Cefn Hendre: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cefn Hendre''', neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] ger pentre'r [[Dolydd]]. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr [[Afon Carrog]] i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, [[Melin Cil Tyfu]], ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.
Mae '''Cefn Hendre''', neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] ger pentre'r [[Dolydd]]. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr [[Afon Carrog]] i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, [[Melin Cil Tyfu]], ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.


Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256</ref> Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r [[Bontnewydd]], sef [[Plas-y-bont]], ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I</ref>
==Rhan o Ystad Pontnewydd==
 
Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i dŷ o eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256</ref> Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r [[Bontnewydd]], sef [[Plas-y-bont]], ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I</ref>


Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759.  Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/18</ref> Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd [[Ystad Bontnewydd]] ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, [[Llanaelhaearn]], a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.123,</ref>
Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759.  Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/18</ref> Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd [[Ystad Bontnewydd]] ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, [[Llanaelhaearn]], a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.123,</ref>


Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Ym mis Awst 1761, marwodd tenant Cefn, Lewis Davies, ac mae rhestr o'i eiddo ar gael ymysg dogfennau profiannaeth yr esgobaeth.<ref>LLGC Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1761/95 B & I</ref> Roedd Lewis Davies, er yn denant, yn ddyn gwerth tipyn o arian - £161.7.6c. Roedd o'n tyfu gwenith, haidd a cheirch ar y fferm, roedd ganddo 7 o wartheg godro gwerth 3 gini'r un, ynghyd â 2 o heffrod , 29 o ddefaid ac ŵyn, 5 ceffyl, a 7 mochyn, a nifer o ddofednod hefyd.  
Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Ym mis Awst 1761, marwodd tenant Cefn, Lewis Davies (neu David), ac mae rhestr o'i eiddo ar gael ymysg dogfennau profiannaeth yr esgobaeth.<ref>LLGC Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1761/95 B & I</ref> Roedd Lewis Davies, er yn denant, yn ddyn gwerth tipyn o arian - £161.7.6c. Roedd o'n tyfu gwenith, haidd a cheirch ar y fferm, roedd ganddo 7 o wartheg godro gwerth 3 gini'r un, ynghyd â 2 o heffrod , 29 o ddefaid ac ŵyn, 5 ceffyl, a 7 mochyn, a nifer o ddofednod hefyd. Yn y rhestr, ceir nodyn o ystafelloedd y tŷ hefyd:Parlwr, Neuadd (sef Cegin), Bwtri, "Above Stairs",  "outhouse" a stablau. Bron yn sicr, dyna'r tŷ y bu Margaret Lloyd yn byw ynddo ganrif ynghynt - tŷ weddol fychan ond eto gweddol ei maint yn ôl safonau ffermdai'r cyfnod.


Bu farw Griffith Jones, tenant diweddarach Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I</ref>
Bu farw Griffith Jones, tenant diweddarach Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I</ref>
Llinell 32: Llinell 34:
Mae'r rhestr eiddo uchod yn ddiddorol am sawl rheswm. Roedd y ffarmwr yn ddigon cefnog i gadw ceffyl marchogaeth gweddol ddrudfawr (wrth gymharu â'r prisiau arferol am geffylau). Roedd y dull ffermio'n gymysg - gwartheg (tua 6 yn ol pob tebyg), efallai 45 o ddefaid, a swp sylweddol o rawn. Roedd y fferm yn medru cynnal gwas. Nid yw'n amlwg pwy oedd Mr Rowlands - asiant Mr Evans y perchennog efallai. Ond sylwer ar werth y stoc a'r nwyddau i gyd - dim ond hanner gwerth mam perchennog yr ystâd tua chan mlynedd yn gynt.
Mae'r rhestr eiddo uchod yn ddiddorol am sawl rheswm. Roedd y ffarmwr yn ddigon cefnog i gadw ceffyl marchogaeth gweddol ddrudfawr (wrth gymharu â'r prisiau arferol am geffylau). Roedd y dull ffermio'n gymysg - gwartheg (tua 6 yn ol pob tebyg), efallai 45 o ddefaid, a swp sylweddol o rawn. Roedd y fferm yn medru cynnal gwas. Nid yw'n amlwg pwy oedd Mr Rowlands - asiant Mr Evans y perchennog efallai. Ond sylwer ar werth y stoc a'r nwyddau i gyd - dim ond hanner gwerth mam perchennog yr ystâd tua chan mlynedd yn gynt.


