Idwal Jones (gweinidog ac awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Idwal Jones''' (1910–1985) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn bregethwr nodedig, ac yn dramodydd, awdur a darlledwr Cymraeg. Fe'i ganwyd yn Ta...'
 
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adnabyddir hi fel pregeth Twm Bach.<ref>Erthygl amdano ar Wicipedia Cymraeg, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Idwal_Jones_(1910-1985)]; a gwybodaeth bersonol</ref>
Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adnabyddir hi fel pregeth Twm Bach.<ref>Erthygl amdano ar Wicipedia Cymraeg, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Idwal_Jones_(1910-1985)]; a gwybodaeth bersonol</ref>
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categpori:Gweinidogion]]
[[Categori:Pregethwyr]]
[[Categori:Darlledwyr]]
[[Categori:Awduron]]
[[Categori:Dramodwyr]]

Fersiwn yn ôl 14:19, 18 Mawrth 2021

Roedd Idwal Jones (1910–1985) yn weinidog gyda'r Annibynwyr, yn bregethwr nodedig, ac yn dramodydd, awdur a darlledwr Cymraeg. Fe'i ganwyd yn Nhal-y-sarn. Mae'n enwog yn bennaf am ei bregethu nodweddiadol, a'i ddramâu radio a nofelau yng nghyfres SOS Galw Gari Tryfan.

Roedd yn fab i Dafydd a Mary Jones, Brynteg, Stryd Cavour, Tal-y-sarn. Addysgwyd yn Ysgol Tal-y-sarn, yr Ysgol Sir ym Mhen-y-groes a Choleg Annibynwyr Bala Bangor. Pregethu

Bu'n gweinidogaethu'r eglwysi canlynol - Capel yr Annibynwyr, Llanrhaeadr ym Mochnant 1933-1936; Saron (A) Rhydyfro 1936-1944; Tywyn, Meirionydd 1944-1948; Tabernacl, Pencader 1948-1953 a'r Tabernacl, Llanrwst a Nant y Rhiw, Dyffryn Conwy 1953 tan iddo ymddeol yn 65 oed yn 1975. YN ystod ei gyfnod yn Llanrwts, bu'n cadw siop fframio lluniau ac ati yn unol â'i gred y dylai gweinidog beidio adibynnu ar aelodau ei gapel i'w gynnal.

Penderfynodd yn ifanc iawn mae pregethwr oedd arno eisiau bod. Cychwynodd bregethu yn bymtheg oed. Pregethodd ei bregeth gyntaf yng nghapel Drws-y-Coed. Yn ystod ei yrfa daeth yn adnabyddus fel un o brgethwyr mawr cyfarfodydd pregethu ei enwad. Llenor a darlledwr

Hefyd, roedd ganddo'r ddawn o ysgrifennu dramâu. Y mwya adnabyddus oedd y gyfres ddrama radio i blant, sef SOS Galw Gari Tryfan. Daeth honnoo'n ffefryn gan blant Cymru am ddau degawd. Cyfrannodd yn ddi-dor am flynyddoedd i raglenni BBC Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb ym myd argraffu a cychwynnodd gwmni cyhoeddi Gwasg yr Arad, Pencader a Llanrwst.

Ym 1951 pregethodd ar BBC Welsh Home Service (cyn bodolaeth Radio Cymru). Bu cynnwrf drwy Gymru a bu siarad am y bregeth hon am flynyddoedd. Y testun oedd Tomos Didymus, ac adnabyddir hi fel pregeth Twm Bach.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

Categpori:Gweinidogion

  1. Erthygl amdano ar Wicipedia Cymraeg, [1]; a gwybodaeth bersonol