W.A. Provis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''William Alexander Provis''' (1792-1870) yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gyfrifol fel peiriannydd preswyl Thomas Telford wrth i Bont Menai gael ei chodi. Fe'i anwyd yn Swydd Gaergrawnt, ond teithiodd ymhell lle bynnag y câi waith ym Mhrydain, cyn ymddeol i ystad fechan yn Ellesmere, Swydd Gaer.<ref>Gwefan Graces Guide to British Industrial History [https://www.gracesguide.co.uk/William_Alexander_Provis], cyrchwyd 10.6.2019</ref> Bu'n byw ger y Garth ym Mangor tra oedd y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, a chafodd waith ar yr ochr (fel petai) yn gwneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]] ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes [[Uwchgwyrfai]]. Mae ei fap gwreiddiol yn dangos llwybr y Rheilffordd Nantlle arfaethedig ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.
Roedd '''William Alexander Provis''' (1792-1870) yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gweithredu fel peiriannydd preswyl Thomas Telford wrth i Bont y Borth (neu Bont Menai) gael ei chodi. Fe'i ganwyd yn Swydd Gaergrawnt, ond teithiodd ymhell ac agos lle bynnag y câi waith ym Mhrydain, cyn ymddeol i ystad fechan yn Ellesmere, Swydd Gaer.<ref>Gwefan Graces Guide to British Industrial History [https://www.gracesguide.co.uk/William_Alexander_Provis], cyrchwyd 10.6.2019</ref> Bu'n byw ger y Garth ym Mangor tra oedd y gwaith ar Bont y Borth yn mynd rhagddo, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe'i comisiynwyd hefyd i wneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu [[Rheilffordd Nantlle]] ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes [[Uwchgwyrfai]]. Mae ei fap gwreiddiol yn dangos llwybr arfaethedig Rheilffordd Nantlle ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:53, 6 Gorffennaf 2022

Roedd William Alexander Provis (1792-1870) yn beiriannydd a syrfewr a fu'n gweithredu fel peiriannydd preswyl Thomas Telford wrth i Bont y Borth (neu Bont Menai) gael ei chodi. Fe'i ganwyd yn Swydd Gaergrawnt, ond teithiodd ymhell ac agos lle bynnag y câi waith ym Mhrydain, cyn ymddeol i ystad fechan yn Ellesmere, Swydd Gaer.[1] Bu'n byw ger y Garth ym Mangor tra oedd y gwaith ar Bont y Borth yn mynd rhagddo, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe'i comisiynwyd hefyd i wneud yr arolwg a'r mapiau statudol ar gyfer adeiladu Rheilffordd Nantlle ac yn y cyd-destun hwnnw mae ganddo le yn hanes Uwchgwyrfai. Mae ei fap gwreiddiol yn dangos llwybr arfaethedig Rheilffordd Nantlle ar gael hyd heddiw yn Archifdy Caernarfon.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Graces Guide to British Industrial History [1], cyrchwyd 10.6.2019