Cyff Beuno: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Cyff Beuno''' yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnensydd i'w gweld mewn cas gwydr yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd hi'n arfer gan ffermwyr y plwyf rhoi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau a elwid yn "[[Nôd Beuno|nôd Beuno]]" i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, fe wnaed cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.<ref>R.D. Roberts, ''Clynnog, its Saint and its Church'', sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954</ref>
[[Delwedd:Eglwys Beuno Sant Clynnog Fawr Cyff Beuno - St Beuno's Chest - geograph.org.uk - 587286.jpg|bawd|de|300px|Llun:Alan Fryer. Comins Wicimedia]]


Mae cloeon ar y gist sy'n dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39</ref>
Mae '''Cyff Beuno''' yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnen sydd i'w gweld mewn cas gwydr yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian ynddi at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd yn arfer gan ffermwyr y plwyf roi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau, a elwid yn "[[Nod Beuno|nod Beuno]]", i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, rhoddid cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.<ref>R.D. Roberts, ''Clynnog, its Saint and its Church'', sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954</ref>
 
Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39</ref>
 
"Cyff Beuno" hefyd yw'r enw a roddodd [[Eben Fardd]] ar awdl o'i waith a gyfansoddodd ar achlysur atgyweirio Eglwys [[Clynnog Fawr]]. Mae hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro. Cyhoeddwyd y gyfrol honno - sy'n cynnwys yr awdl - yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes [[Beuno Sant]], yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol eu naws (yn ôl dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl. Hefyd ceir manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau gan [[Ioan ab Hu Feddyg]] am y bardd a'i "hynodion", sef cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd. Er bod dros ganrif a hanner bellach wedyn mynd heibio ers cyhoeddi'r llyfr, a bod llawer o ymchwil hanesyddol wedi ei gwneud ers hynny, eto gellir honni mai dyma un o'r gweithiau cynnar pwysicaf ar hanes [[Uwchgwyrfai]], os nad ym maes hanes lleol yng Nghymru, oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal. Mae'n parhau'n ffynhonnell ddefnyddiol hyd heddiw ar gyfer astudio hanes yr ardal.


"Cyff Beuno" hefyd yw'r enw a roddodd [[Eben Fardd]] ar awdl o'i waith i nodi atgyweiiad Eglwys [[Clynnog Fawr]] ac hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro - gan gynnwys yr awdl, ac a gyhoeddwyd yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes [[Beuno Sant]], yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol ei naws (yn ol dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl, a manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau am y bardd a'i "hynodion" gan [[Ioan ab Hu Feddyg]], sef cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd. Er rhaid cofio mai dros 150 oed yw'r llyfr a llawer o waith hanesyddol wedi ei wneud ers hynny, gellid honni mai' dyma un o weithiau pwysicaf ar hanes [[Uwchgwyrfai]] hyd yn ddiweddar oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal.


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Elusen]]
[[Categori:Elusen]]
[[Categori:Amryw]]
[[Categori:Amryw]]
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Barddoniaeth]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:45, 27 Hydref 2024

Llun:Alan Fryer. Comins Wicimedia

Mae Cyff Beuno yn enw ar hen gist 3 troedfedd 9 modfedd o hyd wedi ei cherfio o un darn soled o bren onnen sydd i'w gweld mewn cas gwydr yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Mae hollt bach yn nhop y gist lle gellid rhoi arian ynddi at yr eglwys. Tan ganol y 19g roedd yn arfer gan ffermwyr y plwyf roi gwartheg gyda marc arbennig ar eu clustiau, a elwid yn "nod Beuno", i wardeiniaid yr eglwys a byddai'r swyddogion hynny wedyn yn eu gwerthu, a rhoi'r arian a gafwyd amdanynt yn y gist. Hefyd, rhoddid cyfraniadau gan y rhai a oedd yn awyddus i brynu maddeuant am eu pechodau.[1]

Mae'r cloeon ar y gist yn dyddio o'r 16-17g., ond mae'r gist ei hun a'r strapiau haearn arni'n dyddio o'r canol oesoedd yn ôl pob tebyg.[2]

"Cyff Beuno" hefyd yw'r enw a roddodd Eben Fardd ar awdl o'i waith a gyfansoddodd ar achlysur atgyweirio Eglwys Clynnog Fawr. Mae hefyd yn deitl ar ei lyfr sydd yn ymwneud â hanes y fro. Cyhoeddwyd y gyfrol honno - sy'n cynnwys yr awdl - yn Nhremadog wedi ei farwolaeth ym 1863. Mae'r awdl yn dal yn ddigon difyr a darllenadwy ac yn rhoi cip ar hanes Beuno Sant, yr eglwys a'r sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â hi fel y canfyddid yr hanes mewn oes pan nad oedd ffynonellau dibynadwy ar gael i haneswyr yn gyffredinol. Mae gweddill y llyfr yn cynnwys nodiadau ffeithiol eu naws (yn ôl dealltwriaeth yr oes) ar bethau yr ymdrinnir â hwy yn yr awdl. Hefyd ceir manylion am enwogion y plwyf a'u hachau a nodweddion hanesyddol eglwys a phlwyf Clynnog Fawr. Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys nodiadau gan Ioan ab Hu Feddyg am y bardd a'i "hynodion", sef cofiant a gwerthfawrogiad o Eben Fardd. Er bod dros ganrif a hanner bellach wedyn mynd heibio ers cyhoeddi'r llyfr, a bod llawer o ymchwil hanesyddol wedi ei gwneud ers hynny, eto gellir honni mai dyma un o'r gweithiau cynnar pwysicaf ar hanes Uwchgwyrfai, os nad ym maes hanes lleol yng Nghymru, oherwydd ei flaengaredd a'r ymdrech i gofnodi hanes ffeithiol yr ardal. Mae'n parhau'n ffynhonnell ddefnyddiol hyd heddiw ar gyfer astudio hanes yr ardal.


Cyfeiriadau

  1. R.D. Roberts, Clynnog, its Saint and its Church, sef tywyslyfr i'r eglwys, c.1954
  2. Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.39