Mynydd y Cilgwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw ''Mynydd Cilgwyn'' a welir yn glir o bron bob man yn [[Uwchgwyrfai]] uwchben pentref [[Carmel]]. Mae'r copa yn 347 metr neu 1138 troedfedd o uchder.<ref>Gwefan ''The Mountain Guide'', [https://www.themountainguide.co.uk/wales/mynydd-y-cilgwyn.htm], cyrchwyd 17.11.2018</ref>
Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw ''Mynydd y Cilgwyn'' a welir yn glir o bron bob man yn [[Uwchgwyrfai]] uwchben pentref [[Carmel]]. Mae'r copa yn 347 metr neu 1138 troedfedd o uchder.<ref>Gwefan ''The Mountain Guide'', [https://www.themountainguide.co.uk/wales/mynydd-y-cilgwyn.htm], cyrchwyd 17.11.2018</ref>

Mynydd heb unrhyw arwyneb creigiog sylweddol ydyw, wedi ei orchuddio'n bennaf gyda grug ac eithin. Enwogrwydd y man yw'r ffaith mai dyma y cychwynnodd diwydiant llechi [[Dyffryn Nantlle]]. Mae tystiolaeth bendant bod cloddio yma ym 1745,<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.218.</ref> pan osodwyd prydles gan asiant y Goron dros [[Tir y Goron]] sef [[Tir Comin Moel Tryfan]] er dywedir bod llechi wedi dod oddi yno hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac wedyn tua 1300.
Mynydd heb unrhyw arwyneb creigiog sylweddol ydyw, wedi ei orchuddio'n bennaf â grug ac eithin. Enwogrwydd y fan yw'r ffaith mai yma y cychwynnodd diwydiant llechi [[Dyffryn Nantlle]]. Mae tystiolaeth bendant bod cloddio yma ym 1745,<ref>Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, ''Cwm Gwyrfai'', (Llanrwst, 2004), t.218.</ref> pan osodwyd prydles gan asiant y Goron dros [[Tir y Goron|Dir y Goron]] sef [[Tir Comin Moel Tryfan]] er y dywedir bod llechi wedi dod oddi yno hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac wedyn tua 1300.

Prif leoliad chwarelydda ar y mynydd yw'r llethrau deheuol yn edrych dros Ddyffryn Nantlle, lle datblygodd [[Chwarel Cilgwyn]] yn nifer o dyllau dwfn iawn. Erbyn hyn mae rhai wedi eu llenwi gydag ysbwriel yr ardal i gyd, ac wedi eu gorchuddio.
Prif leoliad chwarelydda ar y mynydd yw'r llethrau deheuol sy'n edrych dros Ddyffryn Nantlle, lle datblygodd [[Chwarel Cilgwyn]] yn nifer o dyllau dwfn iawn. Erbyn hyn mae rhai wedi eu llenwi gydag ysbwriel yr ardal i gyd, ac wedi eu gorchuddio.

Mae'r mynydd wedi rhoi ei enw i gasgliad o dyddynnod a thai, a chapel, sef [[Cilgwyn]].
Mae'r mynydd wedi rhoi ei enw i gasgliad o dyddynnod a thai, a chapel, sef [[Cilgwyn]].

'''Terfysg yr &#375;d yn 1752'''
'''Terfysg yr ŷd ym 1752'''

Yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif yr oedd llywodraeth Prydain wedi codi pris &#375;d mor uchel fel na allai pobl gyffredin ei fforddio.  
Yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif roedd llywodraeth Prydain wedi codi pris ŷd mor uchel fel na allai pobl gyffredin ei fforddio.  
Roedd y sefyllfa mor druenus nes '''penderfynodd chwarelwyr Mynydd y Cilgwyn ac o gylch Rhostryfan ymosod ar yr ysguboriau ŷd yn Stryd y Jêl, Caernarfon'''. <ref>Allan o  ''Old Karnarvon”,  (W.H. Jones), Argraffiad Newydd Rhagfyr 1984, Siop y Pentan, Caernarfon. Ceir cyfieithiad o’r hanes yn   ''Hanesion Tre’r Cofis”  (T. Meirion Hughes), Y Lolfa.</ref>  
Roedd y sefyllfa mor druenus nes "penderfynodd chwarelwyr Mynydd y Cilgwyn ac o gylch [[Rhostryfan]] ymosod ar yr ysguboriau ŷd yn Stryd y Jêl, Caernarfon". <ref>Allan o  W.H. Jones,''Old Karnarvon'', Argraffiad Newydd (Caernarfon,1984). Ceir cyfieithiad o’r hanes yn T. Meirion Hughes, ''Hanesion Tre’r Cofis''.</ref>  

