Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 8 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn''' yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr ogleddol yn [[Uwchgwyrfai]], mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi [[Capel Uchaf]] a[[Tai'nlôn|Thai'nlôn]] a mynyddoedd [[Bwlch Mawr]] a'r [[Gurn ddu]], cyn rhedeg i lawr [[Cwm Coryn]] i bentref [[Llanaelhaearn]] ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, mynyddoedd [[Yr Eifl]].
Mae '''Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn''' yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn, ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr gogleddol yn [[Uwchgwyrfai]], mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi [[Capel Uchaf]] a [[Tai'n lôn|Thai'n lôn]] a mynyddoedd [[Bwlch Mawr]] a'r [[Gurn Ddu]], cyn rhedeg i lawr [[Cwm Coryn]] i bentref [[Llanaelhaearn]] ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, fynyddoedd [[Yr Eifl]].


Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad [[Cyngor Gwynedd]]. Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectâr.<ref>Gwefan AHNE Llŷn, [http://www.ahne-llyn-aonb.org/1/cy-GB/Hafan], cyrchwyd 28.4.2020</ref>
Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad [[Cyngor Gwynedd]]. Roedd yn un o'r AoeddHNE cyntaf i gael eu dynodi - y gyntaf ym Mhrydain oedd Penrhyn Gŵyr, hefyd ym 1956. Dynodir AHNE oherwydd ei gwerth o ran tirwedd nodedig, er mwyn gwarchod y tirwedd hwnnw. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sydd yn gyfrifol am ddynodi ardaloedd o'r fath. Maent yn cael yr un faint o warchodaeth rhag cael eu datblygu â'r parciau cenedlaethol, ac maent o'r un pwysigrwydd â nhw o ran tirwedd, treftadaeth a natur, er nad oes corff ar wahân i ofalu am faterion cynllunio o fewn eu ffiniau, gan ddibynnu am hynny ar y cyngor sir perthnasol. Hefyd nid oes rhaid cael yr un faint o gyfleon ar gyfer hamdden awyr agored sylweddol.<ref>Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, [https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/wildlife-and-biodiversity/protected-areas-of-land-and-seas/types-of-protected-areas-of-land-and-sea/?lang=cy], cyrchwyd 29.4.2020</ref>
 
Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectar.<ref>Gwefan AHNE Llŷn, [http://www.ahne-llyn-aonb.org/1/cy-GB/Hafan], cyrchwyd 28.4.2020</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
Llinell 7: Llinell 9:
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Ffiniau]]
[[Categori:Ffiniau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:54, 23 Mawrth 2022

Mae Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn cynnwys y rhan fwyaf o arfordir Penrhyn Llŷn, ar wahân i leoedd poblog megis Nefyn. Yn ei chwr gogleddol yn Uwchgwyrfai, mae'r ffin yn cychwyn yn Aberdesach, gan ymestyn i'r tir i gynnwys pentrefi Capel Uchaf a Thai'n lôn a mynyddoedd Bwlch Mawr a'r Gurn Ddu, cyn rhedeg i lawr Cwm Coryn i bentref Llanaelhaearn ac ymlaen dros y wlad i gyfeiriad Pistyll, gan gynnwys felly, fynyddoedd Yr Eifl.

Sefydlwyd yr AHNE ym 1956, ac mae'n cael ei gweinyddu gan adran cefn gwlad Cyngor Gwynedd. Roedd yn un o'r AoeddHNE cyntaf i gael eu dynodi - y gyntaf ym Mhrydain oedd Penrhyn Gŵyr, hefyd ym 1956. Dynodir AHNE oherwydd ei gwerth o ran tirwedd nodedig, er mwyn gwarchod y tirwedd hwnnw. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sydd yn gyfrifol am ddynodi ardaloedd o'r fath. Maent yn cael yr un faint o warchodaeth rhag cael eu datblygu â'r parciau cenedlaethol, ac maent o'r un pwysigrwydd â nhw o ran tirwedd, treftadaeth a natur, er nad oes corff ar wahân i ofalu am faterion cynllunio o fewn eu ffiniau, gan ddibynnu am hynny ar y cyngor sir perthnasol. Hefyd nid oes rhaid cael yr un faint o gyfleon ar gyfer hamdden awyr agored sylweddol.[1]

Mae'r ardal i gyd yn cynnwys 15,500 hectar.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru, [1], cyrchwyd 29.4.2020
  2. Gwefan AHNE Llŷn, [2], cyrchwyd 28.4.2020