Cymerodd weddw o'r enw Elisabeth Hughes y denantiaeth wedyn, ond bu hithau'n farw ym 1791. Yn rehtsr o'i heiddo hi, rhestrir stoc o ran anifeiliaid a chnydau i'w rhagflaenwyr ar y fferm, er bod cynnwys y tŷ'n ymddangos yn well ac yn fwy cyfoes, gyda pethau fel cloc a drych yno. Roedd hefyd ganddi 4 tröell. Cyfanswm ei golud oedd £281.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1791/74 B & I</ref>
Cymerodd weddw o'r enw Elisabeth Hughes y denantiaeth wedyn, ond bu hithau'n farw ym 1791. Yny rhestr o'i heiddo hi, nodi stoc tebyg o ran anifeiliaid a chnydau i'w rhagflaenwyr ar y fferm, er bod cynnwys y tŷ'n ymddangos yn well ac yn fwy cyfoes, gyda phethau fel cloc a drych yno. Roedd hefyd ganddi 4 tröell. Cyfanswm ei gwerth mewn arian, anifeiliaid a nwyddau oedd oddeutu £281.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1791/74 B & I</ref>
 
Jophn Jones yw'r tenant nesaf y ceir sôn amdano. Bu farw ym 1817 neu ychydig cyn hynny,  Gadawodd gwraig a dau fab i rannu ei eiddo oedd i gyd gwerth £63.16.0c. Roedd ganddo wartheg corniog, ceffylau, defaid, moch a chnydau yn yr ysgubor, er nad yw'r niferoedd wedi'u nodi yn y rhestr o'i eiddo.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1818/118 W & I</ref> Nid yw'n glir a ddarfu i'w wraig Mary a/nau ei feibion Griffith ac Owen barhau i ffermio Cefn.
 
==Eiddo Teulu Constable==
 
Fel y dywedir uchod, wedi i etifeddes teulu Lewis, Plas-y-bont briodi, bu'r ystâd i gyd, yn cynnwys Cefn, yn rhan o diroedd teulu Evans, Llethr-ddu, Trefeilir a'r Henbals, nes iddynt benderfynu gwerthu tiroedd hen [[Ystad Pontnewydd|ystâd Pontnewydd]] ym 1819.


Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/22</ref> Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.398</ref> Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton<ref>Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants</ref> ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf [[Llanaelhaearn]], Ysgubor Fawr, plwyf [[Clynnog-fawr]], a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.<ref>Archifdy Caernarfon, XD479/39-40</ref>   
Yn yr arwerthiant, gwr diarth o'r enw Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/22</ref> Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.398</ref> Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton<ref>Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants</ref> ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf [[Llanaelhaearn]], Ysgubor Fawr, plwyf [[Clynnog-fawr]], a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.<ref>Archifdy Caernarfon, XD479/39-40</ref>   


