Ystrwyth ab Ednywain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ystrwyth ab Ednywain''' (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] ac yn benteulu [[Teulu Glynllifon]] yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.  
Roedd '''Ystrwyth ab Ednywain''' (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] ac yn benteulu [[Teulu Glynllifon]] yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.  


Credir mai un o brif swyddogion y llys oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, [[Lleuar Fawr]] a [[Glynllifon]]. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar<ref>''Ancestry.co.uk'', [https://www.ancestry.co.uk/genealogy/records/ystrwyth-ap-ednowain_35461571?geo_a=r&geo_s=ca&geo_t=uk&geo_v=2.0.0&o_iid=41016&o_lid=41016&o_sch=Web+Property], adalwyd 19.07.2018</ref>. Roedd o'n ddisgynydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.172</ref> Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg. Er ei fod yn ffigwr pur niwlog, roedd Distain (sef prif weinyddwr) Llywelyn Fawr yn ddyn o'r enw Gwyn ab Ednywain hyd ei farw ym 1215;<ref>Erthygl Wicipedia ar Gwyn ab Ednywain, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwyn_ab_Ednywain], cyrchwyd 14.4.2020</ref> mae'n demtasiwn i weld hwn fel brawd i Ystrwyth, ond ceir cofnodion am Gwyn ab Ednywain yn achres Collwyn ap Tangno hefyd a dichon mai dyma'r dyn oedd yn ddistain Llywelyn, a heb fod yn perthyn i Ystrwyth. Nid oes sôn am Gwyn, yn sicr, yn achres Griffith, fel un o feibion Ednywain ap Gwrydyr.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172, 391</ref>
Credir mai un o brif swyddogion y llys oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, [[Lleuar Fawr]] a [[Glynllifon]]. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar<ref>''Ancestry.co.uk'', [https://www.ancestry.co.uk/genealogy/records/ystrwyth-ap-ednowain_35461571?geo_a=r&geo_s=ca&geo_t=uk&geo_v=2.0.0&o_iid=41016&o_lid=41016&o_sch=Web+Property], adalwyd 19.07.2018</ref>. Roedd yn ddisgynnydd uniongyrchol i [[Cilmin Droed-ddu]] yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.172</ref> Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg. Er ei fod yn ffigwr pur niwlog, roedd Distain (sef prif weinyddwr) Llywelyn Fawr yn ddyn o'r enw Gwyn ab Ednywain hyd ei farw ym 1215;<ref>Erthygl Wicipedia ar Gwyn ab Ednywain, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Gwyn_ab_Ednywain], cyrchwyd 14.4.2020</ref> mae'n demtasiwn i weld hwn fel brawd i Ystrwyth, ond ceir cofnodion am Gwyn ab Ednywain yn achres Collwyn ap Tangno hefyd a dichon mai dyma'r dyn a oedd yn ddistain Llywelyn, ac nad oedd yn perthyn i Ystrwyth. Nid oes sôn am Gwyn, yn sicr, yn achres Griffith, fel un o feibion Ednywain ap Gwrydyr.<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.172, 391</ref>


Roedd ganddo (neu mi dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgordd [[Dinlle]] a adnabyddid fel ''Gafael Wyrion Ystrwyth'' maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn y 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid [[William Glynn, Glynllifon]], [[Tudur Goch ap Grono]], yn un o ''briodorion'' neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'', (Caernarfon, 1956), t.248.</ref> Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd [[Dinlle]].<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref>
Roedd ganddo (neu fe dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgordd [[Dinlle]] a adwaenid fel ''Gafael Wyrion Ystrwyth'' maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn yr 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid [[William Glynn, Glynllifon]], sef [[Tudur Goch ap Grono]], yn un o ''briodorion'' neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).<ref>W Ogwen Williams, ''A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records'', (Caernarfon, 1956), t.248.</ref> Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd [[Dinlle]].<ref>W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33</ref>


Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6</ref> Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin Ioan o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld ym esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn a Helen, merch Llywelyn.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685</ref>
Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.<ref>Glyn Roberts, ''The Glynnes and the Wynns of Glynllifon'', (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6</ref> Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin John o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld yn esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn, a Helen, merch Llywelyn.<ref>J.E. Lloyd, ''A History of Wales'', (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685</ref>


Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad hefyd yn cael bywyd teuluol yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Hefyd, rhaid cofio nad oedd Ystrwyth yn enw hollol anghyfarwydd ar y pryd - er enghraifft Ystrwyth ap Marchwystl o'r Berain, Llanefydd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei fod yn ddigon teg credu mai Ystrwyth dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch yn un person.
Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad yn cael bywyd teuluol hefyd yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Hefyd, rhaid cofio nad oedd Ystrwyth yn enw hollol anghyfarwydd ar y pryd - er enghraifft Ystrwyth ap Marchwystl o'r Berain, Llannefydd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei bod yn ddigon teg credu mai'r un person oedd Ystrwyth, dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch.





Golygiad diweddaraf yn ôl 14:16, 4 Ionawr 2023

Roedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) - yn ôl achresi cynnar - yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu ac yn benteulu Teulu Glynllifon yn yr 13g. ar adeg y Tywysog Llywelyn Fawr.

