R. Dewi Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd [[R. Dewi Williams]] (1870 - 1955) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bu'n brifathro [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog | Roedd [[R. Dewi Williams]] (1870 - 1955) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bu'n brifathro [[Ysgol Ragbaratoawl Clynnog|Ysgol Clynnog]] am gyfnod ac roedd yn llenor dawnus. | ||
Fe'i ganed ar 29 Rhagfyr 1870 yn Llwyn-du Isaf, Pandy Tudur, Sir Ddinbych, yn fab i Isaac ac Elizabeth Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Frytanaidd ei fro a deufis wedyn yn yr ysgol ramadeg a gedwid gan Robert Roberts (Y Sgolor Mawr), a oedd yn berthynas iddo, yn Llanfair Talhaearn. Wedi hynny bu mewn ysgol yn Llandudno, cyn symud ymlaen i ysgol baratoawl Y Bala, lle dechreuodd bregethu. Treuliodd ysbaid wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn mynd am bedair blynedd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd. | Fe'i ganed ar 29 Rhagfyr 1870 yn Llwyn-du Isaf, Pandy Tudur, Sir Ddinbych, yn fab i Isaac ac Elizabeth Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Frytanaidd ei fro a deufis wedyn yn yr ysgol ramadeg a gedwid gan Robert Roberts (Y Sgolor Mawr), a oedd yn berthynas iddo, yn Llanfair Talhaearn. Wedi hynny bu mewn ysgol yn Llandudno, cyn symud ymlaen i ysgol baratoawl Y Bala, lle dechreuodd bregethu. Treuliodd ysbaid wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn mynd am bedair blynedd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd. | ||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
R. Dewi Williams, ''Clawdd Terfyn'', (Lerpwl, 1948). | R. Dewi Williams, ''Clawdd Terfyn'', (Lerpwl, 1948). | ||
[[Categori: | [[Categori:Gweinidogion]] | ||
[[Categori:Awduron]] | [[Categori:Awduron]] | ||
[[Categori:Athrawon]] | [[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 19:24, 26 Ebrill 2021
Roedd R. Dewi Williams (1870 - 1955) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bu'n brifathro Ysgol Clynnog am gyfnod ac roedd yn llenor dawnus.
Fe'i ganed ar 29 Rhagfyr 1870 yn Llwyn-du Isaf, Pandy Tudur, Sir Ddinbych, yn fab i Isaac ac Elizabeth Williams. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Frytanaidd ei fro a deufis wedyn yn yr ysgol ramadeg a gedwid gan Robert Roberts (Y Sgolor Mawr), a oedd yn berthynas iddo, yn Llanfair Talhaearn. Wedi hynny bu mewn ysgol yn Llandudno, cyn symud ymlaen i ysgol baratoawl Y Bala, lle dechreuodd bregethu. Treuliodd ysbaid wedyn yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, cyn mynd am bedair blynedd i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd.
Fe'i hordeiniwyd ar droad y ganrif (1900), a bu'n weinidog yng Nghesarea ym mhlwyf Llandwrog, Arfon (1898-1904) ac yn eglwys Jerusalem, Penmaen-mawr (1904-1917). Ym 1917 fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Clynnog (ysgol ragbaratoawl y cyfundeb Methodistaidd, neu Ysgol Eben Fardd fel y gelwid hi ar adegau). Arhosodd yn y swydd ar ôl i'r ysgol symud o Glynnog i'r Rhyl (lle gelwid hi'n Goleg Clwyd), a bu yno hyd nes iddo ymddeol ym 1939. Ymgartrefodd yn Rhuddlan yn ystod blynyddoedd olaf ei oes.
Roedd R. Dewi Williams yn uchel iawn ei barch fel athro ymysg ei fyfyrwyr ac roedd ganddo afael eithriadol dda ar y clasuron yn ogystal â phynciau eraill. Bu'n gyfrwng i hyfforddi dwsinau o fechgyn oedd â'u bryd ar fynd i'r weinidogaeth yn bennaf, gan roi sylfaen gadarn i rai a oedd heb fawr addysg flaenorol ac wedi bod yn gweithio ers yn ifanc fel gweision ffermydd, cynorthwywyr mewn siopau, a swyddi cyffelyb. Roedd ef ei hun hefyd yn bregethwr cymeradwy a lwyddai i egluro ei neges yn ei bregethau trwy gyfrwng cyffelybiaethau a darluniau byw a chofiadwy. Dyrchafwyd ef i gadair Sasiwn y Gogledd ym 1950.
Yn ogystal â'i wybodaeth eang o'r clasuron, roedd ganddo Gymraeg cyhyrog, graenus ac idiomatig a gallai ymdeimlo â rhin geiriau ac ymadroddion ac nid yw'n syndod iddo ddod yn llenor coeth. Cyhoeddwyd ei stori fer, "Y Clawdd Terfyn", yn rhifyn cyntaf Y Beirniad, ac ymddangosodd wedi hynny yn ei gyfrol Clawdd Terfyn, straeon a darluniadau, ym 1912 (ail argraffiad ym 1948). Yn ogystal â'r stori sy'n deitl y llyfr, mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys y straeon a ganlyn: "Morus Hughes, Y Felin"; "Shôn Tomos, Tŷ Capel"; "Teulu Bryn Marian" (sy'n stori-fer hir wedi'i rhannu'n naw pennod); a "Mwgwd yr Ieir". Cafodd y straeon hyn groeso gwresog ac o ran cynnwys ac arddull ystyrid eu bod yn torri tir newydd ac arloesol yn y maes hwn yn y Gymraeg. Ysgrifennodd gyfraniadau yn ogystal i wahanol gylchgronau, a chasglwyd rhai o'i ysgrifau o Y Drysorfa yn gyfrol dan y teitl Dyddiau mawr mebyd ym 1973.
Ym 1908 priododd â Helena Jones Davies a ganwyd un mab iddynt. Bu farw yn Rhuddlan ar 25 Ionawr 1955.
Cyfeiriadau
Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997), tt.239-40.
R. Dewi Williams, Clawdd Terfyn, (Lerpwl, 1948).