Pan wnaed y Map Degwm a rhestru'r tir oedd yn perthyn i'r fferm tua 1840, yr Anne Ellis uchod oedd y perchennog a William Jones oedd y tenant oedd yn ffermio. Roedd y fferm yn ymstyn i ryw 48 erw. Rhestrir yno enwau'r caeau: Cae'r ffront, Cae bach, Cae sgubor, Llain, Cae Tyddyn, Rallt, Werglodd fain, Cae Thomas, Cae'r odyn, Cae pwll pridd, Cae court, Cae teg, Cae mawr, Wann, Rallt, Wann, Cae Tyddyn, Gors a Cavan Uchaf. Diddorol yw sylwi ar ddogfen Rhestr Bennu'r Degwm mai Ann Ellis oedd yn berchen hefyd ar fferm Traean y drws nesaf, sef dau eiddo oedd, mae'n debyg, wedi eu prynu iddi ar adeg ei phriodas. Nodir fod Anne Ellis hefyd yn berchennog Tŷ Cnap a Phenyclip ym mhlwyf Llanwnda, a dichon bod y rhain wedi'u prynu yn yr un arwerthiant gan Philip ei hewyrth.<ref>LLGC, Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Llanwnda</ref>
Pan wnaed y Map Degwm a rhestru'r tir oedd yn perthyn i'r fferm tua 1840, yr Anne Ellis uchod oedd y perchennog a William Jones oedd y tenant oedd yn ffermio. Roedd y fferm yn ymstyn i ryw 48 erw. Rhestrir yno enwau'r caeau: Cae'r ffront, Cae bach, Cae sgubor, Llain, Cae Tyddyn, Rallt, Werglodd fain, Cae Thomas, Cae'r odyn, Cae pwll pridd, Cae court, Cae teg, Cae mawr, Wann, Rallt, Wann, Cae Tyddyn, Gors a Cavan Uchaf. Diddorol yw sylwi ar ddogfen Rhestr Bennu'r Degwm mai Ann Ellis oedd yn berchen hefyd ar fferm Traean y drws nesaf, sef dau eiddo oedd, mae'n debyg, wedi eu prynu iddi ar adeg ei phriodas. Nodir fod Anne Ellis hefyd yn berchennog Tŷ Cnap a Phenyclip ym mhlwyf Llanwnda, a dichon bod y rhain wedi'u prynu yn yr un arwerthiant gan Philip ei hewyrth.<ref>LLGC, Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Llanwnda</ref>
Ymddengys na fu William Jones yno'n hir wedi llunio'r Map Degwm, gan fod tenant arall, a hwnnw'n denant o ddosbarth uwch, yn byw yng Nghefn, sef Rowland Hughes, bonheddwr. Roedd o'n dirfeddiannwr ei hun, gan berchen ar fferm yn Llanrhuddlad, Sir Fôn o'r enw Tyddyn Mawr neu Dyddyn y Jockey. Ymddengys ei fod naill ai'n ddi-briod neu'n ŵr gweddw, gan iddo adael ei eiddo rhwng nifer o berthnasau.  Roedd ei nai William Jones yn cadw tanws neu farcdy yng Nghaernarfon, a Jane gwraig William oedd ei ysgutor.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1842/104 W</ref> Y cwestiwn mawr yw hyn:ai William Jones, Cefn, a William Jones, y crwynwr, oedd yr un un?
Mae'n amlwg o'r tŷ presennol, sydd yn edrych o'r tu allan fel tŷ o'r 18-19g., nad hwnnw oedd y tŷ y manylwyd ar ei ystafelloedd


Bu farw Anne Ellis ym 1869, ac fe etifeddwyd yr eiddo gan y Parch. Philip Constable Ellis, rheithor Llanfairfechan, ei nai. Cadwodd y ffermydd am ryw ddeugain mlynedd ond penderfynwyd eu gwerthu, ynghyd â fferm Ysgubor Fawr, Clynnog-fawr, ym 1912-13.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14512, 14518</ref>
Bu farw Anne Ellis ym 1869, ac fe etifeddwyd yr eiddo gan y Parch. Philip Constable Ellis, rheithor Llanfairfechan, ei nai. Cadwodd y ffermydd am ryw ddeugain mlynedd ond penderfynwyd eu gwerthu, ynghyd â fferm Ysgubor Fawr, Clynnog-fawr, ym 1912-13.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14512, 14518</ref>

Fersiwn yn ôl 18:36, 26 Ionawr 2021

Mae Cefn Hendre, neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf Llanwnda ger pentre'r Dolydd. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr Afon Carrog i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i Ben-y-groes i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, Melin Cil Tyfu, ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.

