Cefn Hendre: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cefn Hendre''', neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] ger pentre'r [[Dolydd]]. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr [[Afon Carrog]] i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, [[Melin Cil Tyfu]], ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.
Mae '''Cefn Hendre''', neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf [[Llanwnda]] ger pentre'r [[Dolydd]]. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr [[Afon Carrog]] i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]] i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, [[Melin Cil Tyfu]], ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.


Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, LLangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256</ref> Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r [[Bontnewydd]], sef [[Plas-y-bont]], ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693-64 W ac I</ref>
Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256</ref> Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r [[Bontnewydd]], sef [[Plas-y-bont]], ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I</ref>


Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759.  Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/18</ref> Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd [[Ystad Bontnewydd]] ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, [[Llanaelhaearn]], a Threfeilr a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.123,</ref>
Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759.  Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/18</ref> Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd [[Ystad Bontnewydd]] ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, [[Llanaelhaearn]], a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.123,</ref>
 
Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Bu farw Griffith Jones, tenant Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:<ref>LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I</ref>
"Inventory of all the Goods and Catless of Griffith Jones of Cefn in the parish of Llanwnda was Buryd the 10<sup>th</sup> Janny 1785
Sadle horse and Garment      £4.15.0
Two Horse                              6. 0.0
Catles                                  12. 0.0
Sheep                                    4.10.0
Corn                                    10. 0.0
Hay                                        2. 0.0
Cart & Plough &c                    3.10.0
Housell Goods                        8.  6.5
Bottelas                                0.10.0
                                            ______
                                          £61.11.5
Rent Due to Mr Rowlands        6.11.0
                                            ______
                                          £55. 0.5
Wages the servant                  1.  4.0
                                            ______
                                          £53.16.5
Appraised by us, The Mark X of Mathew Roberts of Caerlygan
                          The Mark X of  Owen Griffith of Fotty Wen"


Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/22</ref> Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.398</ref> Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton<ref>Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants</ref> ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf [[Llanaelhaearn]], Ysgubor Fawr, plwyf [[Clynnog-fawr]], a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.<ref>Archifdy Caernarfon, XD479/39-40</ref>   
Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.<ref>Archifdy Caernarfon, XM479/22</ref> Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.398</ref> Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton<ref>Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants</ref> ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf [[Llanaelhaearn]], Ysgubor Fawr, plwyf [[Clynnog-fawr]], a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.<ref>Archifdy Caernarfon, XD479/39-40</ref>   

Fersiwn yn ôl 10:45, 26 Ionawr 2021

Mae Cefn Hendre, neu "Cefn" yn fferm ym mhlwyf Llanwnda ger pentre'r Dolydd. Ar un adeg, arddelid enw arall arni, sef "Cefn Cil-tyfu". Saif ar fymryn o gefnen rhwng ceunant yr Afon Carrog i'r dwyrain a'r hen ffordd bost o Gaernarfon i Ben-y-groes i'r gorllewin. Yr oedd hen felin, Melin Cil Tyfu, ar yr afon yn y ceunant hyd y 17g.

Nid yw hanes yr eiddo'n wybyddus yn y cyfnod cynnar, ond o bosbibl erbyn 1667, ac yn sicr erbyn 1693, roedd dynes weddw, Margaret Lloyd, yn byw ac yn ffermio yno. Mae'n amlwg o'i hanes ei bod yn aelod o ail reng boneddigion y sir - merch Robert Wynn, Glascoed, Pentir ydoedd. Priododd hi ddwywaith, yn gyntaf â'r Parch. Morgan Lewis, MA, (marw 1641) oedd yn hyn o lawer na hi; ac wedyn ag Owen Lloyd o'r Henblas, Llangristiolus, Sir Fôn, yntau'n marw ym 1667. Dichon i Margaret symud yn ôl i eiddo ei gŵr cyntaf wedi hynny, gan fod Owen Lloyd wedi gadael Henblas i'w nith.[1] Bu farw Margaret ym 1693, gan adael ei heiddo yn bennaf i'w theulu. Ynghlwm wrth ei hewyllys, mae rhestr arbennig o fanwl o holl gynnwys y tŷ a'r holl offer amaethu - gwerth £108.17.0c i gyd, sef swm sylweddol y pryd hynny. Ei mab oedd Hugh Lewis, yswain o'r Bontnewydd, sef Plas-y-bont, ac mae'n debyg mai Cefn oedd un o ffermydd yr ystad honno, a Margaret yn cael byw yno fel gweddw tad Hugh.[2]

Bu farw ei gor-ŵyr hi, Hugh Lewis arall, a aned ym 1694, ym 1721, gan adael ei dir i'w fab yntau, Hugh Lewis arall, a bu farw hwnnw ym 1759. Ym 1738, fodd bynnag, er mwyn codi arian, cymerwyd morgais am £100 am 99 o flynyddoedd ar ddau fferm o'i eiddo, sef Cefn a Thraean.[3] Dichon fod y swm o £100 wedi'i dalu'n ôl ynghyd â'r llog, a Chefn a Thraean yn rhan o'r ystâd pan werthwyd Ystad Bontnewydd ym 1819. Ym 1759, etifeddodd Elisabeth, unig ferch yr Hugh Lewis olaf yr ystad ac yn fuan wedyn fe briododd hi â Charles Evans o Lethr-ddu, Llanaelhaearn, a Threfeilir a'r Henblas yn Sir Fôn. Teulu Evans oedd yn berchnogion yr ystad nes iddynt ei gwerthu ym 1819.[4]

