Setiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''setiau''' yn flociau | Mae '''setiau''' (neu "sets" fel y dywedir yn gyffredin) yn flociau sgwâr o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Fel rheol roeddent yn giwbiau pedair modfedd sgwâr, er y ceid rhai hirsgwar mwy 6" x 4" ar adegau. Yn [[Uwchgwyrfai]], [[Chwarel yr Eifl]] yn [[Trefor|Nhrefor]] oedd y brif ganolfan gwneud sets, a thros y blynyddoedd allforiwyd miloedd lawer o dunelli ohonynt o'r harbwr yno. Bu sets yn cael eu cynhyrchu hefyd ar raddfa lai yn chwareli [[Chwarel Tan-y-graig|Tan y Graig]] a [[Chwarel Tyddyn Hywel|Thyddyn Hywel]] ar y [[Gurn Ddu]], gyda'r cerrig yn cael eu hallforio o ddau gei a oedd ar y traeth islaw. Cerrig palmantu yw sets, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn eithriadol o barhaol ac yn haws i'w gosod a'u cynnal a'u cadw nag arwyneb wedi ei greu o gerrig mân naturiol (''cobblestones''). Fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nag ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb o boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig. Sets oedd prif gynnyrch y chwareli ithfaen o'r adeg pan gawsant eu hagor tua chanol y 19g hyd at oddeutu'r 1930au. O'r adeg honno ymlaen, ac yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth oes y sets yn raddol i ben gyda'r chwareli wedyn yn cynhyrchu metlin o wahanol faint a gymysgid â tharmacadam i wynebu ffyrdd. Cynhyrchid y metlin drwy falu'r cerrig ithfaen mewn peiriannau enfawr, megis y "crusher" a fu'n rhan mor amlwg o Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer. Gyda'r newid mawr hwnnw edwinodd y grefft o dorri neu naddu cerrig sets, er i rai barhau i gael eu cynhyrchu ar raddfa fechan am flynyddoedd wedyn. Fel holltwyr llechi yn y chwareli llechi, roedd torri sets yn grefft arbennig a drosglwyddid o un genhedlaeth i'r llall. Arferai'r setsmyn weithio mewn rhesi o gytiau ar bonciau'r chwarel gan dorri'r blociau ithfaen mawr a gludid iddynt yn sets drwy ddefnyddio amrywiaeth o gynion a morthwylion. Roedd hynny'n cynhyrchu llawer iawn o sglodion gwastraff, sydd i'w gweld wrth y cytiau ar bonciau'r chwareli ithfaen o hyd. <ref>Erthygl Wikipedia ar "Set (Paving)", [https://en.wikipedia.org/wiki/Sett_(paving)]</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | |||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Ithfaen]] | [[Categori:Ithfaen]] | ||
[[Categori:Chwarelydda]] | [[Categori:Chwarelydda]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:54, 3 Mawrth 2022
Mae setiau (neu "sets" fel y dywedir yn gyffredin) yn flociau sgwâr o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Fel rheol roeddent yn giwbiau pedair modfedd sgwâr, er y ceid rhai hirsgwar mwy 6" x 4" ar adegau. Yn Uwchgwyrfai, Chwarel yr Eifl yn Nhrefor oedd y brif ganolfan gwneud sets, a thros y blynyddoedd allforiwyd miloedd lawer o dunelli ohonynt o'r harbwr yno. Bu sets yn cael eu cynhyrchu hefyd ar raddfa lai yn chwareli Tan y Graig a Thyddyn Hywel ar y Gurn Ddu, gyda'r cerrig yn cael eu hallforio o ddau gei a oedd ar y traeth islaw. Cerrig palmantu yw sets, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn eithriadol o barhaol ac yn haws i'w gosod a'u cynnal a'u cadw nag arwyneb wedi ei greu o gerrig mân naturiol (cobblestones). Fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nag ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb o boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig. Sets oedd prif gynnyrch y chwareli ithfaen o'r adeg pan gawsant eu hagor tua chanol y 19g hyd at oddeutu'r 1930au. O'r adeg honno ymlaen, ac yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth oes y sets yn raddol i ben gyda'r chwareli wedyn yn cynhyrchu metlin o wahanol faint a gymysgid â tharmacadam i wynebu ffyrdd. Cynhyrchid y metlin drwy falu'r cerrig ithfaen mewn peiriannau enfawr, megis y "crusher" a fu'n rhan mor amlwg o Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer. Gyda'r newid mawr hwnnw edwinodd y grefft o dorri neu naddu cerrig sets, er i rai barhau i gael eu cynhyrchu ar raddfa fechan am flynyddoedd wedyn. Fel holltwyr llechi yn y chwareli llechi, roedd torri sets yn grefft arbennig a drosglwyddid o un genhedlaeth i'r llall. Arferai'r setsmyn weithio mewn rhesi o gytiau ar bonciau'r chwarel gan dorri'r blociau ithfaen mawr a gludid iddynt yn sets drwy ddefnyddio amrywiaeth o gynion a morthwylion. Roedd hynny'n cynhyrchu llawer iawn o sglodion gwastraff, sydd i'w gweld wrth y cytiau ar bonciau'r chwareli ithfaen o hyd. [1]