Rhan o Ystad Pontnewydd

Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i dŷ o eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.[1] Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r Bontnewydd, sef Plas-y-bont, ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.[2]

Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759. Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.[3] Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd Ystad Bontnewydd ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, Llanaelhaearn, a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.[4]

Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Ym mis Awst 1761, marwodd tenant Cefn, Lewis Davies (neu David), ac mae rhestr o'i eiddo ar gael ymysg dogfennau profiannaeth yr esgobaeth.[5] Roedd Lewis Davies, er yn denant, yn ddyn gwerth tipyn o arian - £161.7.6c. Roedd o'n tyfu gwenith, haidd a cheirch ar y fferm, roedd ganddo 7 o wartheg godro gwerth 3 gini'r un, ynghyd â 2 o heffrod , 29 o ddefaid ac ŵyn, 5 ceffyl, a 7 mochyn, a nifer o ddofednod hefyd. Yn y rhestr, ceir nodyn o ystafelloedd y tŷ hefyd:Parlwr, Neuadd (sef Cegin), Bwtri, "Above Stairs", "outhouse" a stablau. Bron yn sicr, dyna'r tŷ y bu Margaret Lloyd yn byw ynddo ganrif ynghynt - tŷ weddol fychan ond eto gweddol ei maint yn ôl safonau ffermdai'r cyfnod.

Bu farw Griffith Jones, tenant diweddarach Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:[6]

"Inventory of all the Goods and Catless of Griffith Jones of Cefn in the parish of Llanwnda was Buryd the 10th Janny 1785
Sadle horse and Garment....£4.15.0 
Two Horse...................6. 0.0
Catles........................12. 0.0
Sheep........................4.10.0
Corn.........................10. 0.0
Hay............................2. 0.0
Cart & Plough &c....... 3.10.0
Housell Goods............8. 6.5
Bottelas.....................0.10.0
                                        ______
                                      £61.11.5
Rent Due to Mr Rowlands    6. 11.0
                                        ______
                                       £55. 0.5
Wages the servant              1.  4.0
                                        ______
                                      £53.16.5
Appraised by us, The Mark X of Mathew Roberts of Caerlygan
                          The Mark X of  Owen Griffith of Fotty Wen"

Mae'r rhestr eiddo uchod yn ddiddorol am sawl rheswm. Roedd y ffarmwr yn ddigon cefnog i gadw ceffyl marchogaeth gweddol ddrudfawr (wrth gymharu â'r prisiau arferol am geffylau). Roedd y dull ffermio'n gymysg - gwartheg (tua 6 yn ol pob tebyg), efallai 45 o ddefaid, a swp sylweddol o rawn. Roedd y fferm yn medru cynnal gwas. Nid yw'n amlwg pwy oedd Mr Rowlands - asiant Mr Evans y perchennog efallai. Ond sylwer ar werth y stoc a'r nwyddau i gyd - dim ond hanner gwerth mam perchennog yr ystâd tua chan mlynedd yn gynt.

Cymerodd weddw o'r enw Elisabeth Hughes y denantiaeth wedyn, ond bu hithau'n farw ym 1791. Yny rhestr o'i heiddo hi, nodi stoc tebyg o ran anifeiliaid a chnydau i'w rhagflaenwyr ar y fferm, er bod cynnwys y tŷ'n ymddangos yn well ac yn fwy cyfoes, gyda phethau fel cloc a drych yno. Roedd hefyd ganddi 4 tröell. Cyfanswm ei gwerth mewn arian, anifeiliaid a nwyddau oedd oddeutu £281.[7]

Jophn Jones yw'r tenant nesaf y ceir sôn amdano. Bu farw ym 1817 neu ychydig cyn hynny, Gadawodd gwraig a dau fab i rannu ei eiddo oedd i gyd gwerth £63.16.0c. Roedd ganddo wartheg corniog, ceffylau, defaid, moch a chnydau yn yr ysgubor, er nad yw'r niferoedd wedi'u nodi yn y rhestr o'i eiddo.[8] Nid yw'n glir a ddarfu i'w wraig Mary a/nau ei feibion Griffith ac Owen barhau i ffermio Cefn.