Yr oeddent yn adnabod hen ysbaddwr teithiol ym Mhenrallt Isaf, Caernarfon, a arferai chwythu ei gorn ar groesffordd neu sgw&auml;r pentref i dynnu sylw ffermwyr yr ardaloedd ei fod ar gael a deuai’r ffermwyr ato i’r fan honno i gael ei wasanaeth ar eu ffermydd. Y tro hwn gofynnodd y chwarelwyr iddo chwythu ei gorn pe bai’n gweld perygl tra byddent hwythau yn ymosod ar yr ysguboriau.  
Yr oeddent yn adnabod hen ysbaddwr teithiol ym Mhenrallt Isaf, Caernarfon, a arferai chwythu ei gorn ar groesffordd neu sgw&auml;r pentref i dynnu sylw ffermwyr yr ardaloedd ei fod ar gael a deuai’r ffermwyr ato i’r fan honno i gael ei wasanaeth ar eu ffermydd. Y tro hwn gofynnodd y chwarelwyr iddo chwythu ei gorn pe bai’n gweld perygl tra byddent hwythau'n ymosod ar yr ysguboriau.  

Yn Ebrill 1752, cyrhaeddodd y chwarelwyr y dref am 10 o’r gloch y bore, a chafodd yr ysbaddwr wybod fod criw y Cynghorydd William Williams, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru, yn disgwyl amdanynt yn nhafarn y Sportsman yn Stryd y Castell a chanodd ei gorn ar drothwy drws ei d&#375; .
Yn Ebrill 1752, cyrhaeddodd y chwarelwyr y dref am 10 o’r gloch y bore, a chafodd yr ysbaddwr wybod fod criw y Cynghorydd William Williams, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru, yn disgwyl amdanynt yn nhafarn y Sportsman yn Stryd y Castell a chanodd ei gorn ar drothwy drws ei .

Rhedodd y chwarelwyr i gyfeiriad Ty’n-y-Cei a rhydio’r afon i gyfeiriad Coed Helen, a chriw y Cynghorydd William Williams wrth eu cwt.   Pan oedd un o’r chwarelwyr hanner y ffordd ar draws yr afon, dyma fo’n gweiddi ar ei erlidwyr: “Does ganddo chi ddim bwledi, dim ond powdwr sy’n eich gynnau.”  Ond gwaeddodd un ohonynt – tafarnwr y Crown Inn:  “Mi ddangosaf iti beth sydd yn y gwn,” a thaniodd ergyd gan ei ladd.  
Rhedodd y chwarelwyr i gyfeiriad Ty’n-y-Cei a rhydio’r afon i gyfeiriad Coed Helen, a chriw y Cynghorydd William Williams wrth eu cwt. Pan oedd un o’r chwarelwyr hanner ffordd ar draws yr afon, dyma fo’n gweiddi ar ei erlidwyr: “Does ganddo chi ddim bwledi, dim ond powdwr sy’n eich gynnau.”  Ond gwaeddodd un ohonynt – tafarnwr y Crown Inn:  “Mi ddangosaf iti beth sydd yn y gwn,” a thaniodd ergyd gan ei ladd.  

Rhuthrodd rhai o’r chwarelwyr yn &ocirc;l at y sawl a laddwyd, cydio yn ei gorff ac anelu ar wib am ddiogelwch y coed.  
Rhuthrodd rhai o’r chwarelwyr yn &ocirc;l at y sawl a laddwyd, cydio yn ei gorff ac anelu ar wib am ddiogelwch y coed.  

Yna, aeth y Cynghorydd a’i griw i chwilio am yr hen ysbaddwr a chynnal achos yn ei erbyn yn y fan a’r lle. Fe’i cafwyd yn euog a phenderfynwyd ei grogi’n ddi-oed ger tafarn yr Anglesey.   Yna, fe’i tynnwyd i lawr a’i roi mewn arch a’i gludo i fynwent Llanbeblig.  

Ar yr un pryd yr oedd y chwarelwyr hwythau wedi gwneud arch ar gyfer yr un a saethwyd a’i phaentio, hanner yn hanner, yn goch a du, ac yn y pnawn ei chario mewn gorymdaith ddwys trwy strydoedd y dref ac i’r gladdfa yn Llandwrog.  
Ar yr un pryd roedd y chwarelwyr hwythau wedi gwneud arch ar gyfer yr un a saethwyd a’i phaentio, hanner yn hanner, yn goch a du, ac yn y pnawn ei chario mewn gorymdaith ddwys trwy strydoedd y dref ac i’r gladdfa yn Llandwrog.  

Trefnodd y Cynghorydd William Williams i rai o’r chwarelwyr gael eu dwyn gerbron y Llys Ynadon a’u cosbi.  Dihangodd rhai ohonynt o’r wlad.  Fel cadarnhad o’r hyn a ddigwyddodd, credir bod ysbryd y sawl oedd yn yr arch goch a du wedi bod yn aflonyddu ar y Crown Inn am ganrif, h.y. hyd at 1852, pryd y dymchwelwyd yr adeilad i wneud lle i’r rheilffordd.  