Credir mai un o brif swyddogion y llys oedd Ystrwyth ab Ednywain (c1180 - c1225) yn llys Llywelyn Fawr, a fo, mae'n debyg, oedd sylfaenydd llinach teulu'r Glynniaid, Lleuar Fawr a Glynllifon. Cafodd ei eni yn ôl rhai ffynonellau yn Lleuar[1]. Roedd yn ddisgynnydd uniongyrchol i Cilmin Droed-ddu yn ôl achresi'r Canol Oesoedd, a'i dad yn Ednywain ap Gwrydyr ap Dyfnaint ap Iddon ap Iddig ap Lleon ap Cilmin Droed-ddu.[2] Rhaid, fodd bynnag, bwysleisio bod yr achresi hyn yn gymysgedd o ffaith, chwedl a dychymyg. Er ei fod yn ffigwr pur niwlog, roedd Distain (sef prif weinyddwr) Llywelyn Fawr yn ddyn o'r enw Gwyn ab Ednywain hyd ei farw ym 1215;[3] mae'n demtasiwn i weld hwn fel brawd i Ystrwyth, ond ceir cofnodion am Gwyn ab Ednywain yn achres Collwyn ap Tangno hefyd a dichon mai dyma'r dyn a oedd yn ddistain Llywelyn, ac nad oedd yn perthyn i Ystrwyth. Nid oes sôn am Gwyn, yn sicr, yn achres Griffith, fel un o feibion Ednywain ap Gwrydyr.[4]

Roedd ganddo (neu fe dderbyniodd) hawliau i diroedd yn nhrefgordd Dinlle a adwaenid fel Gafael Wyrion Ystrwyth maes o law, a dyna yn ôl pob tebyg sylfaen yr ystadau a grynhowyd yn yr 16g gan y teulu. (Yr oedd gor-hen-daid William Glynn, Glynllifon, sef Tudur Goch ap Grono, yn un o briodorion neu ddeiliaid tir Gafael Wyrion Ystrwyth, ym 1352).[5] Y 12-13g. oedd yr adeg pan ffurfiolwyd tiroedd teuluoedd unigol dan y tywysogion, gan ffurfio "gwelyau", sef tiroedd etifeddol; mae sôn yn y "Record of Carnarvon" am Wely Wyrion Ystrwyth yn ardal trefgordd Dinlle.[6]

Er bod peth amheuaeth gan haneswyr, mae'n bur debygol mai Ystrwyth ab Ednywain oedd y "Magister Ystrwyth" oedd yn gynghorydd a diplomat i Lywelyn Fawr.[7] Os felly, gellir ei ddyddio i gyfnod rhwng tua 1180 a 1222 o leiaf; clywir amdano'n negesydd i Lywelyn ym 1204, derbyniodd bensiwn gan y Brenin John o Loegr ym 1204, roedd yn un o offeiriaid Ellesmere ac yn derbyn bywoliaeth Salkeld yn esgobaeth Caerliwelydd ym 1209. Roedd gyda Llywelyn pan oedd hwnnw'n ymladd wrth ochr y Brenin John ym mrwydr Norham yn erbyn yr Albanwyr ym 1209. Ym 1215, pan oedd un o wystlon Llywelyn yn cael ei ryddhau, Ystrwyth aeth i'w nôl ar ran y Tywysog. Ym 1221 derbyniodd bensiwn o ddeg marc gan Frenin Lloegr. Ym 1222, roedd Ystrwyth yn un o dystion i setliad priodasol nai'r Iarll Ranulf o Gaer, Ioan y Sgotyn, a Helen, merch Llywelyn.[8]

Un broblem sy'n codi o gysylltu "Magister Ystrwyth" ac Ystrwyth ab Ednywain yw'r ffaith fod Magister Ystrwyth yn ôl pob tebyg yn offeiriad o ryw fath, ond eto mae'r achresi'n gytun fod Ystrwyth ab Ednywain yn dad i Iorwerth Goch - er nad oedd y fath beth ag offeiriad yn cael bywyd teuluol hefyd yn hollol anghyfarwydd yn y Canol Oesodd. Hefyd, rhaid cofio nad oedd Ystrwyth yn enw hollol anghyfarwydd ar y pryd - er enghraifft Ystrwyth ap Marchwystl o'r Berain, Llannefydd. Nes i ryw ffaith newydd ddod i'r golwg, fodd bynnag, dichon ei bod yn ddigon teg credu mai'r un person oedd Ystrwyth, dyn y llys ac Ystrwyth ab Ednywain, tad Iorwerth Goch.


Cyfeiriadau

  1. Ancestry.co.uk, [1], adalwyd 19.07.2018
  2. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.172
  3. Erthygl Wicipedia ar Gwyn ab Ednywain, [2], cyrchwyd 14.4.2020
  4. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.172, 391
  5. W Ogwen Williams, A Calendar of Caernarvonshire Quarter Sessions Records, (Caernarfon, 1956), t.248.
  6. W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33
  7. Glyn Roberts, The Glynnes and the Wynns of Glynllifon, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.9 (1948)), t.25-6
  8. J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1911), tt.622, 642, 656, 657, 685