Castell Cidwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae rhai wedi honni fod '''Castell Cidwm''' yn | Mae rhai wedi honni fod '''Castell Cidwm''' yn rhyw fath ar amddiffynfa hynafol. Mae'n sefyll ger ochr ddwyreiniol Craig Cwmbychan uwchben [[Llyn Cwellyn]]. Fodd bynnag, mae archaeolegwyr mwy cyfoes yn gwadu'r ffaith ei fod yn heneb a wnaed gan ddyn, gan ddweud ei fod yn nodwedd naturiol, er gwaetha'r ffaith fod mapiau Ordnans yn rhoi enw Castell Cidwm mewn llythrennau arbennig i ddangos heneb o ryw fath.<ref> Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.533</ref> Mae'n graig serth ac uchel, a'r dybiaeth oedd bod castell wedi arfer bod ar ei phen a fyddai'n amddiffyn Yr Wyddfa rhag ymosodiad.<ref>George Nicholson, ''The Cambrian Traveller's Guide'', (Stourport, 1808), colofn 92</ref> | ||
Mae'r plasty bychan a elwir yn Gastell Cidwm wedi bod yn westy tan yn bur ddiweddar a bwriad perchennog newydd yr adeilad, y miliwnydd o Ddinbych Lawrence Jones, yw ei droi'n westy o safon uchel.<ref>''Daily Post'', 29.11.2016</ref> Nid yw'r tŷ hwn yn [[Uwchgwyrfai]], fodd bynnag, gan ei fod yn sefyll yr ochr draw i [[Afon Gwyrfai]] wrth fala Llyn Cwellyn, ac felly yng | Mae chwedl yn perthyn i'r graig, sef mai yma y trigai [[Cidwm]], cawr a oedd yn elyniaethus i Gwstennin, mab Helen Luyddog. Wrth i Helen arwain byddin i Feirionnydd ar hyd y dyffryn, roedd ei mab Cwstennin ymysg y rhai olaf yn y fintai, ac fe saethodd Cidwm Gwstennin gyda bwa saeth. Fe gladdwyd corff Cwstennin, yn ôl y chwedl, mewn man a elwid yn Fedd y Mab ger y llyn.<ref>W. Bingley, ''North Wales: Including Its Scenery, Antiquities, Customs, and Some Sketches of Its Natural History'', (Llundain, 1804), t.361</ref> | ||
Mae'r plasty bychan a elwir yn Gastell Cidwm wedi bod yn westy tan yn bur ddiweddar a bwriad perchennog newydd yr adeilad, y miliwnydd o Ddinbych Lawrence Jones, yw ei droi'n westy o safon uchel.<ref>''Daily Post'', 29.11.2016</ref> Nid yw'r tŷ hwn yn [[Uwchgwyrfai]], fodd bynnag, gan ei fod yn sefyll yr ochr draw i [[Afon Gwyrfai]] wrth fala Llyn Cwellyn, ac felly yng nghwmwd [[Isgwyrfai]]. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] | ||
[[Categori:Chwedloniaeth]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:48, 7 Ebrill 2022
Mae rhai wedi honni fod Castell Cidwm yn rhyw fath ar amddiffynfa hynafol. Mae'n sefyll ger ochr ddwyreiniol Craig Cwmbychan uwchben Llyn Cwellyn. Fodd bynnag, mae archaeolegwyr mwy cyfoes yn gwadu'r ffaith ei fod yn heneb a wnaed gan ddyn, gan ddweud ei fod yn nodwedd naturiol, er gwaetha'r ffaith fod mapiau Ordnans yn rhoi enw Castell Cidwm mewn llythrennau arbennig i ddangos heneb o ryw fath.[1] Mae'n graig serth ac uchel, a'r dybiaeth oedd bod castell wedi arfer bod ar ei phen a fyddai'n amddiffyn Yr Wyddfa rhag ymosodiad.[2]
Mae chwedl yn perthyn i'r graig, sef mai yma y trigai Cidwm, cawr a oedd yn elyniaethus i Gwstennin, mab Helen Luyddog. Wrth i Helen arwain byddin i Feirionnydd ar hyd y dyffryn, roedd ei mab Cwstennin ymysg y rhai olaf yn y fintai, ac fe saethodd Cidwm Gwstennin gyda bwa saeth. Fe gladdwyd corff Cwstennin, yn ôl y chwedl, mewn man a elwid yn Fedd y Mab ger y llyn.[3]
Mae'r plasty bychan a elwir yn Gastell Cidwm wedi bod yn westy tan yn bur ddiweddar a bwriad perchennog newydd yr adeilad, y miliwnydd o Ddinbych Lawrence Jones, yw ei droi'n westy o safon uchel.[4] Nid yw'r tŷ hwn yn Uwchgwyrfai, fodd bynnag, gan ei fod yn sefyll yr ochr draw i Afon Gwyrfai wrth fala Llyn Cwellyn, ac felly yng nghwmwd Isgwyrfai.
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.533
- ↑ George Nicholson, The Cambrian Traveller's Guide, (Stourport, 1808), colofn 92
- ↑ W. Bingley, North Wales: Including Its Scenery, Antiquities, Customs, and Some Sketches of Its Natural History, (Llundain, 1804), t.361
- ↑ Daily Post, 29.11.2016