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:40, 19 Ebrill 2022

Mynydd cymharol ddi-nod ynddo'i hun yw Mynydd y Cilgwyn a welir yn glir o bron bob man yn Uwchgwyrfai uwchben pentref Carmel. Mae'r copa yn 347 metr neu 1138 troedfedd o uchder.[1]

Mynydd heb unrhyw arwyneb creigiog sylweddol ydyw, wedi ei orchuddio'n bennaf â grug ac eithin. Enwogrwydd y fan yw'r ffaith mai yma y cychwynnodd diwydiant llechi Dyffryn Nantlle. Mae tystiolaeth bendant bod cloddio yma ym 1745,[2] pan osodwyd prydles gan asiant y Goron dros Dir y Goron sef Tir Comin Moel Tryfan er y dywedir bod llechi wedi dod oddi yno hefyd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac wedyn tua 1300.

Prif leoliad chwarelydda ar y mynydd yw'r llethrau deheuol sy'n edrych dros Ddyffryn Nantlle, lle datblygodd Chwarel Cilgwyn yn nifer o dyllau dwfn iawn. Erbyn hyn mae rhai wedi eu llenwi gydag ysbwriel yr ardal i gyd, ac wedi eu gorchuddio.

Mae'r mynydd wedi rhoi ei enw i gasgliad o dyddynnod a thai, a chapel, sef Cilgwyn.

Terfysg yr ŷd ym 1752

Yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif roedd llywodraeth Prydain wedi codi pris ŷd mor uchel fel na allai pobl gyffredin ei fforddio. Roedd y sefyllfa mor druenus nes "penderfynodd chwarelwyr Mynydd y Cilgwyn ac o gylch Rhostryfan ymosod ar yr ysguboriau ŷd yn Stryd y Jêl, Caernarfon". [3]

Yr oeddent yn adnabod hen ysbaddwr teithiol ym Mhenrallt Isaf, Caernarfon, a arferai chwythu ei gorn ar groesffordd neu sgwär pentref i dynnu sylw ffermwyr yr ardaloedd ei fod ar gael a deuai’r ffermwyr ato i’r fan honno i gael ei wasanaeth ar eu ffermydd. Y tro hwn gofynnodd y chwarelwyr iddo chwythu ei gorn pe bai’n gweld perygl tra byddent hwythau'n ymosod ar yr ysguboriau.

Yn Ebrill 1752, cyrhaeddodd y chwarelwyr y dref am 10 o’r gloch y bore, a chafodd yr ysbaddwr wybod fod criw y Cynghorydd William Williams, Twrnai Cyffredinol Gogledd Cymru, yn disgwyl amdanynt yn nhafarn y Sportsman yn Stryd y Castell a chanodd ei gorn ar drothwy drws ei dŷ.

Rhedodd y chwarelwyr i gyfeiriad Ty’n-y-Cei a rhydio’r afon i gyfeiriad Coed Helen, a chriw y Cynghorydd William Williams wrth eu cwt. Pan oedd un o’r chwarelwyr hanner ffordd ar draws yr afon, dyma fo’n gweiddi ar ei erlidwyr: “Does ganddo chi ddim bwledi, dim ond powdwr sy’n eich gynnau.” Ond gwaeddodd un ohonynt – tafarnwr y Crown Inn: “Mi ddangosaf iti beth sydd yn y gwn,” a thaniodd ergyd gan ei ladd.

Rhuthrodd rhai o’r chwarelwyr yn ôl at y sawl a laddwyd, cydio yn ei gorff ac anelu ar wib am ddiogelwch y coed.

Yna, aeth y Cynghorydd a’i griw i chwilio am yr hen ysbaddwr a chynnal achos yn ei erbyn yn y fan a’r lle. Fe’i cafwyd yn euog a phenderfynwyd ei grogi’n ddi-oed ger tafarn yr Anglesey. Yna, fe’i tynnwyd i lawr a’i roi mewn arch a’i gludo i fynwent Llanbeblig.

Ar yr un pryd roedd y chwarelwyr hwythau wedi gwneud arch ar gyfer yr un a saethwyd a’i phaentio, hanner yn hanner, yn goch a du, ac yn y pnawn ei chario mewn gorymdaith ddwys trwy strydoedd y dref ac i’r gladdfa yn Llandwrog.

Trefnodd y Cynghorydd William Williams i rai o’r chwarelwyr gael eu dwyn gerbron y Llys Ynadon a’u cosbi. Dihangodd rhai ohonynt o’r wlad. Fel cadarnhad o’r hyn a ddigwyddodd, credir bod ysbryd y sawl oedd yn yr arch goch a du wedi bod yn aflonyddu ar y Crown Inn am ganrif, h.y. hyd at 1852, pryd y dymchwelwyd yr adeilad i wneud lle i’r rheilffordd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan The Mountain Guide, [1], cyrchwyd 17.11.2018
  2. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), t.218.
  3. Allan o W.H. Jones,Old Karnarvon, Argraffiad Newydd (Caernarfon,1984). Ceir cyfieithiad o’r hanes yn T. Meirion Hughes, Hanesion Tre’r Cofis.