Byddai ffermydd ar ystâd, heblaw efallai am fferm y Plas ei hun, yn cael eu gosod i denantiaid, a doedd Cefn ddim yn eithriad yn hyn o beth. Bu farw Griffith Jones, tenant Cefn, ym 1785. Mae rhestr o'i eiddo pan fu farw ar gael:[5]

"Inventory of all the Goods and Catless of Griffith Jones of Cefn in the parish of Llanwnda was Buryd the 10th Janny 1785

Sadle horse and Garment £4.15.0 Two Horse 6. 0.0 Catles 12. 0.0 Sheep 4.10.0 Corn 10. 0.0 Hay 2. 0.0 Cart & Plough &c 3.10.0 Housell Goods 8. 6.5 Bottelas 0.10.0

                                            ______
                                         £61.11.5

Rent Due to Mr Rowlands 6.11.0

                                            ______
                                         £55. 0.5

Wages the servant 1. 4.0

                                           ______
                                         £53.16.5

Appraised by us, The Mark X of Mathew Roberts of Caerlygan

                         The Mark X of  Owen Griffith of Fotty Wen"

Philip Constable, ysw., o Northampton brynodd ffermydd Cefn a Thraean (ymysg eiddo arall yn yr arwerthiant), am y swm sylweddol o £5150.[6] Nith i Philip Constable oedd Anne Constable, merch brawd Philip, Benjamin Constable a'i wraig Elizabeth Dank. Fe'i briododd Anne ym 1819 â John Ellis o Ryllech, Llannor, yntau'n fab i Thomas Ellis, Rhuthun a Phlas Bodfel yn Llŷn, twrnai yn Llundain - sydd o bosibl yn esbonio sut wnaeth mab teulu o Ben Llŷn ddod ar draws merch o Northampton! Mabwysiadodd y teulu'r cyfenw Constable Ellis ar gyfer eu plant.[7] Bu farw Philip Constable ym 1824, gan adael ei dir yn Sir Gaernarfon i'w ferched, sef Anne a'i chwaer. Yr oedd wedi priodi ym 1820 ac wedi aros yn Swydd Northampton[8] ac felly prin ei fod wedi byw yng Nghefn na'r un eiddo arall yn Sir Gaernarfon. Ymddengys fod cyfanswm yr eiddo a etifeddwyd ganddynt oedd y ffermydd Parsel a Capas Lwyd, plwyf Llanaelhaearn, Ysgubor Fawr, plwyf Clynnog-fawr, a Cefn, Penyclip, Tŷ Cnap a Thraean, plwyf Llanwnda.[9]

Pan wnaed y Map Degwm a rhestru'r tir oedd yn perthyn i'r fferm tua 1840, yr Anne Ellis uchod oedd y perchennog a William Jones oedd y tenant oedd yn ffermio. Roedd y fferm yn ymstyn i ryw 48 erw. Rhestrir yno enwau'r caeau: Cae'r ffront, Cae bach, Cae sgubor, Llain, Cae Tyddyn, Rallt, Werglodd fain, Cae Thomas, Cae'r odyn, Cae pwll pridd, Cae court, Cae teg, Cae mawr, Wann, Rallt, Wann, Cae Tyddyn, Gors a Cavan Uchaf. Diddorol yw sylwi ar ddogfen Rhestr Bennu'r Degwm mai Ann Ellis oedd yn berchen hefyd ar fferm Traean y drws nesaf, sef dau eiddo oedd, mae'n debyg, wedi eu prynu iddi ar adeg ei phriodas. Nodir fod Anne Ellis hefyd yn berchennog Tŷ Cnap a Phenyclip ym mhlwyf Llanwnda, a dichon bod y rhain wedi'u prynu yn yr un arwerthiant gan Philip ei hewyrth.[10]

Bu farw Anne Ellis ym 1869, ac fe etifeddwyd yr eiddo gan y Parch. Philip Constable Ellis, rheithor Llanfairfechan, ei nai. Cadwodd y ffermydd am ryw ddeugain mlynedd ond penderfynwyd eu gwerthu, ynghyd â fferm Ysgubor Fawr, Clynnog-fawr, ym 1912-13.[11]

Ym 1873 gosodwyd Cefn i John Owen. Roedd y fferm yn 50 erw, a'r rhent blynyddol oedd £74.10.0c y flwyddyn.[12]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.122, 123, 256
  2. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1693/64 W ac I
  3. Archifdy Caernarfon, XM479/18
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.123,
  5. LLGC, Ewyllysiau Esgobaeth Bangor, B 1785/98 I
  6. Archifdy Caernarfon, XM479/22
  7. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.398
  8. Cymdeithas Hanes teulu Northants, Adysgrif o Gladdedigaeathau Swydd Northants
  9. Archifdy Caernarfon, XD479/39-40
  10. LLGC, Map a Rhestr Bennu Degwm plwyf Llanwnda
  11. Archifdy Caernarfon, XD2/14512, 14518
  12. Archifdy Caernarfon, XD479/24