Eiddo Teulu Constable

Fel y dywedir uchod, wedi i etifeddes teulu Lewis, Plas-y-bont briodi, bu'r ystâd i gyd, yn cynnwys Cefn, yn rhan o diroedd teulu Evans, Llethr-ddu, Trefeilir a'r Henbals, nes iddynt benderfynu gwerthu tiroedd hen ystâd Pontnewydd ym 1819.

Yn yr arwerthiant, gwr diarth o'r enw Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.[9] Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.[10] Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton[11] ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf Llanaelhaearn, Ysgubor Fawr, plwyf Clynnog-fawr, a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.[12]

Pan wnaed y Map Degwm a rhestru'r tir oedd yn perthyn i'r fferm tua 1840, yr Anne Ellis uchod oedd y perchennog a William Jones oedd y tenant oedd yn ffermio. Roedd y fferm yn ymstyn i ryw 48 erw. Rhestrir yno enwau'r caeau: Cae'r ffront, Cae bach, Cae sgubor, Llain, Cae Tyddyn, Rallt, Werglodd fain, Cae Thomas, Cae'r odyn, Cae pwll pridd, Cae court, Cae teg, Cae mawr, Wann, Rallt, Wann, Cae Tyddyn, Gors a Cavan Uchaf. Diddorol yw sylwi ar ddogfen Rhestr Bennu'r Degwm mai Ann Ellis oedd yn berchen hefyd ar fferm Traean y drws nesaf, sef dau eiddo oedd, mae'n debyg, wedi eu prynu iddi ar adeg ei phriodas. Nodir fod Anne Ellis hefyd yn berchennog Tŷ Cnap a Phenyclip ym mhlwyf Llanwnda, a dichon bod y rhain wedi'u prynu yn yr un arwerthiant gan Philip ei hewyrth.[13]

Ymddengys na fu William Jones yno'n hir wedi llunio'r Map Degwm, gan fod tenant arall, a hwnnw'n denant o ddosbarth uwch, yn byw yng Nghefn, sef Rowland Hughes, bonheddwr. Roedd o'n dirfeddiannwr ei hun, gan berchen ar fferm yn Llanrhuddlad, Sir Fôn o'r enw Tyddyn Mawr neu Dyddyn y Jockey. Ymddengys ei fod naill ai'n ddi-briod neu'n ŵr gweddw, gan iddo adael ei eiddo rhwng nifer o berthnasau. Roedd ei nai William Jones yn cadw tanws neu farcdy yng Nghaernarfon, a Jane gwraig William oedd ei ysgutor.[14] Y cwestiwn mawr yw hyn:ai William Jones, Cefn, a William Jones, y crwynwr, oedd yr un un?

Mae'n amlwg o'r tŷ presennol, sydd yn edrych o'r tu allan fel tŷ o'r 18-19g., nad hwnnw oedd y tŷ y manylwyd ar ei ystafelloedd

Bu farw Anne Ellis ym 1869, ac fe etifeddwyd yr eiddo gan y Parch. Philip Constable Ellis, rheithor Llanfairfechan, ei nai. Cadwodd y ffermydd am ryw ddeugain mlynedd ond penderfynwyd eu gwerthu, ynghyd â fferm Ysgubor Fawr, Clynnog-fawr, ym 1912-13.[15]

Ym 1873 gosodwyd Cefn i John Owen. Roedd y fferm yn 50 erw, a'r rhent blynyddol oedd £74.10.0c y flwyddyn.[16]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256
  2. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I
  3. Archifdy Caernarfon, XM479/18
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.123,
  5. LLGC Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1761/95 B & I
  6. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I
  7. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1791/74 B & I
  8. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1818/118 W & I
  9. Archifdy Caernarfon, XM479/22
  10. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.398
  11. Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants
  12. Archifdy Caernarfon, XD479/39-40
  13. LLGC, Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Llanwnda
  14. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1842/104 W
  15. Archifdy Caernarfon, XD2/14512, 14518
  16. Archifdy Caernarfon, XD479/24