 (M.A.) ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni. Yn 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest Trystan ac Esyllt. Wedi hyn cyhoeddodd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, ac yna Telynegion mewn cydweithrediad â W. J. Gruffydd ym 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.

Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).

Bu hefyd yn darlithio yn yr U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y darfodedigaeth. Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf – ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry yn y lluoedd arfog. Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.

O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd dosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac yn 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Ysgrifennodd lawer i’r Glorian, Y Dinesydd Cymreig, Welsh Outlook, ayb.

Awdur y canlynol: Gwyntoedd Croesion, 1924 (cyf. o ddrama J.O. Francis, Cross Currents); Bugail Geifr Lorraine, 1925 (cyf. o nofel Ffrangeg); a’r nofel Llio Plas y Nos (1945).

Priododd yn 1905 â Mary Parry, Llundain. Cawsant ddau fab a merch. Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.


Llyfryddiaeth

O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

--Cyfeiriadau==

  1. Ceir ei hanes yn Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.