William Roberts (Gwilym Ceiri): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Un o feirdd gorau Trefor oedd William Roberts, Hendre. Defnyddiodd yr enw barddol 'Gwilym Ceiri', ond pur ddiarth oedd yr enw hwn i bobl yr ardal. 'Wiliam...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Un o feirdd gorau Trefor oedd William Roberts, Hendre. Defnyddiodd yr enw barddol 'Gwilym Ceiri', ond pur ddiarth oedd yr enw hwn i bobl yr ardal. 'Wiliam Robaitsh' yn unig a ddefnyddid.
Un o feirdd gorau [[Trefor]] oedd [[William Roberts]] (1881-1967), Hendre. Defnyddiodd yr enw barddol 'Gwilym Ceiri', ond pur ddiarth oedd yr enw hwn i bobl yr ardal. 'Wiliam Robaitsh' yn unig a ddefnyddid.


Fe'i ganwyd yn Nhrefor ddydd Gŵyl Ddewi 1881, a bu farw 13 Mai 1967 yn 86 mlwydd oed. Chwarelwr (Setsmon) oedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ddiacon yng Nghapel Maesyneuadd (A). Roedd hefyd yn hanesydd lleol dygn ac ef fyddai'n ysgrifennu colofn newyddion y pentref yn yr ''Herald Cymraeg'' a'r ''Caernarfon & Denbigh Herald'' am flynyddoedd lawer ganol yr ugeinfed ganrif. Enillodd lawer o brif wobrau eisteddfodau lleol e.e. Cadair Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor 1924.
Fe'i ganwyd yn Nhrefor ddydd Gŵyl Ddewi 1881, a bu farw 13 Mai 1967 yn 86 mlwydd oed. Chwarelwr (Setsmon) oedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ddiacon yng [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|Nghapel Maesyneuadd (A)]]. Roedd hefyd yn hanesydd lleol dygn ac ef fyddai'n ysgrifennu colofn newyddion y pentref yn yr ''Herald Cymraeg'' a'r ''Caernarfon & Denbigh Herald'' am flynyddoedd lawer ganol yr ugeinfed ganrif. Enillodd lawer o brif wobrau eisteddfodau lleol e.e. Cadair Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor 1924.


Fodd bynnag, ei hoff gyfrwng oedd yr englyn, ac yn ôl neb llai nag R.Williams Parry, mae englyn enwog Gwilym Ceiri i'r Pistyll yn un o englynion gorau'r Gymraeg. Er mai at y ''Pin Dŵr'' yn Nhrefor y cyfeiria'r englyn yn wreiddiol, dywedir y byddai 'Cyflawnder yr Efengyl' wedi bod yn gystal teitl i'r englyn. Dyma fo :
Fodd bynnag, ei hoff gyfrwng oedd yr englyn, ac yn ôl neb llai nag R.Williams Parry, mae englyn enwog Gwilym Ceiri i'r Pistyll yn un o englynion gorau'r Gymraeg. Er mai at y ''Pin Dŵr'' yn Nhrefor y cyfeiria'r englyn yn wreiddiol, dywedir y byddai 'Cyflawnder yr Efengyl' wedi bod yn gystal teitl i'r englyn. Dyma fo :
Llinell 12: Llinell 12:
         ''Rhed atom yn rhad eto.''
         ''Rhed atom yn rhad eto.''


Dywedodd Cynan, fu'n athro ar lenyddiaeth Gymraeg i ddosbarth WEA Trefor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel hyn am William Roberts :
Dywedodd [[Cynan]], fu'n athro ar lenyddiaeth Gymraeg i ddosbarth WEA Trefor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel hyn am William Roberts:


''Dyma ganfod mewn hynafgwr rodd, dawn, awen bardd, a lifai mor loyw-lân â'r pistyll ei hun.''
''Dyma ganfod mewn hynafgwr rodd, dawn, awen bardd, a lifai mor loyw-lân â'r pistyll ei hun.''


Dyma gerdd arall ganddo sy'n dangos symlrwydd hardd a swyn ei ddawn delynegol :
Dyma gerdd arall ganddo sy'n dangos symlrwydd hardd a swyn ei ddawn delynegol:


             '''FY NGŴYL'''
             '''FY NGŴYL'''
Llinell 34: Llinell 34:
   ''O ferw'r byd ar ddydd fy ngŵyl''
   ''O ferw'r byd ar ddydd fy ngŵyl''
       ''I odre'r Eifl af i.''
       ''I odre'r Eifl af i.''
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Beirdd]]
[[Categori:Chwarelwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:55, 18 Chwefror 2020

Un o feirdd gorau Trefor oedd William Roberts (1881-1967), Hendre. Defnyddiodd yr enw barddol 'Gwilym Ceiri', ond pur ddiarth oedd yr enw hwn i bobl yr ardal. 'Wiliam Robaitsh' yn unig a ddefnyddid.

Fe'i ganwyd yn Nhrefor ddydd Gŵyl Ddewi 1881, a bu farw 13 Mai 1967 yn 86 mlwydd oed. Chwarelwr (Setsmon) oedd wrth ei alwedigaeth, ac yn ddiacon yng Nghapel Maesyneuadd (A). Roedd hefyd yn hanesydd lleol dygn ac ef fyddai'n ysgrifennu colofn newyddion y pentref yn yr Herald Cymraeg a'r Caernarfon & Denbigh Herald am flynyddoedd lawer ganol yr ugeinfed ganrif. Enillodd lawer o brif wobrau eisteddfodau lleol e.e. Cadair Eisteddfod Gŵyl Ddewi Trefor 1924.

Fodd bynnag, ei hoff gyfrwng oedd yr englyn, ac yn ôl neb llai nag R.Williams Parry, mae englyn enwog Gwilym Ceiri i'r Pistyll yn un o englynion gorau'r Gymraeg. Er mai at y Pin Dŵr yn Nhrefor y cyfeiria'r englyn yn wreiddiol, dywedir y byddai 'Cyflawnder yr Efengyl' wedi bod yn gystal teitl i'r englyn. Dyma fo :

               Y PISTYLL
    Bu nain a bu nain honno - â'i phiser
          Hen ffasiwn o dano,
        Er rhoi fel hyn er cyn co'
        Rhed atom yn rhad eto.

Dywedodd Cynan, fu'n athro ar lenyddiaeth Gymraeg i ddosbarth WEA Trefor yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel hyn am William Roberts:

Dyma ganfod mewn hynafgwr rodd, dawn, awen bardd, a lifai mor loyw-lân â'r pistyll ei hun.

Dyma gerdd arall ganddo sy'n dangos symlrwydd hardd a swyn ei ddawn delynegol:

            FY NGŴYL
  Cyrched y dorf i'r tiroedd pell,
     Cyrched hyd lannau'r lli ;
  O ferw'r byd ar ddydd fy ngŵyl
     I odre'r Eifl af i.
  Caf newydd hoen i'm hysbryd llesg,
     O dlysni'i pherth a'i llwyn,
  A balm i glwy' fy hiraeth hir
     Yw rhin ei hawel fwyn.
  Cyrched y dorf i'r tiroedd pell,
     Cyrched hyd lannau'r lli ;
  O ferw'r byd ar ddydd fy ngŵyl
     I odre'r Eifl af i.