Idwal Jones (gweinidog ac awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
Bu'n gweinidogaethu'r eglwysi canlynol - Capel yr Annibynwyr, Llanrhaeadr ym Mochnant 1933-1936; Saron (A) Rhydyfro 1936-1944; Tywyn, Meirionnydd 1944-1948; Tabernacl, Pencader 1948-1953 a'r Tabernacl, Llanrwst a Nant y Rhiw, Dyffryn Conwy o 1953 tan iddo ymddeol yn 65 oed ym 1975. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrwst, bu'n cadw siop fframio lluniau ac ati yn unol â'i gred y dylai gweinidog beidio â dibynnu ar aelodau ei gapel i'w gynnal.

Penderfynodd yn ifanc iawn mae pregethwr oedd arno eisiau bod. Dechreuodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng [[Capel Drws-y-coed (A)|nghapel Drws-y-Coed]]. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o brgethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad.
Penderfynodd yn ifanc iawn mae pregethwr oedd arno eisiau bod. Dechreuodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng [[Capel Drws-y-coed (A)|nghapel Drws-y-Coed]]. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o bregethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad.

=== Llenor a darlledwr ===
=== Llenor a darlledwr ===

Fersiwn yn ôl 10:52, 19 Mawrth 2021

Roedd Idwal Jones (1910–1985) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn bregethwr nodedig, ac yn ddramodydd, awdur a darlledwr Cymraeg. Fe'i ganwyd yn Nhal-y-sarn. Mae'n enwog yn bennaf am ei bregethu nodweddiadol, ei ddramâu radio a'r nofelau yng nghyfres SOS Galw Gari Tryfan.

Roedd yn fab i Dafydd a Mary Jones, Brynteg, Stryd Cavour, Tal-y-sarn. Addysgwyd yn Ysgol Tal-y-sarn, yr Ysgol Sir ym Mhen-y-groes a Choleg Annibynwyr Bala Bangor.

Pregethu

Bu'n gweinidogaethu'r eglwysi canlynol - Capel yr Annibynwyr, Llanrhaeadr ym Mochnant 1933-1936; Saron (A) Rhydyfro 1936-1944; Tywyn, Meirionnydd 1944-1948; Tabernacl, Pencader 1948-1953 a'r Tabernacl, Llanrwst a Nant y Rhiw, Dyffryn Conwy o 1953 tan iddo ymddeol yn 65 oed ym 1975. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrwst, bu'n cadw siop fframio lluniau ac ati yn unol â'i gred y dylai gweinidog beidio â dibynnu ar aelodau ei gapel i'w gynnal.

Penderfynodd yn ifanc iawn mae pregethwr oedd arno eisiau bod. Dechreuodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng nghapel Drws-y-Coed. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o bregethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad.

Llenor a darlledwr

Hefyd, roedd ganddo'r ddawn o ysgrifennu dramâu. Y mwyaf adnabyddus oedd y gyfres ddrama radio i blant, sef SOS Galw Gari Tryfan. Daeth honno'n ffefryn gan blant Cymru am ddau ddegawd. Cyfrannodd yn ddi-dor am flynyddoedd i raglenni BBC Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb ym myd argraffu a chychwynnodd gwmni cyhoeddi Gwasg yr Arad, Pencader a Llanrwst.

Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adwaenir hi bellach fel pregeth Twm Bach.[1]

Ni ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr o Dal-y-sarn o'r un enw, sef Idwal ap Ieuan Jones, y peilot awyr.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl amdano ar Wicipedia Cymraeg, [1]; a gwybodaeth bersonol