Capel Horeb (W), Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Adeiladwyd y '''Capel Horeb''' a welir heddiw ar Ffordd y Sir, [[Pen-y-groes]] ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.<ref>Archifdy Gwynedd, XD34/669</ref> Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaeth ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar [[Wesla Bach Llanllyfni]]) ac ym 1866, agorwyd capel ar draul o ryw £100 ym Mhen-y-groes, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gyda wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr ''Eurgrawn Wesleyaidd'', fodd bynnag, nis enwir y capel.<ref>''Eurfgrawn Wesleyaidd'' (Cyf.58, 1866), t.347</ref>
Adeiladwyd '''Capel Horeb''' a welir heddiw ar Ffordd y Sir, [[Pen-y-groes]] ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.<ref>Archifdy Gwynedd, XD34/669</ref>  


Caewyd yr achos yn weddol fuan wedyn, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.
Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaidd ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar [[Wesla Bach Llanllyfni]]) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y [[Capel Bethel (W), Pen-y-groes|capel]] i'r Calfiniaid ym 1847. Daliai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond bu'n rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.58, 1866), t.126</ref>  Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.57, 1865), t.467</ref> Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac, ym 1866, cymerwyd yr hen gapel ym Mhen-y-groes yn ei ôl ar gost o oddeutu £100 rhwng y pryniant ac atgyweiriadau, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gydag wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr ''Eurgrawn Wesleyaidd'', fodd bynnag, nis enwir y capel.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'' (Cyf.58, 1866), t.347</ref> Ysywaeth, roedd y capel ar gyrion pellaf Pen-y-groes, a nifer helaeth o'r aelodau'n gorfod cerdded tair milltir un ffordd o [[Nantlle]], [[Tal-y-sarn]] a [[Llanllyfni]]; nid oedd y genhadaeth mor llwyddiannus ag yr hoffid, ac fe symudwyd y cenhadwr cyflogedig i Lanberis tua 1872 lle byddai, yn ôl y farn gyffredinol, yn cael mwy o lwyddiant. Ym 1875, dechreuwyd symudiad i godi capel newydd mewn man mwy canolog, gydag apêl fawr a blodeuog Hugh Jones, Bathafarn House, Caernarfon yn yr ''Eurgrawn'' yn gofyn am gyfraniadau.<ref>''Eurgrawn Wesleyaidd'', (Cyf.68, 1876), t.207</ref>


Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb.
Caewyd yr achos yn weddol fuan ar ôl dathlu canmlwyddiant yr adeilad, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.
 
Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb, a hynny ers y dechrau yn yr 1830au.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:39, 10 Rhagfyr 2021

Adeiladwyd Capel Horeb a welir heddiw ar Ffordd y Sir, Pen-y-groes ym 1878 a dathlwyd ei ganmlwyddiant ym 1978, pan gyhoeddwyd llyfryn i ddathlu'r achlysur.[1]

Fodd bynnag, roedd presenoldeb Wesleyaidd ym Mhen-y-groes yn y 1830au (gweler yr erthygl ar Wesla Bach Llanllyfni) ond aeth yr achos i lawr oherwydd rhaniadau, a gwerthwyd y capel i'r Calfiniaid ym 1847. Daliai ambell i aelod yn anfodlon i symud at enwad arall, ond bu'n rhaid disgwyl tan 1865-6 pan ddynododd Cyfarfod Cyllidol Wesleaid y Gogledd Ben-y-groes fel gorsaf y genhadaeth gartref.[2] Meddai sylwebydd yn y cyfarfod hwnnw: "yr oedd yn wir dda gennyf glywed y cais o Gaernarfon am genhadwr cartrefol, er mwyn ceisio cychwyn achos yn Penygroes, Llanllyfni, lle y mae galw taer amdanom, ac angen mawr am ein gwasanaeth."[3] Erbyn yr 1860au, roedd y Calfiniaid wedi codi capel newydd crand gerllaw ac, ym 1866, cymerwyd yr hen gapel ym Mhen-y-groes yn ei ôl ar gost o oddeutu £100 rhwng y pryniant ac atgyweiriadau, pan ddywedwyd bod "Wesleyaeth eto yn cael ei phlanu yn yr ardal", a hynny gydag wythnos o bregethau a chyfarfodydd. Yn yr adroddiad yn yr Eurgrawn Wesleyaidd, fodd bynnag, nis enwir y capel.[4] Ysywaeth, roedd y capel ar gyrion pellaf Pen-y-groes, a nifer helaeth o'r aelodau'n gorfod cerdded tair milltir un ffordd o Nantlle, Tal-y-sarn a Llanllyfni; nid oedd y genhadaeth mor llwyddiannus ag yr hoffid, ac fe symudwyd y cenhadwr cyflogedig i Lanberis tua 1872 lle byddai, yn ôl y farn gyffredinol, yn cael mwy o lwyddiant. Ym 1875, dechreuwyd symudiad i godi capel newydd mewn man mwy canolog, gydag apêl fawr a blodeuog Hugh Jones, Bathafarn House, Caernarfon yn yr Eurgrawn yn gofyn am gyfraniadau.[5]

Caewyd yr achos yn weddol fuan ar ôl dathlu canmlwyddiant yr adeilad, ac ar ôl cael ei werthu, trowyd y capel yn fflatiau.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Horeb, a hynny ers y dechrau yn yr 1830au.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD34/669
  2. Eurgrawn Wesleyaidd, (Cyf.58, 1866), t.126
  3. Eurgrawn Wesleyaidd, (Cyf.57, 1865), t.467
  4. Eurgrawn Wesleyaidd (Cyf.58, 1866), t.347
  5. Eurgrawn Wesleyaidd, (Cyf.68, 1876), t.207