Arfon (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Arfon''' yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o [[Uwchgwyrfai]]. | '''Arfon''' yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o [[Uwchgwyrfai]]. | ||
Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir (Sir Gaernarfon) oedd yn cynnwys pob man o | Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir ( [[Sir Gaernarfon (etholaeth)|Sir Gaernarfon]] ) oedd yn cynnwys pob man o Lysfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon (sedd a gynrychiolid gan [[David Lloyd George]] ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno. | ||
Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai. | Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac [[Eifion (etholaeth)]]. Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai. | ||
Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau [[Caernarfon (etholaeth)|Caernarfon]] a Chonwy | Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau [[Caernarfon (etholaeth)|Caernarfon]] a Chonwy. | ||
Arfon bellach yw'r enw ar etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a [[Dyffryn Nantlle|Nantlle]], yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef [[Llandwrog]], [[Llanllyfni]] a [[Llanwnda]].<ref>Erthygl Wicipedia ar Etholaeth Arfon, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Arfon_(etholaeth_seneddol)], cyrchwyd 6.5.2020</ref> Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, hon yw'r etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, [[Hywel Williams]] yw'r aelod Seneddol dros yr etholaeth a bu'n dal y sedd nes iddo ymddeol yn 2024. [[Sian Gwenllian]] yw'r aelod yn Senedd Cymru. Ei rhagflaenydd oedd [[Alun Ffred Jones]]. | |||
Erbyn etholiad 2024, roedd ffiniau etholaethau wedi newid eto, gyda rhannau gorllewinol etholaeth Arfon, yn cynnwys cymunedau Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda yn Uwchgwyrfai, yn cael eu cyplysu ag etholaeth estynedig newydd Dwyfor/Meirionnydd. Etholwyd [[Liz Saville Roberts]] yn aelod senedd San Steffan dros Blaid Cymru fis Gorffennaf 2024. | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:49, 25 Gorffennaf 2024
Arfon yw enw'r etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan ar gyfer rhan o Uwchgwyrfai.
Yn wreiddiol pan roddwyd yr hawl i Gymru gael aelodau seneddol ym 1536, roedd dwy etholaeth yn y sir, sef sedd y sir ( Sir Gaernarfon ) oedd yn cynnwys pob man o Lysfaen yn y dwyrain hyd Aberdaron yn y gorllewin, heblaw am rai bwrdeistrefi. Yr ail sedd oedd Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon (sedd a gynrychiolid gan David Lloyd George ymhen amser); bwrdeisiaid Bangor, Caernarfon, Conwy, Cricieth, Nefyn a Phwllheli oedd yn cael pleidleisio yn yr etholaeth honno.
Ym 1885, gyda phoblogaeth y sir yn tyfu, rhannwyd etholaeth y sir yn ddwy, sef etholaethau Arfon ac Eifion (etholaeth). Roedd yr hen etholaeth Arfon honno'n cynnwys y rhan o'r sir sydd yn ymestyn o Lanberis a Bangor hyd at ffin ddwyreiniol y sir, ac nid oedd dim o'r etholaeth honno yn Uwchgwyrfai.
Unwaith eto, ail-ffurfiwyd dwy etholaeth y sir yn un ym 1918, gan eu rhannu eto ym 1950, gan ffurfio etholaethau Caernarfon a Chonwy.
Arfon bellach yw'r enw ar etholaeth ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Ffiniau etholaeth yr Arfon newydd yw Dyffryn Ogwen, Bangor, Caernarfon, a Dyffrynnoedd Peris, Gwyrfai a Nantlle, yn cynnwys y tri phlwyf mwyaf gogleddol yn Uwchgwyrfai, sef Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.[1] Heblaw am ddwy etholaeth yn yr Alban, hon yw'r etholaeth leiaf o ran poblogaeth trwy wledydd Prydain. O'r dechrau, Hywel Williams yw'r aelod Seneddol dros yr etholaeth a bu'n dal y sedd nes iddo ymddeol yn 2024. Sian Gwenllian yw'r aelod yn Senedd Cymru. Ei rhagflaenydd oedd Alun Ffred Jones.
Erbyn etholiad 2024, roedd ffiniau etholaethau wedi newid eto, gyda rhannau gorllewinol etholaeth Arfon, yn cynnwys cymunedau Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda yn Uwchgwyrfai, yn cael eu cyplysu ag etholaeth estynedig newydd Dwyfor/Meirionnydd. Etholwyd Liz Saville Roberts yn aelod senedd San Steffan dros Blaid Cymru fis Gorffennaf 2024.